Pa anrhegion a dderbyniwyd gan brif weinidogion Cymru?

  • Cyhoeddwyd
PenwisgFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Rhodd o Japan i Gymru

Mae cyfnewid anrhegion yn arferol ymhlith arweinwyr y byd, a hynny ar bob adeg o'r flwyddyn.

Yn yr Unol Daleithiau, mae'r rhan fwyaf o roddion swyddogol o dramor i arlywyddion yn cael eu trosglwyddo i'r Archifau Cenedlaethol ac yn dod yn rhan o gasgliad llyfrgell arlywyddol.

Beth sy'n digwydd i anrhegion i brif weinidogion Cymru, a gweinidogion eraill Llywodraeth Cymru?

Dydyn nhw ddim yn cael eu harddangos yn gyhoeddus er mwyn i'r cyhoedd eu gweld - dim ond y bobl ddethol sy'n troedio coridorau grym ym mhencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd a phumed llawr y gweinidogion yn Nhŷ Hywel ym Mae Caerdydd sy'n medru eu gweld.

Mae cod y gweinidogion yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi rhestr flynyddol o roddion a lletygarwch, dolen allanol sy'n werth mwy na £320 a dderbynnir gan weinidogion ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae'n rhaid i'r rhestr fanylu ar werth y rhoddion a'r lletygarwch a nodi a gafodd rhoddion eu cadw gan Lywodraeth Cymru neu eu prynu gan y gweinidog.

Dyma ddetholiad o anrhegion a dderbyniwyd gan brif weinidogion Cymru ar ran pobl Cymru ers datganoli.

Wcráin

Draig Gymreig a wnaed gan wraig o Wcráin a gafodd noddfa yng Nghymru wedi ymosodiad Rwsia ar ei gwlad. Mae "Dewi" yn byw yn ystafell y cabinet ym Mharc Cathays.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Yr Orsaf Ofod Ryngwladol

Cafodd baner Cymru ei chludo i'r Orsaf Ofod Ryngwladol gan Dr Dafydd Rhys Williams o Asiantaeth Ofod Canada yn 2007.

Dywedodd "yr oedd yn anrhydedd fawr i fi fedru dathlu fy etifeddiaeth Gymreig drwy fynd a'r faner hon gyda fi i'r Orsaf Ofod fel arwyddlun i genedlaethau'r dyfodol i ganlyn eu breuddwydion".

Ef oedd y dyn cyntaf i siarad Cymraeg yn y gofod. Ganed ef yng Nghanada ond mae o dras Cymreig trwy ei dad, Bill a aned yn Aberbargod yn Sir Caerffili.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa

Cwpan maté traddodiadol o'r Ariannin gafodd ei gyflwyno yn 2015 i nodi 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa ym Mhatagonia.

Ar yr olwg gyntaf mae'r ddiod yn edrych fel te, ond mae'n cael ei baratoi gyda dail yerba sy'n cynnwys caffein, perlysiau a phroteinau, yn ogystal â dŵr poeth.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Cwpan Rygbi'r Byd

Cyflwynwyd gan brif weinidog Seland Newydd i goffau Cwpan Rygbi'r Byd ym mis Medi 2011.

Fe wnaeth Seland Newydd drechu Ffrainc 8-7 yn y rownd derfynol ym Mharc Eden, Auckland a thorri eu henwau ar y tlws am yr ail dro.

Daeth gobeithion Cymru yn y gystadleuaeth y flwyddyn honno i ben yn y modd mwyaf torcalonnus wrth iddyn nhw golli 8-9 i Ffrainc ar ôl i gerdyn coch dadleuol i'r capten Sam Warburton leihau Cymru i 14 dyn am 61 munud.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Cwpan Ryder

Atgynhyrchiad o Gwpan Ryder i nodi cynnal y gystadleuaeth yng Ngwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd yn 2010.

Fe wnaeth Ewrop drechu'r Unol Daleithiau o drwch blewyn y flwyddyn honno. Am y tro cyntaf yn hanes y bencampwriaeth bu'n rhaid chwarae ar y pedwerydd diwrnod wedi tywydd gwael.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd

Cyflwynwyd i Gymru ar ôl i'r Prif Weinidog Carwyn Jones ganu y gloch agoriadol yng Nghyfnewidfa Stoc Efrog Newydd ar Wall Street ar 28 Chwefror 2014 i ddechrau masnachu.

Roedd Mr Jones yn ymweld ag UDA i geisio codi proffil Cymru fel cyrchfan busnes.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Chongqing

Rhodd i Gymru gan lywodraeth Chongqing i nodi cytundeb cydweithredu â Chymru.

Yn 2011 yn ystod ymweliad y Prif Weinidog Carwyn Jones a China fe wnaeth Llywodraeth Cymru a llywodraeth Chongqing arwyddo memorandwm oedd yn golygu bod y ddwy lywodraeth yn rhannu arbenigedd mewn ystod eang o feysydd diwydiannol, cymdeithasol a diwylliannol.

Ystyrir Chongqing fel y fynedfa i orllewin China ac mae'n gartref i dros 30 miliwn o bobl.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Japan

Cyflwynwyd i Gymru i nodi cysylltiadau rhwng Cymru a Japan sy'n ymestyn dros sawl degawd ac ardal - mae tua 60 o gwmnïau o Japan yng Nghymru ac maent yn cyflogi dros 6,000 o bobl.

Mae Japan hefyd yn farchnad bwysig i allforion o Gymru.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Aston Martin

Cyflwynwyd gan Aston Martin ar gyhoeddiad ffatri gweithgynhyrchu newydd yng Nghymru.

Yn Chwefror 2016 cyhoeddodd Aston Martin y byddai car newydd yn cael ei adeiladu yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi £18.8m mewn grantiau i'r cwmni.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru