Trafnidiaeth Cymru'n dod i gytundeb ag undebau rheilffyrdd

  • Cyhoeddwyd
trenFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae undebau llafur wedi dod i gytundeb gyda Thrafnidiaeth Cymru (TC) ar gyflogau, yn dilyn trafodaethau.

Dywedodd TC, sy'n dod dan adain Llywodraeth Cymru, eu bod wedi cytuno ar godiad cyflog sylfaenol o 4.5% i weithwyr rheilffordd, gyda rhywfaint o amrywiaeth o fewn hynny.

Ond mae'r anghydfod rhwng undebau a Network Rail yn parhau, a thrafodaethau hefyd rhwng yr undebau a'r Rail Delivery Group, sy'n cynrychioli 14 o gwmnïau trên.

Mae'n golygu felly bod disgwyl i'r dyddiau streic dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd barhau i fynd yn eu blaen.

Ond dywedodd un o weinidogion Llywodraeth Cymru fod y cytundeb ddydd Gwener yn arwydd o sut maen nhw'n "mynd ati i wneud pethau'n wahanol", gan annog Llywodraeth y DU i ddod i ddatrysiad tebyg.

'Modd osgoi anghydfod'

Mae streiciau trên yn ystod yr wythnos hon eisoes wedi cael effaith ar rai gwasanaethau, ac mae gweithwyr mewn nifer o sectorau eraill hefyd wedi cynllunio dyddiau streic dros gyfnod y Nadolig.

Mae'r rhain yn cynnwys nyrsys, staff y Gwasanaeth Ambiwlans a swyddogion post, a hynny dros beth maen nhw'n teimlo yw codiad cyflog annigonol o ystyried y cynnydd mewn costau o ganlyniad i chwyddiant.

Ond er bod yr undebau llafur sy'n cynrychioli gweithwyr rheilffyrdd wedi dod i gytundeb gyda Thrafnidiaeth Cymru, bydd streiciau dal yn tarfu ar wasanaethau trên yng Nghymru dros y Nadolig gan mai Network Rail sy'n rhedeg y rhwydwaith.

Serch hynny dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru, eu bod yn "hynod falch" o ddod i gytundeb gyda TSSA, Unite a'r RMT.

"Rydym yn parhau i gydweithio â'n hundebau llafur wrth i ni adeiladu ein model partneriaeth gymdeithasol sy'n cynnig buddion i bawb," meddai.

"Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'n holl bartneriaid a fu'n rhan o'r trafodaethau a hefyd amlygu mor bwysig yw hi ein bod yn cefnogi ein gweithlu yn yr argyfwng costau byw hwn."

Yn gynharach yn yr wythnos fe wrthododd yr RMT gynnig Network Rail ar gyfer codiad cyflog i'w staff nhw, er i undebau TSSA ac Unite dderbyn y cynnig.

Ond dywedodd eu hysgrifennydd cyffredinol, Mick Lynch, fod "cydnabyddiaeth Trafnidiaeth Cymru o fandad cryf yr RMT yn y maes hwn wedi'n helpu i wneud cynnydd da".

"Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos yn glir y gellir osgoi anghydfodau rheilffyrdd trwy gynnal trafodaethau ystyrlon," meddai.

Ychwanegodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, fod y "cytundeb cyflog teg" yn "cydnabod gwerth ein gweithwyr rheilffyrdd".

"Rydym yn annog Llywodraeth y DU yn gryf i ddilyn ein hesiampl drwy drafod cytundeb cyflog gydag undebau yn Lloegr er mwyn osgoi streic a tharfu pellach i deithwyr a nwyddau," meddai.