Cyllideb Cymru: 'Chwyddiant wedi creu rhagolygon anodd'

  • Cyhoeddwyd
NyrsysFfynhonnell y llun, PA Media

Mae'n annhebygol y bydd cyllideb Cymru yn ddigonol i ddelio gyda'r pwysau mae'r gwasanaeth iechyd yn ei wynebu yn dilyn y pandemig, meddai arbenigwyr cyllid.

Mae chwyddiant sy'n uwch na'r disgwyl wedi taro cynlluniau Llywodraeth Cymu yn "sylweddol", meddai adroddiad sy'n cyflwyno "cefndir tywyll" i'r economi.

Daw'r rhybudd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wythnos cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb nesaf.

Fe wnaeth Canghellor Llywodraeth y DU, Jeremy Hunt, ychwanegu at gyllideb Gymru yn Natganiad yr Hydref, yn bennaf oherwydd gwariant ychwanegol ar iechyd yn Lloegr.

Ond fe allai cyfraddau chwyddiant uchel gostio £1.4bn i Lywodraeth Cymru dros ddwy flynedd, meddai adroddiad Prifysgol Caerdydd.

Mae'n dweud pe bai'r holl arian ychwanegol yn cael ei drosglwyddo i wasanaeth iechyd Cymru, byddai cyllideb y gwasanaeth iechyd yn tyfu tua 2.4% dros dair blynedd - llai na'r 2.7% roedd Llywodraeth Cymru yn cynllunio ar ei gyfer.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, yn cyhoeddi cynlluniau gwariant y llywodraeth ar gyfer y flwyddyn nesaf ar 13 Rhagfyr

Yn ei chyllideb ddiwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru taw nifer uchel y triniaethau a gafodd eu gohirio yn ystod y pandemig oedd ei "blaenoriaeth uchaf". Ond parhau i godi mae rhestrau aros.

Bydd cynlluniau gwariant y flwyddyn nesaf yn cael eu cyhoeddi gan y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, ar 13 Rhagfyr.

Bydd gwariant llymach hefyd yn ei gwneud hi'n anodd parhau â thaliadau Llywodraeth Cymru i leddfu'r argyfwng costau byw.

Mae gweinidogion hefyd yn wynebu penderfyniadau anodd dros gyflogau yn y sector cyhoeddus.

Mae disgwyl i nyrsys a staff ambiwlans fynd ar streic mewn anghydfodau dros gyflogau.

Dywedodd awdur yr adroddiad, Guto Ifan, fod chwyddiant wedi creu "rhagolygon anhygoel o anodd" ar gyfer y llywodraeth.

"Rydyn ni'n meddwl, o ystyried y costau cynyddol ar gyflogwyr gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus, y bydd hyn [y gyllideb] yn llai na'r pwysau gwariant ôl-bandemig a'r pwysau ariannu y mae'r NHS yn eu hwynebu," meddai.

Mae ei dîm yn amcangyfrif y byddai cynnydd o 1c ym mhob band treth incwm yn codi £275m y flwyddyn nesaf.

Er bod Llafur Cymru wedi addo peidio codi'r dreth incwm yn ei maniffesto, dywedodd Mark Drakeford ym mis Hydref y byddai'r achos dros godiad treth yn cael ei "ystyried yn bwerus".

Ond ers hynny mae Jeremy Hunt wedi cael gwared ar y toriadau treth a addawyd yng nghyllideb fach Liz Truss.