Teithio dros 'Dolig yn ôl i'r arfer ond rhybudd am oedi

  • Cyhoeddwyd
teithioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae teithwyr wedi cael eu cynghori i osgoi teithio ar y trenau Noswyl Nadolig oherwydd gweithredu diwydiannol

Mae 'na rybudd y bydd traffig yn dychwelyd i'r un lefelau â chyn y pandemig wrth i bobl ddefnyddio'u ceir er mwyn osgoi'r streiciau ar y rheilffyrdd.

Yn ôl cymdeithas foduro'r RAC, bydd 20 miliwn o deithiau'n digwydd dros y Nadolig, gyda 40% ohonyn nhw'n digwydd ddydd Gwener a Noswyl y Nadolig.

Mae teithwyr wedi cael eu cynghori i osgoi teithio ar y trenau Noswyl Nadolig oherwydd gweithredu diwydiannol.

Y mannau prysuraf ar ffyrdd Cymru fydd y rhannau o draffordd yr M4 yng Nghasnewydd a Phort Talbot.

Rheilffordd - rhybudd am streiciau

Mae cwmnïau trenau'n gweithredu amserlen lawn yn yr wythnos hyd at y Nadolig ond mae teithwyr yn cael eu rhybuddio am "aflonyddwch sylweddol" wrth i'r rhwydwaith gau yn gynnar ar Noswyl Nadolig oherwydd y gweithredu diwydiannol diweddaraf gan aelodau o undeb yr RMT.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd cryn oedi ar y rheilffyrdd yn ystod gwyliau'r Nadolig yn sgil gweithredu diwydiannol

Mae Network Rail wedi dweud wrth bobl am beidio â theithio os nad yw'n "gwbl angenrheidiol" ddydd Sadwrn, neu i ystyried teithio ar ddiwrnod arall.

I rai sydd angen teithio Noswyl Nadolig y cyngor ydy i deithio cyn hanner dydd er mwyn osgoi'r streic.

Bydd y streic ddiweddaraf yn dechrau am 18:00 ddydd Sadwrn a bydd yn parhau tan 06:00 ar 27 Rhagfyr, gyda chwmnïau rheilffordd yn rhybuddio y bydd gwasanaethau ar 27ain yn cychwyn yn hwyrach na'r arfer a bydd llai o drenau ar gael.

Mae GWR, sy'n rhedeg gwasanaethau rhwng de Cymru a Llundain, wedi dweud y byddan nhw'n gweithredu amserlen lai dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd.

Rhybuddiodd GWR hefyd y bydd pob taith rhwng de Cymru a Llundain rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd yn cymryd 25 munud yn fwy oherwydd gwaith ar y lein.

Ffynhonnell y llun, Construction Photography/Avalon
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y streic yn effeithio ar wasanaethau ar draws Cymru

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud wrth deithwyr i gynllunio ymlaen llaw ac wedi rhybuddio am drenau prysur.

"Er nad ydy ein staff ni yn streicio, dim ond tua 10% o'n gwasanaethau fydd yn rhedeg, a bydd mwyafrif rhwydwaith Cymru a'r Gororau heb unrhyw wasanaethau o gwbl," meddai Jan Chaudhry-Van dêr Velde, pennaeth Trafnidiaeth Cymru.

Mae'r cwmni wedi rhybuddio am drafferthion posib ar rai gwasanaethau yng nghymoedd y de dros gyfnod yr ŵyl gyda bysys yn lle trenau rhwng Pontypridd ac Aberdâr rhwng 27 Rhagfyr a 5 Ionawr a rhwng Pontypridd a Merthyr Tudful o 2 Ionawr 2 tan 5 Ionawr oherwydd gwaith peirianyddol.

Mae teithwyr sy'n teithio rhwng gogledd Cymru a Llundain ar wasanaethau Avanti West Coast hefyd yn wynebu problemau ar Noswyl Nadolig a 27 a 28 Rhagfyr.

Mae yna weithredu diwydiannol hefyd fydd yn amharu ar drenau CrossCountry rhwng Caerdydd a Birmingham a Nottingham

Prysurdeb ar y ffyrdd

Mae arbenigwyr o'r RAC yn rhagweld y bydd 19.6 miliwn o deithiau car yn digwydd dros y dyddiau nesaf wrth i bobl fynd i weld teulu a ffrindiau gyda bron i wyth miliwn o'r cerbydau hynny ar ffyrdd y DU ddydd Gwener a ddydd Sadwrn.

"Gyda lefelau cyn-bandemig o deithwyr ar y ffyrdd, rhaid i yrwyr ddisgwyl oedi," yn ôl Bob Pishue o'r cwmni dadansoddi data traffig Inrix.

"Mae ein data'n dangos mai'r cyfnodau prysuraf ydi oriau cymudo arferol, ac o ganlyniad ein cyngor ni ydi i adael un ai yn gynnar yn y bore neu yn gynnar gyda'r nos ar ôl oriau brig."

Rhannau o'r M25, yr M60 ger Manceinion, yr M5 o amgylch Bryste a'r M6 o amgylch Birmingham fydd ffyrdd prysuraf y DU.

Mae disgwyl mai traffordd yr M4 o amgylch Casnewydd fydd y ffordd brysuraf yng Nghymru dros gyfnod y Nadolig gyda disgwyl tagfeydd hefyd o amgylch Port Talbot ac Abertawe.

"Er ei bod hi'n edrych yn debyg mai'r 23 Rhagfyr a Noswyl Nadolig fydd y diwrnodau teithio prysuraf, mae hi'n bosib y bydd gweithredu diwydiannol gan staff y rheilffyrdd yn arwain at lefelau uwch o geir ar ein ffyrdd," meddai llywydd yr AA, Edmund King.

Mae Traffig Cymru a Highways England wedi dweud eu bod wedi atal gwaith ffyrdd dros yr ŵyl mewn ymgais i gadw'r traffig yn llifo.

Mwy o fysiau ar ddiwrnodau streic

Mae cwmnïau bysiau sy'n teithio pellteroedd hir wedi ehangu eu gwasanaethau ar ddyddiau'r streic ar y rheilffyrdd oherwydd yr hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel galw "digynsail".

Mae National Express, sy'n gwasanaethu dros 30 o drefi a dinasoedd yng Nghymru, yn dweud bod 50,000 o seddi ychwanegol ar gael ar draws y DU dros gyfnod y Nadolig gan eu bod yn disgwyl mwy na hanner miliwn o deithwyr rhwng 22 Rhagfyr a 2 Ionawr.

"Mae'r galw am ein gwasanaethau, yn enwedig o gwmpas y diwrnodau streic rheilffordd, yn anhygoel" meddai John Boughton o National Express.

Mae Megabus yn dweud bod 'na gysylltiad "bendant" rhwng y streiciau ar y trenau a'r galw ychwanegol am docynnau ar eu bysus gyda'r cwmni'n ychwanegu 50 o wasanaethau ychwanegol - gan gynnwys 20 i ac o Gymru - dros gyfnod yr ŵyl.

"Fe fyddwn ni'n ychwanegu gwasanaethau hyd y gallwn ni, ond mae'r galw yn ryfeddol ac yn ddigynsail," meddai rheolwr gyfarwyddwr Megabus, Mark Venables.

Oedi yn y meysydd awyr hefyd

Bydd staff Llu Ffiniau'r Deyrnas Unedig yn cynnal wyth diwrnod o weithredu diwydiannol dros y Nadolig.

Bydd staff yn mynd ar streic mewn meysydd awyr fel Heathrow, Gatwick a Manceinion yn ogystal â Birmingham a Chaerdydd.

Fe fydd y streic yn cael ei chynnal rhwng 23-26 Rhagfyr a 28-31 Rhagfyr.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bydd staff Llu Ffiniau'r Deyrnas Unedig yn cynnal wyth diwrnod o weithredu diwydiannol dros y Nadolig

Hediadau mwyaf poblogaidd Maes Awyr Caerdydd dros y Nadolig ydi Amsterdam, Dublin a Chaeredin.

Mae Llywodraeth y DU wedi rhybuddio teithwyr am "oedi difrifol" yn ystod y streiciau ac mae Maes Awyr Caerdydd wedi dweud bod peth oedi i'w ddisgwyl wrth wirio pasbortau.

Mae rhai cwmnïau fel British Airways a Virgin Atlantic wedi rhoi'r gorau i werthu tocynnau newydd ar gyfer hediadau sy'n cyrraedd Heathrow ar ddyddiau'r streiciau gan staff y Llu Ffiniau.

Pynciau cysylltiedig