Dŵr Cymru yn gosod targed ar gyfer cwsmeriaid Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Bil Dwr Cymru

Mae cwmni dŵr mwyaf Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu nifer eu cwsmeriaid sy'n defnyddio eu gwasanaethau Cymraeg.

Ar hyn o bryd mae 6,500 o gwsmeriaid Dŵr Cymru wedi cofrestru i reoli eu cyfrifon dŵr a charthffosiaeth yn y Gymraeg.

Mae'r cynllun yn cynnwys ymrwymiad i fod â dros bedair gwaith yn fwy o gwsmeriaid sydd wedi cofrestru ar gyfer gwasanaeth Cymraeg, gyda tharged i gyrraedd 25,000 erbyn 2025.

Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan Gomisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru.

Mae gan Dŵr Cymru, fel sawl cwmni arall, nifer o wasanaethau ar gyfer cwsmeriaid sy'n medru'r Gymraeg, gan gynnwys canolfan gyswllt, gwefan ddwyieithog a sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r cwmni'n honni mai nhw ydy'r cwmni cyntaf i osod targed o'r fath yn y sector preifat yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Dwr Cymru

Dywedodd prif weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones: "Fel cwmni dielw sy'n canolbwyntio ar fodloni disgwyliadau ein cwsmeriaid a rhagori arnynt, rydym ni'n chwilio'n barhaus am ffyrdd o wella'r gwasanaeth a gynigir gennym.

"Mae'r gwasanaethau Cymraeg a gynigir gennym yn rhan annatod o hyn.

"Ond mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud mwy na chynnig y gwasanaeth yn unig - mae'n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn cael cymaint o siaradwyr Cymraeg â phosibl i ddefnyddio'r gwasanaeth, gan ein bod ni'n gwybod bod galw amdano."

Beth ydy'r gyfraith bresennol i gwmnïau preifat?

Roedd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru ac roedd yn cyflwyno safonau sy'n egluro sut mae disgwyl i sefydliadau ddefnyddio'r Gymraeg.

Mae canllawiau i gwmnïau yn amrywio:

  • Mae rhai, fel Dŵr Cymru, yn gweithredu cynlluniau iaith statudol o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993;

  • I eraill, does dim gofynion cyfreithiol, ac mae nifer yn dewis gweithredu cynllun iaith gwirfoddol, cynllun hybu neu bolisi iaith ei hunain;

  • Mae rhai cwmnïau cyfyngedig, fel Canolfan Mileniwm Cymru, eisoes yn dod o dan safonau ac er bod nifer mwy wedi eu henwi yn y Mesur, does dim amserlen ar gyfer hynny eto.

Yn gynharach ym mis Awst fe wnaeth Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan gyhoeddi bod rheoliadau newydd yn cael eu datblygu, dolen allanol ar gyfer safonau'n ymwneud â'r Gymraeg mewn dau sector newydd - cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr gofal iechyd.

Wrth groesawu'r cyhoeddiad gan Dŵr Cymru, dywedodd Ms Morgan: "Fel llywodraeth rydym wedi ymrwymo'n llwyr i'r targed hwn [miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050] a dwi wedi fy nghalonogi'n fawr bod yna gymaint o gefnogaeth ar draws y wlad i'r uchelgais hwn.

"Mae cael cwmni blaenllaw fel Dŵr Cymru yn gosod targed fel hyn i'w hunain yn galonogol ac yn cefnogi ein hymdrechion ni i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg."

Ychwanegodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: "Mae gwaith da wedi ei wneud eisoes gan Dŵr Cymru yn datblygu eu gwasanaethau Cymraeg - datblygu sgwrs-bot a negeseuon testun dwyieithog a sgyrsiau fideo gyda chwsmeriaid yn Gymraeg.

"Mae gosod y targed hwn yn gam mawr arall ymlaen ac i'w groesawu."