'Misoedd' i weld effaith hirdymor argyfwng economi
- Cyhoeddwyd
Mae angen rhoi amser i bolisïau economaidd "ddwyn ffrwyth" a dyw'r cylch newyddion 24 awr y dydd ddim yn llesol i hynny, yn ôl arbenigwr yn un o sefydliadau ariannol mwyaf blaenllaw y byd.
Yn adeilad banc J.P. Morgan yn Llundain, mae'r Cymro o Lanelli, John Derrick, yn cymharu'r sefyllfa bresennol gyda'r chwalfa gafodd gymaint o effaith ar y byd bancio yn 2008.
Mae'r Prif Weinidog, Rishi Sunak, wedi dweud fod y Deyrnas Unedig yn wynebu argyfwng economaidd dwys.
Yn ôl Mr Derrick, a siaradodd gyda rhaglen Newyddion S4C, does dim disgwyl gweld effaith hir dymor y sefyllfa "am fisoedd".
Mae 'na wahaniaeth sylfaenol rhwng yr argyfwng presennol a'r sefyllfa yn 2008, meddai.
"Mae'n rhaid gwahaniaethau rhwng argyfwng ariannol, ac argyfwng economaidd," dywedodd.
"Roedd yr hyn ddigwyddodd yn 2008 yn argyfwng ariannol, arweiniodd at risg sefydliadol.
"Ers hynny, mae 'na reoliadau bellach yn eu lle. Mae argyfwng economaidd yn fwy traddodiadol a [mae] modd delio gyda hwnnw drwy systemau treth ac arfau banciau canolog."
Mae J.P. Morgan yn cael ei ystyried fel un o sefydliadau ariannol mwyaf blaenllaw, a hynaf y byd.
Wedi'i sefydlu yn yr Unol Daleithiau dros ddwy ganrif yn ôl, mae dros 250,000 o bobl yn gweithio ar draws y byd o fewn y cwmni.
Yn eu plith, y Cymro John Derrick sydd wedi bod yn gweithio yn y sector bancio ers 1996.
'Economi fel si-so'
Mae'n dweud mai'r her gyda'r argyfwng presennol yw sefydlu'r cydbwysedd rhwng codi cyfraddau llog a delio gyda chwyddiant.
Mae'n anodd iawn darogan felly, meddai, pa mor hir dymor fydd yr argyfwng hwn.
"Y cwestiwn yw a fydd yna hard landing neu soft landing a hwnna yw un o'r pethau mwyaf anodd i economegwyr yn unrhyw un o wledydd y byd.
"Mae e fel si-so. Ar un ochr mae'r cyfraddau llog sy'n gorfod mynd lan achos bod diweithdra yn isel ac mae angen iddo fe fynd lan i arbed yr economi rhag tyfu yn rhy gloi.
"Ac ar yr ochr arall, mae'r broblem o chwyddiant a sut i ddod ag e lawr. A mae 'na bethau o ran chwyddiant, y mae modd i chi reoli, a phethau hefyd geo-political sydd y tu fas i reolaeth unrhyw lywodraeth."
Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi dweud fod y Deyrnas Unedig yn wynebu argyfwng economaidd dwys.
Ond mae ei benodiad eisoes wedi tawelu'r marchnadoedd arian rywfaint, gyda chyfraddau benthyca'r llywodraeth wedi dychwelyd i lefelau'r cyfnod cyn cyllideb fechan Liz Truss a'i changhellor ar y pryd, Kwasi Kwarteng.
Serch hynny, y disgwyl yw y bydd rhaid i Mr Sunak fabwysiadu polisïau llym allai arwain at gynnydd mewn trethiant, neu doriadau gwariant.
Yn ôl John Derrick, mae'n rhaid rhoi amser cyn gweld i ba gyfeiriad y bydd yr argyfwng hwn yn troi.
"Mewn byd lle mae 'na newyddion bedair awr ar hugain y dydd, mae'n gwestiwn ambell waith i roi amser i bolisïau i ddod i ffrwyth," dywedodd.
"Os y'ch chi'n edrych ar rai o fanciau canolig y byd, mae'n amlwg os y'ch chi'n newid cyfraddau llog, mae'n mynd i gymryd amser.
"Dyw e ddim yn beth sydd yn gallu trosglwyddo i mewn i'r economi mewn mis neu ddau fis - mae'n cymryd misoedd."
'Pythefnos o oedi ddim am wneud gwahaniaeth'
Bwriad Llywodraeth y DU a'r canghellor newydd, Jeremy Hunt, oedd cyhoeddi eu cynlluniau ariannol ar gyfer gwariant a threthi ddydd Llun, sef diwrnod olaf mis Hydref.
Gyda Rishi Sunak fel Prif Weinidog newydd yn ei le, mae'r cyhoeddiad hwnnw bellach wedi ei ohirio.
Dywedodd Jeremy Hunt fod aildrefnu ar gyfer 17 Tachwedd yn golygu y bydd y cyhoeddiad wedi'i selio ar y rhagolygon economaidd "mwyaf cywir".
Mae'n benderfyniad sydd wedi'i dderbyn o fewn y sector bancio yn ôl Mr Derrick.
"Mae'n rhaid i chi gael e'n iawn," dywedodd.
"Felly dyw pythefnos arall ddim am wneud gymaint â hynny o wahaniaeth, a fydd e'n neud sense i gymryd yr amser i edrych yn iawn ar beth sydd angen ei wneud ar gyfer polisi domestig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2022