Beirniadaeth gref wedi marwolaethau padlfyrddio Hwlffordd

  • Cyhoeddwyd
O'r chwith uchaf gyda'r cloc; Paul O'Dwyer, Morgan Rogers, Andrea Powell a Nicola WheatleyFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith uchaf gyda'r cloc; Paul O'Dwyer, Morgan Rogers, Andrea Powell a Nicola Wheatley

Mae adroddiad swyddogol wedi beirniadu'n gryf y ffordd y cafodd taith badlfyrddio yn Sir Benfro - ble bu farw pedwar o bobl - ei threfnu.

Bu farw Paul O'Dwyer, 42 o Aberafan, Morgan Rogers, 24 o Ferthyr Tudful, a Nicola Wheatley, 40 o Bontarddulais, ar ôl mynd i drafferthion ar Afon Cleddau Wen yn Hwlffordd ar 30 Hydref y llynedd.

Bron i wythnos yn ddiweddarach ar 5 Tachwedd bu farw Andrea Powell, 41, yn Ysbyty Llwynhelyg.

Yn ei adroddiad dywedodd prif archwilydd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB), Alan Moll, fod y digwyddiad yn "drasig" ond yn un roedd modd ei osgoi.

Beth ddigwyddodd y diwrnod hwnnw?

Roedd Mr O'Dwyer, oedd yn gyn-filwr, yn un o arweinwyr y daith badlfyrddio, oedd wedi'i threfnu gan gwmni Salty Dog Company o Bort Talbot.

Roedd naw o bobl yn rhan o'r daith ar fore 30 Hydref 2021. Aeth pedwar ohonynt i drafferthion mewn cored (weir) ar Afon Cleddau Wen tu allan i neuadd y sir yn Hwlffordd.

Dywedodd yr adroddiad eu bod yn sownd yno, "gyda dim modd dianc".

Ychwanegodd, er bod yr arweinwyr yn badlfyrddwyr profiadol, doedd ganddyn nhw "ddim profiad o ddysgu pobl amhrofiadol ar afonydd sy'n llifo'n gyflym".

Disgrifiad o’r llun,

Aeth y padlfyrddwyr i drafferthion ar y gored yma ar Afon Cleddau Wen, tu allan i neuadd y sir yn Hwlffordd

Yn ôl yr MAIB roedd paratoadau'r arweinwyr ar gyfer y digwyddiad yn annigonol, ac ni wnaethon nhw ystyried perygl y gored.

Ychwanegodd nad oedd ganddyn nhw hyfforddiant, profiad na chymwysterau digonol i arwain y grŵp o Hwlffordd i Burton Ferry.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud fod y dillad roedden nhw'n ei wisgo, offer arnofio ac yr arwyddion ar yr afon yn annigonol.

Galw am welliannau

Mae amryw o argymhellion diogelwch wedi'i wneud yn yr adroddiad, gan gynnwys:

  • Cynnal asesiad risg o'r peryglon sy'n cael ei achosi gan y gored, a chymryd camau i leihau'r risg hwnnw;

  • Cynnal adolygiad o lywodraethiant padlfyrddio gan Gyngor Chwaraeon Cenedlaethol y DU;

  • Dylai'r corff hwnnw hefyd adolygu a datblygu canllawiau newydd ar gyfer y rheiny sy'n arwain teithiau padlfyrddio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae menyw yn parhau dan ymchwiliad wedi'r marwolaethau

Dywedodd prif arolygydd MAIB, Alan Moll, mai padlfyrddio ydy un o'r campau dŵr sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, gyda'r niferoedd sy'n cymryd rhan wedi cynyddu 300% dros y blynyddoedd diwethaf.

Ond ychwanegodd ei bod yn "allweddol fod llywodraethiant y gamp yn gwella fel y gall y cyhoedd dderbyn cyngor diogelwch eglur a chyson".

Wedi'r marwolaethau fe gafodd menyw ei harestio ar amheuaeth o ddynladdiad trwy esgeulustod, cyn cael ei rhyddhau dan ymchwiliad.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau fod y fenyw yn parhau dan ymchwiliad, a bod tystiolaeth wedi cael ei basio i Wasanaeth Erlyn y Goron iddyn nhw ystyried a fydd unrhyw gyhuddiadau yn cael eu dwyn yn ei herbyn.

Pynciau cysylltiedig