Trafferthion Nadolig wrth i streic trenau fynd yn ei blaen
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar diwrnod o streiciau gan weithwyr trên yr wythnos hon yn golygu bod y rhan fwyaf o drenau Cymru a gweddill Prydain yn yr unfan, wrth i weithredu diwydiannol gan undebau'r sector gynyddu a lledaenu.
Gyda mwy o streicio wedi ei gynllunio ar gyfer ar ôl y Nadolig hefyd, mae teithwyr trên yn debygol o wynebu'r trafferthion mwyaf ers diwedd y 1980au.
Fe wnaeth aelodau undeb yr RMT bleidleisio i wrthod cynnig Network Rail o godiad cyflog o 5% eleni, a 4% arall y flwyddyn nesaf.
Ond ni fydd streic aelodau undebau Unite a TSSA yn mynd yn ei blaen, wedi iddyn nhw dderbyn y cynnig.
Newid cynlluniau
Dwy fyfyrwraig sydd wedi gorfod newid trefniadau'n barod yw Catrin Parry ac Elin Huws - y ddwy yn astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Fel arfer mae'r ddwy'n defnyddio'r trên i fynd adref i Sir Fôn, gan dalu tua £25 am docyn un ffordd drwy drefnu o flaen llaw - ond nid y tro hwn.
Mae cyfnod y darlithoedd a'r dysgu yn dod i ben ddydd Gwener, un o bedwar diwrnod o streicio.
"Fel arfer 'sa ni'n mynd prynhawn dydd Gwener ar ôl y ddarlith, ar y trên, ond achos bod dim trenau 'dan ni ddim yn mynd tan ddydd Sul, pan gawn ni lifft gan mam Elin," meddai Catrin.
"Mae wedi bod yn andros o benbleth meddwl be' o'n ni'n mynd i 'neud.
"Mae'n amser i rywbeth gael ei wneud am y sefyllfa achos mae'r streics yn parhau a does dim yn newid, ac mae'n achosi gymaint o broblemau."
Er mwyn casglu'r ddwy, mae Elin yn dweud y bydd ei mam yn teithio lawr ddydd Gwener ac aros dwy noson yng Nghaerdydd, sy'n golygu cost ychwanegol iddi yn ogystal â gadael ei gwaith yn fuan ddiwedd yr wythnos.
"'Dan ni 'di arfer efo'r streics yn ddiweddar ond mae streicio mor agos at y Nadolig - dwi'n deall pam bod o'n digwydd, ond mae'n rhaid i rywbeth newid ac mae o just yn rhwystredig," meddai.
"Mae dipyn o'n ffrindiau ni yn gadael yn yr wythnos yma rŵan, rhai'n gadael ddydd Iau er bod ganddyn nhw ddarlithoedd ddydd Gwener.
"Dyna'r unig ddiwrnod maen nhw'n gallu gadael i fynd adra', gorfod methu 'chydig o ddarlithoedd just oherwydd y streiciau."
Pryd mae'r streiciau?
Mae'r streiciau yn cael eu cynnal bedwar diwrnod yr wythnos hon - dydd Mawrth a Mercher, ac yna dydd Gwener a Sadwrn.
Anghydfod ynglŷn â chyflogau, amodau gwaith a diogelwch swyddi sydd wrth wraidd yr anghytuno rhwng undeb yr RMT, a Network Rail ac 14 cwmni trenau.
Dywedodd yr RMT fod 63.6% o'u haelodau wedi gwrthod cynnig Network Rail, fyddai wedi cynnwys codiad cyflog o 5% wedi'i ddyddio yn ôl i fis Ionawr eleni, codiad cyflog arall o 4% ar ddechrau 2023, a sicrwydd na fyddai diswyddiadau gorfodol nes 2025.
Ddydd Llun fe wnaeth aelodau Unite a TSSA dderbyn y cynnig.
Dywedodd Steven Skelly o Bontyclun, sy'n drefnydd rhanbarthol gydag undeb yr RMT, fod y gweithredu yn ymwneud â diogelwch yn ogystal â'u hamodau.
"Dyw aelodau o'r RMT ddim eisiau gweithredu fel hyn ond rydym yn teimlo nad oes yna ddewis", meddai.
"Cofiwch bydd ein haelodau yn colli tâl yn ystod y cyfnod hwn.
"Rydym yn wynebu'r posibilrwydd o filoedd yn colli eu swyddi o fewn y diwydiant, a gostyngiad yn y safonau cynnal a chadw a diogelwch."
"Mae Llywodraeth y DU yn gwrthod codi bys i atal y streiciau hyn ac mae'n amlwg eu bod nhw eisiau gwneud streiciau effeithiol yn anghyfreithiol ym Mhrydain," meddai ysgrifennydd cyffredinol yr RMT, Mick Lynch.
"Byddwn yn gwrthwynebu hynny [ac] yn parhau i ymgyrchu dros gytundeb teg i weithwyr, codiad cyflog parchus ac amodau gwaith da."
Yng Nghymru, Network Rail sy'n gyfrifol am y cledrau a'r signalau ac felly mae'r rhan fwyaf o wasanaethau trenau Cymru'n cael eu heffeithio hefyd.
Er hynny, mae disgwyl i rai trenau redeg rhwng 07:30 ac 18:30.
Ond dim ond dechrau'r gweithredu allai ddigwydd yw hyn, gyda gwasanaethau'n debygol o gael eu heffeithio bob dydd rhwng 13 Rhagfyr ac 8 Ionawr.
Mae gwaith cynnal a chadw wedi ei gynllunio ar gyfer rhai diwrnodau fan hyn a fan draw. Does dim golwg chwaith o gymodi, gyda Mr Lynch yn galw'n gyhoeddus am gyfarfodydd uniongyrchol gyda'r Prif Weinidog Rishi Sunak.
Yn ôl y gohebydd trafnidiaeth Rhodri Clark mae yna wahaniaeth mawr yn y streic y tro hwn, gan gyfeirio at y ffaith bod pedwar diwrnod o weithredu.
"Yr un anghydfod ydy hwn a welson ni yn yr haf a'r hydref," meddai.
"Ond y gwahaniaeth mawr rŵan ydy bod yr RMT wedi penderfynu streicio ar fwy nag un diwrnod yn olynol.
"Felly mae hyn yn mynd i achosi lot o drafferthion i bobl, achos fedran nhw ddim mynd y diwrnod cynt neu'r diwrnod wedyn, ac hefyd fe fydd gwerth tri neu bedwar diwrnod o deithwyr ar y trenau pan fyddan nhw'n rhedeg."
Tra bod yna gefnogaeth wedi bod i weithwyr y sector hyd yn hyn, mae Mr Clark yn amau y gallai hynny newid wrth i gyfnod gwyliau poblogaidd gael ei dargedu.
"Mae'n fwy o risg rŵan bod nhw'n 'neud y gweithredu yma cyn 'Dolig pan mae lot o fyfyrwyr, er enghraifft, yn teithio adref, lot o bobl yn 'neud eu siopa 'Dolig neu adloniant," meddai.
"Mae'n mynd i achosi lot o drafferthion, ond eto'i gyd dwi yn meddwl bod y cyhoedd yn gweld bod angen gwella cyflogau'r gweithwyr mewn lot o sectorau, nid dim ond y trenau, gan bod chwyddiant mor uchel."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2022