'Profiad brawychus cael fy herwgipio ar ddydd Nadolig'
- Cyhoeddwyd
"Diwrnod mwyaf brawychus fy mywyd" - dyna ddisgrifiad dyn o Ynys Môn o'r profiad o gael ei herwgipio yn Ecwador ar ddydd Nadolig 10 mlynedd yn ôl.
Wrth deithio mewn tacsi o un gwesty i un arall fe drodd taith gyffredin Gareth Evans Jones yn siwrnai hunllefus.
Fe gafodd ei fygwth gyda gwn a chollodd ei arian a'i ffôn.
"Fel arfer fasa'n ni wedi cymryd tacsi swyddogol y gwesty i fod yn saff ond am ei bod yn ddiwrnod 'Dolig mae'n siŵr bod rheiny adra' hefo'r teulu," meddai wrth siarad ar raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru.
"Mi wnaethon ni gymryd y tacsi cynta' welson ni ar y stryd ac wrth fynd o un gwesty i'r llall dyma'r gyrrwr tacsi mwyaf sydyn yn troi i'r chwith i lawr stryd gefn a brecio'n sydyn.
"Dyma 'na ddyn yn dod i mewn a'r peth nesa dwi'n ei w'bod roedd 'na faril gwn yn fy asennau i."
Yn ôl Gareth - oedd yn gweithio fel athro Saesneg yn Ecwador ar y pryd - mi aethon nhw ag ef at beiriant twll yn y wal a'i orfodi i roi rhif y cerdyn er mwyn dwyn ei arian.
Mae'r arferiad yn cael ei alw'n 'secuestro express' yn Sbaeneg - dull o herwgipio cyflym a mynnu arian.
'Wnes i rewi'
"Erbyn ffeindio wedyn roeddan nhw wedi tynnu $300. Mi oeddwn i wedi tynnu $100 arall yn barod a mi oedd hwnnw yn fy waled i - mi gymron nhw hwnnw hefyd a fy ffon."
Roedd Gareth wedi clywed am y math yma o herwgipio o'r blaen, a chyfaill i'w wraig wedi llwyddo i oroesi lladrad.
"Roedd ffrind i fy ngwraig wedi dechrau dyrnu'r gyrrwr ac wedi dechrau dyrnu'r dyn hefo gwn. Mi oeddwn i wedi meddwl y baswn i'n gwneud hynny hefyd tasa' hynny'n digwydd i mi.
"Ond pan ddigwyddodd o mi wnes i rewi a fedrwn i 'neud dim byd."
Cafodd Gareth ei ollwng ar safle adeiladu ger canol dinas Guayaquil - sydd ar arfordir gorllewinol y wlad.
"Dwi ddim yn gwybod am faint wnaeth y peth bara. Ella mai hanner awr fuon yn y car i gyd," meddai.
"Ond mi wnaethon nhw ein gollwng ni mewn safle adeiladu a d'eud wrthon ni am beidio â throi rownd a jyst cerdded - a'r foment honno oeddwn i'n teimlo fwyaf am fy mywyd.
"Ond mi wnaethon ni ffeindio'n sydyn bod nhw ddim yn mynd i 'neud dim byd a dyma ni jyst yn rhedeg hynny fedran ni."
Mae Gareth wedi dychwelyd i fyw yn Sir Fôn i weithio fel cyfieithydd ac yn gobeithio y bydd yr Ŵyl eleni yn llai dramatig na'r un a brofodd yn Ne America.
"Dyma'r profiad mwyaf brawychus dwi wedi ei gael yn fy mywyd," meddai.