Y Cyfrifiad fydd y 'prawf cyntaf' i gynllun Cymraeg 2050

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Tri pheth i'w gwylio yng nghanlyniadau’r Cyfrifiad am yr iaith Gymraeg ddydd Mawrth

Canlyniadau'r Cyfrifiad am y Gymraeg fydd y prawf cyntaf o bolisi iaith Llywodraeth Cymru, yn ôl arbenigwr ar bolisi iaith a chynllunio ieithyddol.

Mae 'na bum mlynedd ers cyhoeddi cynllun Cymraeg 2050, sydd â'r targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Mae Dr Cynog Prys o Brifysgol Bangor yn dweud y byddwn ni'n gweld ddydd Mawrth a ydyn ni'n debyg o gyrraedd y nod, wrth i ragor o ganlyniadau'r Cyfrifiad y llynedd gael eu cyhoeddi.

Yn y cyfamser mae ymgyrchwyr wedi croesawu agor Ysgol Gymraeg newydd yn Sir Fynwy y flwyddyn nesaf.

Roedd hi'n un o dair sir welodd canran y siaradwyr Cymraeg yn cynyddu neu'n aros yn sefydlog yn y Cyfrifiad diwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Catrin Daniel fod cyfleoedd i siarad Cymraeg yn Sir Fynwy ar gynnydd

Tua 10% o boblogaeth Sir Fynwy sy'n siarad Cymraeg felly mae cyfleodd i ddefnyddio'r iaith yn y gymuned wedi bod yn brin.

Ond mae hynny'n dechrau newid yn ôl pennaeth Ysgol y Ffin, Catrin Daniel.

"Mae ambell gyfle'n dechrau codi gyda chlybiau'r Urdd a'r Mentrau Iaith ac mae hynny'n grêt i weld," meddai.

"Ni'n trio mynd â phlant mas gymaint â ni'n gallu fel eu bod nhw'n clywed y Gymraeg yn y gymuned.

"Ni'n mynd â nhw i grwpiau sgwrsio cymdeithasol yn y llyfrgell a chanolfan Together Works yng Nghil-y-Coed."

Disgrifiad o’r llun,

"Os ni'n siarad mwy o Gymraeg ni'n dysgu mwy o Gymraeg," meddai Pippa

Ymhlith y plant sy'n elwa mae Pippa, sydd ym mlwyddyn 4. Mae hi'n mynd i glwb gwnïo'r fenter iaith.

"Os ni'n siarad mwy o Gymraeg ni'n dysgu mwy o Gymraeg," meddai.

Mae Gruffydd, sydd ym mlwyddyn 6, yn mynd i glwb yr Urdd ar ôl ysgol.

"Weithiau mae Mam yn siarad Cymraeg gyda fi a dwi'n gallu siarad Cymraeg gyda fy chwaer hefyd," meddai.

"Dwi'n chwarae pêl-droed ond dim ond un bachgen arall yn y tîm sydd yn siarad Cymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond un chwaraewr arall yn nhîm pêl-droed Gruffydd sy'n siarad Cymraeg

Mae cynyddu nifer y plant mewn addysg Gymraeg yn rhan o bolisi Cymraeg 2050 y llywodraeth.

Ym mis Medi y flwyddyn nesa' fe fydd egin ysgol yn agor ar safle Ysgol Overmonnow yn Nhrefynwy, gan droi'n ysgol Gymraeg y flwyddyn wedyn. Ysgol y Ffin fydd yn gyfrifol amdani i ddechrau.

"Mae mor bwysig, a ni mor falch i weld yr egin ysgol yma yn agor," meddai Catrin Daniel.

"Mae nifer o'n plant ni yn teithio'n bell iawn i'r ysgol ac felly bydd hwn yn galluogi teuluoedd o fewn clwstwr Trefynwy i gael addysg cyfrwng Cymraeg yn lleol iddyn nhw."

Ysgol Gymraeg ym mhob tref?

Mae mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi croesawu'r datblygiad, er yn feirniadol iddo gymryd cyhyd.

"Ers i fi symud yma 20 mlynedd yn ôl roedd pobl yn sôn am yr angen am ysgol yng Nghas-gwent a Threfynwy," meddai Lynne Davies o RhAG.

"Mae'n hyfryd nawr fod ysgol yn mynd i agor yn Nhrefynwy y flwyddyn nesa'.

"Mae 'na lot o gefnogaeth i'r iaith yn Nhrefynwy eisoes a'r gymdeithas Gymraeg yno'n mynd yn gryf ers blynyddoedd, ond yn amlwg mae rhywle ffisegol yn mynd i fod yn bwynt ffocws yn yr ardal."

Disgrifiad o’r llun,

"Yn y pendraw bydden i'n dymuno gweld ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ym mhob tref yn y sir," medd Lynne Davies

Ond yn ôl Ms Davies mae 'na fwy o waith i'w wneud.

"Byddai'n hyfryd gweld mwy o opsiynau i blant yng Nghas-gwent, er enghraifft, fel bod pobl ddim yn gorfod teithio i Gil-y-Coed.

"Yn y pendraw bydden i'n dymuno gweld ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ym mhob tref yn y sir."

'Y peth gorau dwi 'di 'neud'

Un o'r rhwystrau i dwf addysg Gymraeg yn Sir Fynwy, fel ym mhob man arall, yw prinder athrawon.

Mae gan Lywodraeth Cymru gynllun i geisio mynd i'r afael â hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Abi Appleby fod cwrs Cymraeg Mewn Blwyddyn wedi bod yn hwb enfawr iddi

Cafodd yr athrawes Abi Appleby ei magu ym Mryste. Mae hi wedi cael cynnig swydd yn Ysgol y Ffin ar ôl dilyn cwrs Cymraeg Mewn Blwyddyn.

"Fel arfer dwi'n dysgu yn y cyfnod sylfaen. Yn fy marn i, dwi'n meddwl taw Cymraeg Mewn Blwyddyn yw'r peth gorau dwi 'di 'neud erioed," meddai.

"Mae'n bwysig iawn achos dwi'n byw yma. Dwi'n dysgu yma hefyd, felly mae'n bwysig i fy mhlant yn y cartref ac yn yr ysgol hefyd."

Nid dim ond yr athrawon sydd yn symud o addysg Saesneg i addysg Gymraeg - mae yna ganolfan drochi yn Ysgol y Ffin ar gyfer plant sy'n gwneud hynny.

Dim ond ers chwe mis mae Arthur a'i frawd Perry wedi bod yn dysgu Cymraeg.

"Dwi'n hoffi siarad Cymraeg achos ti'n teimlo fel ti'n cael new skill ond mae'r new skill yn fawr. Mae'n teimlo'n neis i 'neud e," meddai Arthur.

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na griw o ddysgwyr brwdfrydig yn cwrdd yng Nghanolfan Tŷ Croeso yng Nghas-gwent

Mae 'na gyfle i ddysgu Cymraeg beth bynnag yw'ch oed, ac mae 'na griw o ddysgwyr brwdfrydig yn cwrdd yng Nghanolfan Tŷ Croeso yng Nghas-gwent, gan gynnwys maer y dref Margaret Griffiths.

"Os dwi'n cwrdd gyda Helen yn y stryd dwi'n siarad Cymraeg, os dwi'n cwrdd gyda Bob yn y dafarn dwi'n siarad Cymraeg," meddai.

"Mae rhai pobl eraill yn siarad Cymraeg. Mae Wendy sy'n gweithio yn y Community Fridge. Does dim llawer o gyfle ond mae'n bwysig i drïo gyda fy ffrindiau."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Margaret Griffiths nad oes llawer o gyfleoedd i siarad Cymraeg yn gymdeithasol yng Nghas-gwent

Symud i Gas-gwent o Gaerdydd bum mlynedd 'nôl oedd hanes Dafydd Henry.

Mae e'n gweithio i Fenter Iaith mewn sir gyfagos ac yn teimlo fod swyddi sy'n galw am sgiliau iaith Gymraeg yn allweddol.

"Mae rhan helaeth o bobl yr ardal yma naill ai'n gweithio yng Nghasnewydd neu yng Nghaerdydd neu ym Mryste mewn swyddi di-Gymraeg lle dy'n nhw ddim yn cael cyfle i ddefnyddio'r iaith - does yna ddim mantais eu bod nhw'n siarad y Gymraeg ella," meddai.

"Rhai blynyddoedd ar ôl iddyn nhw adael yr ysgol maen nhw 'di colli hyder, colli geirfa.

"Er bod nhw ella'n d'eud bod nhw yn siarad Cymraeg, yn ymarferol, tydyn nhw ddim."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dafydd Henry mae'n allweddol cael mwy o swyddi ble mae angen defnyddio'r iaith

Yn ôl Dr Cynog Prys o Brifysgol Bangor mae mesur defnydd iaith yn allweddol wrth ddeall cyflwr y Gymraeg, ond dyw'r Cyfrifiad ddim yn gwneud hynny.

Er hynny mae'n dweud y bydd y wybodaeth yn gyfle i asesu pum mlynedd gyntaf cynllun Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

"Mewn ffordd dyma'r mesurydd cynta' sydd gyda ni yn erbyn llwyddiannau rhai o'r polisïau sy'n cael eu rhoi ar waith yn sgil hwnnw," meddai.

"Mae o'n strategaeth reit uchelgeisiol - yn sôn am bron iawn dyblu faint o siaradwyr Cymraeg sydd yna yng Nghymru erbyn 2050 - a hwn ydy'r prawf cyntaf mewn gwirionedd i weld a oes yna gliw os ydan ni'n mynd i daro'r targed yna o filiwn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Cynog Prys mai canlyniadau'r Cyfrifiad yw'r "prawf cyntaf" i darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg

Fe welodd Sir Fynwy gynnydd bychan yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yng Nghyfrifiad 2011.

Mae 'na Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yno ers hynny, ac addysg Gymraeg yn tyfu.

Ar y llaw arall, ar ôl diddymu tollau Pont Hafren mae nifer wedi eu denu dros y bont gan dai rhatach.

Yn ôl Lynne Davies fe allai hynny fod yn gyfle i hybu'r iaith.

"Os mae stadau newydd o dai yn cael eu hadeiladu bydd yna alw am ragor o ysgolion, a byddwn ni'n gwthio'n galed iawn i sicrhau mai ysgolion cyfrwng Cymraeg yw'r rheiny."

Pynciau cysylltiedig