Rhydychen a Chaergrawnt: Disgyblion Cymru heb hyder

  • Cyhoeddwyd
Rhydychen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prifysgol Rhydychen yn dweud eu bod yn cyfarfod gyda phobl ifanc er mwyn eu hannog i astudio yno ac i sylweddoli bod y myfyrwyr yn debyg iddyn nhw

Mae "diffyg hyder" yn golygu bod disgyblion o Gymru ddim yn gwneud ceisiadau i fynychu prifysgol Rhydychen a Chaergrawnt medd swyddog mynediad.

Mae nifer y Cymry sydd yn cael cynnig lle wedi cynyddu yn y tair blynedd ddiwethaf ond mae nifer y ceisiadau wedi lleihau.

Hunan hyder yw'r mater sydd angen iddyn nhw daclo yng Nghymru meddai 'r swyddog mynediad.

Yn ôl y Gweinidog Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, mae "angen i ni wneud mwy i wthio ein myfyrwyr mwyaf disglair."

3.3% o ddisgyblion o Gymru sydd yn astudio yn Rhydychen a 1.6% yng Nghaergrawnt, yn ôl ffigyrau yn 2016 gafodd ei rhyddhau i'r AS David Lammy wythnos diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynllun Rhwydwaith Seren wedi ei ddatblygu er mwyn ceisio annog mwy o ddisgyblion i wneud cais i astudio yn Rhydychen a Chaergrawnt

Rhwng 2014-16 Cymru oedd y pedwerydd rhanbarth isaf ar gyfer ceisiadau, cynigion a chynigon terfynol gan Brifysgol Rhydychen.

Mae ffigyrau David Lammy yn ôl ddyddio cynllun Rhwydwaith Seren gan Lywodraeth Cymru.

Bwriad y cynllun yw taclo'r niferoedd isel o Gymru sydd yn gwneud cais i fynd i brifysgolion gorau Prydain.

Mae gweithdai a darlithoedd yn cael eu trefnu gan fyfyrwyr a darlithwyr o brifysgolion blaengar a chymorth ynglŷn â'r broses ceisio am le.

Tua 2,300 o fyfyrwyr sydd wedi eu dewis i fod yn rhan o'r 11 hwb rhanbarthol a bydd modd gweld os yw'r cynllun wedi llwyddo trwy edrych ar y ceisiadau o Gymru o 2018-19 ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Meg Howells/Coleg y Cymoedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meg Howells yn astudio'r gyfraith yn Rhydychen

Dywedodd Dafydd Jones, o Rondda Cynon Taf , sydd wedi siarad mewn un o ddigwyddiadau Seren: "Y broblem fwyaf yw dyw myfyrwyr Cymry ddim gyda'r hyder i geisio."

Fe wnaeth Dafydd astudio cemeg yn Rhydychen.

Mae hefyd yn dweud bod yna "stereoteip" yn bodoli fod Rhydychen a Chaergrawnt ddim yn brifysgolion ar gyfer pobl dosbarth gweithiol yng Nghymru.

'Swigod'

Mae Meg Howells yn fyfyrwraig yn Rhydychen ar hyn o bryd.

"Nes i ystyried peidio gwneud cais i Rydychen am mod i yn meddwl na fyddai gen i obaith caneri."

Dywedodd bod yna 'swigen Rhydychen' yn bodoli ond bod yna hefyd 'swigen Cymru'.

"Mae yna amharodrwydd i drio, yn syml, am fod nifer ohonom ni yn teimlo ein bod ni ddim ddigon da i fynd i rywle sy'n ymddangos mor ddieithr ac ynysig o'r byd tu allan."

Ffynhonnell y llun, ROBERT EDWARDS/GEOGRAPH
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Gweinidog Dysgu Gydol Oes bod angen 'gwneud mwy i wthio ein disgyblion mwyaf disglair' fel eu bod yn ystyried gwneud cais ar gyfer prifysgolion fel Rhydychen a Chaergrawnt

Mae Prifysgol Rhydychen yn dweud eu bod wedi cyhoeddi partneriaeth ddiweddar rhwng Rhwydwaith Seren a Choleg yr Iesu.

Y gobaith meddai'r brifysgol yw "cynyddu nifer y myfyrwyr talentog o Gymru" sy'n gwneud cais ac yn cael lle.

Mae Matthew Williams, swyddog mynediad gyda Choleg yr Iesu, yn dweud eu bod yn trio cyfarfod gymaint o fyfyrwyr o Gymru a phosib.

Caergrawnt yn ceisio denu mwy

"Dw i'n gwahodd llawer o fyfyrwyr i ddod i Rydychen i gyfarfod ein myfyrwyr. Maen nhw yn sylweddoli yn reit fuan bod myfyrwyr Rhydychen fel y nhw."

Fe aeth 22 o ddisgyblion Seren i ysgol haf y coleg yr haf hwn ac mae'r coleg yn gobeithio y bydd yn nifer yn cynyddu i 66 erbyn 2018.

Yn y cyfamser mae Caergrawnt yn dweud eu bod nhw'n "cynyddu eu hymdrechion" i gael mwy o geisiadau o Gymru.

Dywed y llefarydd y dylai disgyblion ystyried gwneud cais a'u bod yn "ffynnu yma fel rhan o gymuned y byd. Os nad ydych chi'n gwneud cais, allwn ni ddim cynnig lle i chi."

Mae Coleg Magdalene y brifysgol yn gweithio gyda phobl ifanc yng ogledd Cymru a Cheredigion tra bod Coleg Churchill yn delio gyda disgyblion ym Mhowys a De Cymru er mwyn ceisio cynyddu nifer y ceisiadau.

Yn ôl Murrium Khan, uwch swyddog mynediad gyda un o golegau Rhydychen, mae nifer o ffactorau pam bod rhai o Gymru o bosib ddim yn ceisio gan gynnwys "y wasg", y "system addysg" ond yn bennaf "hyder".

Angen 'gwneud mwy'

Mae'n rhedeg gweithdai mewn ysgolion yng Nghymru ac yn aml yn chwarae gêm lle mae'r bobl ifanc yn gorfod dweud pa air sy'n dod i'r meddwl pan mae'n sôn am Rydychen.

"Crand", "breintiedig", "cyfoethog" yw rhai o'r geiriau sy'n cael eu crybwyll meddai.

Un pwrpas y rhaglen yw newid yr agweddau yma.

Dywedodd Gweinidog Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru, Alun Davies: "Rydyn ni yn cydnabod trwy gydweithio gyda ysgolion a phrifysgolion ein bod ni angen gwneud mwy i wthio ein disgyblion mwyaf disglair i gyrraedd eu gwir botensial."