'Diffyg hyder' y Cymry i fynd i Rydychen a Chaergrawnt?
- Cyhoeddwyd
Mae dwy ysgol fonedd yn Lloegr yn anfon mwy o ddisgyblion i Rydychen a Chaergrawnt na Chymru gyfan, yn ôl ffigyrau diweddar.
Ar gyfartaledd, mae ysgolion elitaidd Coleg Eton ac Ysgol Westminster yn derbyn 156 o gynigion gan Brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt y flwyddyn, yn ôl data sydd wedi'i gasglu gan The Telegraph.
Mae hynny'n cymharu â'r 135 o ddisgyblion o Gymru a gafodd gynnig lle y llynedd.
Daw hynny er gwaetha'r ymdrechion gan rwydwaith Seren i annog mwy o ddisgyblion disgleiriaf Cymru i wneud cais i'r prifysgolion gorau.
'Yr ofn o fethu'
Y mis hwn, bydd disgyblion chweched dosbarth dros y byd yn mynd am eu cyfweliadau yn Rhydychen a Chaergrawnt.
Yn eu plith bydd Elen o Ysgol Garth Olwg, sy'n prysur baratoi am ei chyfweliadau â Choleg Clare, Caergrawnt, wythnos nesaf.
Mae hi'n teimlo bod diffyg hyder yn un ffactor sy'n atal disgyblion o Gymru rhag ymgeisio.
"Mae'r ofn o fethu yn sicr yn un ffactor," meddai.
"Dyw e ddim yn rhywbeth mae llawer o bobl yn ei wneud, felly mae'r pwysau mewn ffordd yn fwy.
"Dydy e ddim yn rhan o'n diwylliant ni fel y mae e i ysgolion preifat, felly ti yn put your head above the parapet."
'O'dd 'da nhw fantais'
Fe gafodd Seren ei sefydlu yn 2015 gan yr Arglwydd Paul Murphy, yn sgil adroddiad a ddangosodd nad oedd digon o ddisgyblion o Gymru â'r hyder i ymgeisio i Rydychen a Chaergrawnt.
Bellach, mae yna 12 o hybiau dros y wlad, sy'n trefnu digwyddiadau i'r disgyblion lleol.
Un a fanteisiodd o'r cynllun hwn oedd Gruff Roberts, cyn-ddisgybl yn Ysgol Garth Olwg, sydd bellach yn astudio Sbaeneg a Ffrangeg yng Ngholeg yr Iesu, Caergrawnt.
Fe dreuliodd wythnos yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ym Mlwyddyn 12, a hynny wedi rhoi'r cyfle iddo ddod i adnabod pobl oedd â'r un feddylfryd ag yntau.
Serch hynny, prin oedd y bobl roedd Gruff yn eu hadnabod wrth ymgeisio ddwy flynedd yn ôl, a hynny'n un o'r prif heriau oedd yn ei wynebu ar y pryd.
"Fi'n credu mae'r gwahaniaeth mwyaf fi 'di sylwi yw bod pobl o ysgol breifat yn deall yn llwyr shwt o'dd Caergrawnt yn gweithio, o'n nhw'n gwybod yn llwyr shwt o'dd e'n gweithio," meddai.
"Do'dd dim syniad 'da fi am y system golegol, felly dwi'n credu o'dd 'da nhw fantais yn hynny o beth.
"Ro'n nhw hefyd wedi cael llawer mwy o ffug-gyfweliadau na ches i, er i Seren a'r ysgol sicrhau 'mod i'n cael rhyw fath o ymarfer hefyd."
'Amryw o gefndiroedd'
Er bod ymdrechion amlwg yn cael eu gwneud gan y prifysgolion i sicrhau bod pobl o ardaloedd sy'n cael eu tangynrychioli yn cael mynediad i'r colegau, dim ond 2.2% o holl ddisgyblion Caergrawnt ddaeth o Gymru y llynedd.
Mae hynny'n llai na phob un rhanbarth yn Lloegr, gyda 29.7% yn dod o Lundain Fwyaf.
Mewn datganiad, dywedodd Prifysgol Rhydychen fod "myfyrwyr Rhydychen yn dod o amryw o gefndiroedd gwahanol ac yn cynrychioli amrywiaeth y DU mewn sawl agwedd".
"Er hyn, rydym yn gwybod fod rhai ardaloedd o'r DU yn parhau i gael eu tangynrychioli ac rydym yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â hyn."
Dywedodd Prifysgol Caergrawnt fod y "nifer o gynigion i fyfyrwyr israddedig o Gymru wedi cynyddu o 1.6% yn 2016, ac mewn blynyddoedd diweddar, mae yna gyfraddau llwyddiant uchel gan geisiadau yng Nghymru - yn 2019, roedd yna gyfradd cynnig o 26%, ac yn 2020, 25%.
"Ar gyfer y ddwy flynedd, dyma oedd yr ail gyfradd llwyddiant uchaf ar gyfer holl ranbarthau'r DU."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd22 Mai 2014
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2020