S4C yn lansio gwasanaeth newyddion digidol newydd

  • Cyhoeddwyd
Ioan PollardFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ioan Pollard ei benodi i swydd Golygydd Newyddion Digidol S4C ym mis Hydref y llynedd

Mae S4C wedi lansio gwasanaeth newyddion digidol, sy'n cynnwys ap a gwefan newydd.

Bydd Newyddion S4C yn gweithio mewn partneriaeth gyda sawl ffynhonnell newyddion arall gan gynnwys Golwg ac ITV Cymru.

Fe fydd y gwasanaeth hefyd yn cyhoeddi straeon gwreiddiol a straeon o raglen Newyddion S4C, sy'n cael ei chynhyrchu gan BBC Cymru.

"Mae cydweithio gyda phartneriaid yn golygu ein bod yn gallu rhannu arbenigedd ac adnoddau, gan fod â bys ar byls newyddion lleol a chenedlaethol," meddai Ioan Pollard, golygydd y gwasanaeth.

"Mae'n hollbwysig i S4C fel darlledwr cyhoeddus i allu cynnig y newyddion diweddaraf i'r gwylwyr ar flaenau eu bysedd."

'Amser hynod arwyddocaol'

Ychwanegodd: "Mae'r dyddiau o aros i wylio prif raglen newyddion y sianel yn y nos wedi hen ddiflannu ac mae angen i ni fod yn flaengar wrth sicrhau ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth newyddion ar amryw o blatfformau.

"Rydyn ni wedi cynllunio'r ap fel bod modd cael newyddion o sawl ffynhonnell wahanol mewn un lle.

"A ninnau ynghanol cyfnod etholiadol a chyda gymaint o bwyslais ar iechyd a'r economi, mae'n sicr yn amser hynod arwyddocaol i lansio gwasanaeth newyddion newydd."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae ap a gwefan newydd Newyddion S4C wedi lansio ddydd Mawrth

Ym mis Medi y llynedd, dywedodd S4C y byddan nhw'n lansio gwasanaeth newyddion digidol fydd yn ceisio apelio at gynulleidfa iau.

Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Geraint Evans, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C, ei fod yn teimlo fod bwlch yng ngwasanaethau S4C ar y pryd.

Mae aelodau o dîm Newyddion S4C wedi cael eu gweld yn holi gweinidogion yn ystod rhai o gynadleddau i'r wasg Llywodraeth Cymru ar sefyllfa'r pandemig dros y misoedd diwethaf.

Dywed S4C eu bod wedi penodi chwech o newyddiadurwyr i weithio ar y gwasanaeth newydd, gan gynnwys golygydd, dirprwy olygydd a phedwar newyddiadurwr digidol.