Pryder ymhlith staff bod siopau tecstilau Shaws ar fin cau
- Cyhoeddwyd
Mae dyfodol un o siopau mwyaf adnabyddus y stryd fawr yn ne Cymru yn ansicr, gyda rhai staff yn poeni na fydd swydd iddyn nhw fore Llun.
Cafodd Shaws ei sefydlu 106 mlynedd yn ôl fel cwmni sy'n gwerthu tecstilau, llenni a dillad gwely, ac mae ganddyn nhw 28 o siopau - 15 yn ne Cymru a 13 yn ne-orllewin Lloegr.
Yn gynharach yn y mis fe dderbyniodd yr oddeutu 150 o staff lythyr gan y perchnogion yn egluro fod y cwmni yn wynebu cyfnod hynod o heriol, ac y bydd rhaid cyflwyno newidiadau yn y flwyddyn newydd.
Ond ar y pryd doedd dim sôn am gau siopau na cholli swyddi.
'Cymaint o siom'
Mae 'na gyfarwyddyd nawr i werthu pob eitem o stoc yn rhad, ac mae'r cwmni yn dweud na fydd y brif storfa yn derbyn cyflenwadau newydd tan y bydd hyd a lled y newidiadau wedi cael eu cyhoeddi.
Mae BBC Cymru wedi cysylltu gyda Philip Shaw, un o berchnogion y cwmni. Dywedodd mai bwriad y cwmni yw "parhau fel yr arfer" ond chafwyd ddim mwy o fanylion nag eglurder am ddyfodol y siopau.
Mae Jan Holmes, 64, yn gweithio yn siop Shaws The Drapers ar stryd fawr Pen-y-bont ers mis Awst eleni, ac wedi gweld y silffoedd yn gwagio'n raddol yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae'r sefyllfa, meddai, yn dorcalonnus.
"Does ganddon ni ddim byd i'w werthu ar wahân i ychydig o wlân," meddai.
"Mae'n gymaint o siom i ni y staff ac i'r cwmni, a'r oll ry'n ni'n ofyn amdano yw eglurder am beth sydd yn mynd i ddigwydd.
"Mae ganddon ni gwsmeriaid ffyddlon iawn. Mae rhai wedi bod yn dod yma ers dros 40 mlynedd ac maen nhw'n gofyn i ni 'beth sy'n digwydd, beth sy'n mynd ymlaen', ond does ganddon ni ddim atebion.
"Mae'r siop yn wag, mae ganddon ni efallai chydig dan 100 o eitemau. Fel arfer bydde ganddon ni filoedd."
Dim atebion pendant
Mae Jan Holmes yn bwriadu mynd i'w gwaith fore Llun er bod stoc y siop mor isel.
"Mae wedi bod yn hynod emosiynol i ni dros yr wythnosau d'wetha," meddai.
"Mae cwsmeriaid yn dod mewn a chanmol y siop, a ni y staff, ac mae rhai sydd wedi bod yn gweithio yma am flynyddoedd wedi bod yn eu dagrau.
"Mi fydd y to hŷn yn bendant yn ein colli, roedden ni'n siop mor brysur."
Ond doedd yr arwyddion dros y misoedd diwethaf, meddai, ddim yn dda.
"Doedd y stoc newydd ddim yn dod mewn, ac fel rheol fydden ni yn trosglwyddo stoc o siop llai prysur aton ni, ond mae hynny wedi mynd yn amhosib," meddai.
"Roedden ni'n gwybod fod rhywbeth ar droed. Mae popeth yn y siop yn hanner pris."
Yn ôl Jan Holmes daeth Robert Shaw, un arall o berchnogion y cwmni, i'r siop ym Mhen-y-bont i geisio tawelu ofnau, ond doedd ganddo ddim ateb i'w chwestiynau pwysicaf.
"Roeddwn i'n gofyn pa bryd fydd y siop yn cau, ac mi dd'wedodd na allai ateb hynny," meddai.
"Mi wnes i ofyn a fydden ni'n cau, a doedd e methu ateb hynny chwaith."
Llinell gymorth
Mae Jan Holmes yn dweud nad yw hi nac unrhyw aelod arall o staff yn rhoi'r bai ar y rheolwyr ac mae hi'n ymwybodol o'r heriau sy'n wynebu'r cwmni.
"Mae rhan fwya' o'n stoc yn dod o dramor," meddai, "ac mi dd'wedodd Mr Shaw fod y byd yn lle heriol iawn, ac fod y cwmni yn ceisio rheoli costau cludo.
"Fe ddywedodd wrthon ni fod y cwmni yn gweld pethau yn anodd iawn ar hyn o bryd."
Cafodd staff eu talu ddiwrnod yn gynnar yr wythnos hon, ond does gan Ms Holmes ddim sicrwydd y bydd ei swydd yn dal yno ar ôl y Nadolig.
Mewn llythyr i staff Shaws The Drapers, mae Philip Shaw yn dweud na all y cwmni barhau fel y mae, ac y bydd llinell gymorth gyfrinachol ar gael am ddim i staff sy'n poeni.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022