'Cenhedloedd Unedig heb wneud digon i helpu Wcráin'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu sydd â chysylltiad agos ac Wcrain yn dweud fod y rhyfel â Rwsia yn dangos fod y Cenhedloedd Unedig "wedi methu â chadw at eu cyfrifoldeb i sicrhau heddwch a diogelwch ryngwladol".
Mae'r hanesydd a'r cyn wleidydd, Emrys Roberts, yn dadlau y gallai'r Cenhedleodd Unedig fod wedi gneud mwy.
Fis Ebrill, wrth annerch Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig galwodd arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky ar y cyngor i gynnal tribiwnlys troseddau rhyfel gan fynnu "atebolrwydd".
Mewn neges emosiynol dros fideo fe wnaeth atgoffa'r cyngor bod y Cenhedloedd Unedig wedi ei sefydlu yn 1945 i warantu heddwch ar ôl erchyllterau'r Ail Ryfel Byd.
Mae Emrys Roberts a'i wraig Margaret yn cytuno, ac yn pryderu yn fawr am y datblygiadau yn y rhyfel yn Wcráin.
'Heb glywed gan Anna ers tro'
Mae eu cysylltiad â'r wlad yn deillio o gynllun gefeillio rhwng Caerdydd a dinas Luhansk yn Wcráin, ar y ffin ddwyreiniol gyda Rwsia.
Er bod y cynllun gefeillio wedi dod i ben yn y 1990au mae'r ddau wedi cadw cysylltiad agos â nifer o ffrindiau yn y wlad ac mae degau o bobol o Wcráin wedi bod yn aros gyda nhw yn eu cartref yn y brifddinas.
Maen nhw yn eu tro wedi bod allan i Wcráin nifer fawr o weithiau.
Mae Margaret yn trio cysylltu â ffrind iddi, sy'n athrawes yn Wcráin, ond hyd yma heb unrhyw lwyddiant.
"Dwi ddim 'di clywed gan Anna ers tro - rwy wedi sgrifennu gan obeithio y bydd hi yn derbyn y llythyr," meddai.
"Mae hi yn byw mewn ardal lle roedd ymosodiadau."
Mae Margaret yn edrych yn fanwl pob dydd i weld y newyddion diweddaraf am y rhyfel ac yn dal i obeithio am y gorau wrth feddwl am ei ffrind.
"Rwy yn credu bod menywod yn Wcráin yn gryf ac yn gallu ymgymryd â lot o drafferthion ac mae gan fy ffrind y math yna o wytnwch ynddi hi."
Anniddigrwydd mawr
Wrth edrych tua'r flwyddyn newydd mae Emrys yn dweud bod angen gwell dealltwriaeth o'r cefndir i'r rhyfel er mwyn ymateb yn well.
Un o'r digwyddiadau allweddol sy' rhaid cadw mewn cof, meddai, yw'r gwrthryfel yn 2014.
Fe gychwynnodd ton o brotestiadau wnaeth arwain at dywallt gwaed yn y wlad ym mis Tachwedd 2013 yn galw ar yr Arlywydd Viktor Yanukovych i ymddiswyddo.
Roedd anniddigrwydd mawr ar ôl iddo, ar yr unfed awr ar ddeg, wrthod arwyddo cytundeb gwleidyddol ac economaidd gyda'r Undeb Ewropeaidd. Roedd yn ffafrio cryfhau'r cysylltiadau gyda Rwsia.
Myfyrwyr oedd yn arwain y protestiadau i gychwyn gan bwyso ar yr Arlywydd Yanukovych a'r Prif Weinidog Mykola Azarov i arwyddo cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Ar y dechrau roedd y protestio cynnar yn drefnus a heddychlon.
Ond ar doriad gwawr ar 30 Tachwedd symudodd heddlu arbennig Berkut i mewn i sgwâr Maidan gan danio nwy dagrau a churo protestwyr. Roedd hyn yn drobwynt yn y protestio.
Erbyn amser cinio roedd y dorf yn y Maidan wedi cynyddu ac am fisoedd wedyn canolbwynt y chwyldro oedd canol Kyiv, a'r protestio wedi troi'n chwyldro i ddymchwel y Llywodraeth .
"Ar y dechrau roedd pobol ddysgedig yn arwain y gwrthryfel," meddai Emrys.
"Roedden nhw am weld mwy o ddemocratiaeth, tebyg i ddemocratiaeth y gorllewin."
Y frwydr dros Crimea
Roedd y protestio, a llwyddiant y chwyldro yn Wcráin, wedi achosi braw i'r Arlywydd Putin yn Rwsia ac yn fuan wedyn fe wnaeth e gychwyn cynllun i feddiannu Crimea.
Roedd canlyniadau'r gwrthryfel yn fawr ac yn cynnwys gwrthdaro yn ardal de ddwyrain y Donbas.
Tra yn cytuno nad oedd pethau'n berffaith ar ôl y chwyldro a bod rhai pobol wedi eu dadrithio, mae Emrys Roberts yn dweud fod y wlad wedi ei gweddnewid yn llwyr.
Ar ôl i'r coup ennill roedd etholiad yn y wlad a chafodd llywodraeth newydd ei hethol oedd yn gefnogol i'r gorllewin.
Mae angen cofio'r cefndir yma er mwyn deall y rhyfel heddiw yn well, yn ôl Emrys Roberts.
"Dyle'r Cenhedloedd Unedig fod wedi gwneud mwy. Does gan rhan fwyaf o bobol y gorllewin ddim syniad o be yw y cefndir.
"Felly nes i rhagweld y bydde Putin yn gofyn am refferendwm arall yn yr ardal, ond doeddwn i ddim yn disgwyl ymosodiad, a dwi ddim yn credu fod unrhyw beth yn cyfiawnhau be mae Putin wedi g'eud.
"Mae yr holl sefyllfa yn drist ofnadwy a'n dangos pa mor wan ac aneffeithiol yw y Cenhedloedd Unedig, ac mae angen rhywbeth mwy cryf yn y canol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2022