Penodi uwch olygydd i wasanaeth digidol Newyddion S4C
- Cyhoeddwyd
Mae uwch olygydd wedi ei benodi i wasanaeth digidol Newyddion S4C.
Bydd Dr Ifan Morgan Jones, sy'n gyn-olygydd Golwg360 a sylfaenydd gwefan newyddion Nation.Cymru, yn arwain y tîm o newyddiadurwyr digidol yn y flwyddyn newydd.
Dywedodd S4C y bydd Mr Jones yn "gadael Nation wrth ddechrau'r swydd newydd, gyda Nation yn parhau dan ofal y cyd-gyfarwyddwr presennol Mark Mansfield".
Cafodd gwasanaeth newyddion digidol S4C ei lansio yn 2021 ond mae'r rôl yn un newydd.
Dywedodd Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C y bydd y penodiad yn "hwb mawr i'r gwasanaeth".
Cafodd gwefan ac ap eu lansio er mwyn "ateb y galw" am wasanaeth digidol sy'n cydweithio gyda rhaglen deledu Newyddion S4C, sy'n cael ei chynhyrchu gan y BBC.
Dywedodd Ifan Morgan Jones ei fod yn "hynod gyffrous ac yn falch" o dderbyn y swydd.
Mae'n ymuno ag S4C o Brifysgol Bangor, lle bu'n arwain y cwrs newyddiaduraeth.
Fe wnaeth sefydlu gwefan newyddion Nation.Cymru ac mae wedi bod yn olygydd ar wefan Golwg360.
"Mae gwefan ac ap Newyddion S4C yn wasanaethau cymharol newydd ond wedi gwneud gwaith rhagorol ar flaen y gad wrth i S4C ddarparu ystod o wasanaethau digidol newydd ar gyfer siaradwyr Cymraeg," ychwanegodd.
Dywedodd Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C, Sharen Griffith, bod Mr Jones yn "newyddiadurwr arloesol".
Dywedodd fod ei benodiad yn "hwb mawr i wasanaeth newyddion digidol S4C".
"Rydan ni'n edych ymlaen i'w groesawu yn y flwyddyn newydd a gweld sut bydd y gwasanaeth yn datblygu dan ei arweiniad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2020