'Angen biliynau' ar fusnesau gan Lywodraeth y DU - Gething

  • Cyhoeddwyd
Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen i Lywodraeth y DU roi biliynau o bunnoedd i fusnesau Cymru oherwydd "argyfwng cenedlaethol" costau cynyddol, yn ôl gweinidog economi Cymru.

Fe gwrddodd Vaughan Gething â chynrychiolwyr busnesau ac undebau masnach yng Nghaerdydd i glywed eu pryderon am y cynnydd mewn costau.

Dywedodd Mr Gething y byddai'n ysgrifennu at Lywodraeth y DU, ac ychwanegodd nad yw'r gefnogaeth all Llywodraeth Cymru gynnig i helpu yn ddigon ar ei ben ei hun.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.

'Argyfwng cenedlaethol ar garreg ein drws'

Mae busnesau wedi wynebu costau cynyddol ar gyfer deunyddiau crai, tanwydd ac ynni ers misoedd.

Does dim cap ar brisiau nwy a thrydan i fusnesau, ac mae perchnogion busnes yn dweud bod costau adnewyddu yn sylweddol uwch na'u cytundebau blaenorol.

Dywedodd y gweinidog economi bod "argyfwng cenedlaethol ar garreg ein drws" ac y byddai busnesau'n "mynd i'r wal" heb gynllun o gefnogaeth i'r DU gyfan.

Roedd y cyfarfod ddydd Mercher yn un "sobreiddiol" yn ôl Mr Gething.

Dywedodd: "Mae pob grŵp busnes, yn ogystal â'r TUC, yn cydnabod y byddai'n cymryd ymyrraeth gan [Lywodraeth] y DU i ddarparu cefnogaeth ar y raddfa sydd ei angen.

"Boed hynny'n ostyngiad mewn TAW, ond hefyd cefnogaeth uniongyrchol i gefnogi busnesau gyda'u costau eu hunain.

"Roedd y grwpiau busnes hynny'n eithaf agnostig am ble ddaw'r arian. Ond roedden nhw'n glir iawn y byddai busnesau, heb gefnogaeth sylweddol sydd o gwmpas y biliynau gan Lywodraeth y DU, yn mynd i'r wal."

'Pethau y gall Llywodraeth Cymru wneud'

Dywedodd Mr Gething fod Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu rhyddhad ardrethi busnes, a bod swyddogion yn edrych ar feysydd eraill i gynnig cefnogaeth.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ben Cottam wedi galw ar Lywodraeth Cymru fynd gam ymhellach a gostwng ardrethi busnes

Dywedodd pennaeth Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, Ben Cottam, bod angen "gweithredu" gan lywodraethau Cymru a'r DU ar gyfer y misoedd nesaf.

Ychwanegodd y gallai Llywodraeth Cymru fynd gam ymhellach wrth ostwng ardrethi busnes.

"Mae yna bethau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud, ac mae rhai ohonyn nhw'n fesurau y gwnaethon nhw eu gweithredu yn ystod yr argyfwng Covid fel ailgyflwyno cymorth 100% ardrethi busnes i fusnesau lletygarwch, manwerthu a hamdden."

Dywedodd ei fod eisiau "pecyn cymorth" sy'n caniatáu i fusnesau dorri eu costau.

"Bydd angen i ni edrych ar gymorth grant i fusnesau ar lefel y DU, a hoffem weld y cymorth sy'n cael ei gynnig i aelwydydd yn cael ei ymestyn i fusnesau.

"Ehangu, er enghraifft, y cap ar brisiau ynni er mwyn rhoi rhyw fath o sicrwydd cynllunio i fusnesau."