Galw ar Rydychen a Chaergrawnt i dderbyn mwy o Gymry
- Cyhoeddwyd
Mae angen i brifysgolion Rhydychen a Gaergrawnt "wneud mwy" i fynd i'r afael â'r nifer isel o fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio yno, yn ôl aelod seneddol.
Dywedodd Stephen Kinnock ei bod yn "hollol annerbyniol" mai 101 disgybl o Gymru gafodd gynnig lle yn y ddwy brifysgol yn 2016, o'i gymharu â 672 o dde-ddwyrain Lloegr.
O'r rheiny, dim ond 86 ohonynt wnaeth dderbyn y cynnig, gan olygu eu bod yn cynrychioli llai na 3.3% o fyfyrwyr newydd y prifysgolion yn y flwyddyn honno.
Cafodd y ffigyrau eu rhyddhau i AS Tottenham, David Lammy yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth.
Cardis yn llwyddo
Mewn neges ar Twitter dywedodd Mr Kinnock, AS Aberafan: "Fel bachgen aeth i ysgol gyfun ac yna i Gaergrawnt, rydw i'n teimlo'n angerddol am y peth.
"Mae'n rhaid i Rydgrawnt wneud mwy i ehangu pwy sy'n mynd yno. Mae 50% o Lundain neu'r de-ddwyrain a dim ond 2% o Gymru yn hollol annerbyniol!"
Mae'r ffigyrau wedi dangos gwahaniaethau sylweddol rhwng gwahanol rannau o'r DU, gyda chyfran is o gynigion yn cael eu gwneud i ddarpar fyfyrwyr o Gymru, ardaloedd ôl-ddiwydiannol gogledd-ddwyrain Lloegr, a chanolbarth Lloegr.
Mae hynny er gwaethaf y ffaith eu bod nhw'n cael canlyniadau cymharol debyg yn eu harholiadau TGAU a Lefel A.
Yn 2016 fe wnaeth Prifysgol Caergrawnt gynnig 71 o lefydd i fyfyrwyr o Gymru, gyda 57 ohonynt yn derbyn - dim ond 1.6% o gyfanswm y nifer gafodd eu derbyn.
Rhwng 2010 a 2015 fe wnaeth 29 o ddisgyblion o Fôn wneud cais i Rydychen, gyda dim ond un yn llwyddiannus, ac yng Ngwynedd dim ond pump o'r 60 wnaeth gais gafodd gynnig.
Cafwyd darlun tebyg mewn ardaloedd eraill, gyda dau allan o 24 yn llwyddiannus o Flaenau Gwent, a dau allan o 31 o Ferthyr Tudful yn cael cynnig.
Ar y llaw arall roedd rhai ardaloedd fel Ceredigion wnaeth lwyddo i fynd yn groes i'r patrwm, gydag un o'r cyfraddau gorau o ran llwyddo i gael cynigion gan Gaergrawnt.
Mewn rhai ardaloedd cyfoethocach yn Lloegr megis Islington, roedd traean o'r rheiny oedd yn gwneud cais yn cael cynnig.
Cafodd y ffigyrau eu beirniadu gan Lywodraeth Cymru.
"Rydyn ni'n gwybod fod myfyrwyr o Gymru ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli ym mhrifysgolion Grŵp Russell ac Ymddiriedolaeth Sutton o'i gymharu â gweddill y DU," meddai llefarydd.
"Rydyn ni hefyd yn gwybod fod ymgeiswyr o Gymru i Rydychen a Chaergrawnt yn cael cyfradd is o gynigion o'i gymharu ag ymgeiswyr o rannau eraill o'r DU, er eu bod nhw'n cael graddau TGAU a Lefel A tebyg."
'Cefndir breintiedig'
Dywedodd Mr Lammy, sydd wedi ymgyrchu dros gynrychiolaeth well i fyfyrwyr o gefndiroedd ethnig a difreintiedig yn Rhydychen a Chaergrawnt, ei fod wedi ei "frawychu" gyda'r ffigyrau.
"Mae'r data yma yn amlwg yn dangos mai cefndir breintiedig sy'n cyfrif o hyd wrth fynd drwy broses dderbyn Rhydgrawnt," meddai.
Dywedodd llefarwyr ar ran y ddwy brifysgol y gallai'r gwahaniaethau yn y ffigyrau fod oherwydd nad oedd digon o Gymry a phobl o gefndiroedd difreintiedig yn gwneud ceisiadau.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Rhydychen y byddan nhw'n "cymryd sylwadau Mr Lammy i ystyriaeth", a dywedodd llefarydd ar ran Caergrawnt y dylai "myfyrwyr galluog o Gymru yn bendant ystyried gwneud ceisiadau i Gaergrawnt".
Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio cau'r bwlch drwy lansio Rhwydwaith Seren, sy'n cynnal digwyddiadau ac yn darparu gwybodaeth er mwyn annog mwy o ddisgyblion i wneud ceisiadau i'r prifysgolion gorau.
Ond dywedodd trefnwyr na fyddai effaith llawn y cynllun yn cael ei weld nes 2018-19, wedi i fyfyrwyr gael dwy flynedd o gyngor arbenigol.