Ateb y galw: Steffan Cennydd
- Cyhoeddwyd

Yr actor Steffan Cennydd sydd yn Ateb y Galw yr wythnos yma ar ddydd gŵyl San Steffan.
Mae'r actor o Gaerfyrddin wedi ymddangos mewn cyfresi fel The Pembrokeshire Murders ac yn y ffilm arswyd Gwledd eleni. Dros Nadolig bydd Steffan i'w weld yng nghyfres newydd Yr Amgueddfa ar nos Lun 26 Rhagfyr am 9.00 ar S4C.

Beth ydi dy atgof cyntaf?
Eistedd ar wal flaen tŷ Mam-gu yn Rhydamman gyda Wncwl Alun yn smygu pib wrth fy ochr.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Bannau Brycheiniog. Na'i fyth flino ar y golygfeydd sydd yn yr ardal 'na.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Cymru'n curo Gwlad Belg yn Ewro 2016. Dath ffrindie o adre i wylio'r gêm gyda fi yn Llundain. Odd e'n teimlo fel Cymru'n curo'r byd. A wedyn dathlu ar ôl y gêm mewn gig Jazz Big Band. Class.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Crwt o Gaerfyrddin.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fi'n rili mwynhau garddio, fi'n gallu gweithio trwy'r dydd yn yr ardd a ddim gweld unrhyw amser yn pasio. Mewn bywyd gwahanol bydden i'n arddiwr fi'n meddwl, naill ai hwnna neu cogydd.

Gardd Steffan
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Tra'n treal ordro tacsi adre o barti penblwydd fy hun yn 21, nes i rhywsut signo lan i fod yn Uber driver. Bore wedyn odd da fi negeseuon ar y ffon yn gofyn i fi ddewis car a booko induction. Hyd heddi s'dim syniad 'da fi shwt lwyddes i neud na - idiot.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Fi'n treal anghofio rhain!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Wythnos dwetha nes i wylio film ar BBC4, Storyville - A Bunch of Amateurs am glwb ffilmiau amatur yn Bradford. O'dd ymrwymiad yr aelod hyna' Colin yn ormod i fi, yn troi lan i'r cyfarfod y diwrnod iddo fe golli ei wraig.

Steffan yn perfformio yn theatr y Globe
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Anghofio waled fi. Dim ots le fi'n mynd, fi'n anghofio fe.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?
Beware of Pity gan Stefan Zweig. Stori am faux pas - sefyllfa fi'n nabod lot rhy dda. Ma' rhybeth mor ffilmig am y llyfr 'ma. Yn ôl y sôn, dyma'r llyfr nath ysgogi Wes Anderson i greu The Grand Budapest Hotel.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Rhwydd - fy nhad-cu i Ken. Buodd e farw cyn i fi gal fy ngeni. Alla'i ddim dychmygu sut oedd ei fywyd e fel glöwr yn cymharu gyda mywyd i heddi. Bydde gyda fi rhestr o gwestiyne hyd fy mraich.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun o Dad-cu yn darllen yn ei ardd, sdim lot o lunie ohono fe so ma hon yn meddwl lot i fi.

Ken, tad-cu Steffan
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd getre i Sir Gar a cwcan swper i'r teulu, ishte gyda nhw a watsho rhyw sothach ar y teledu.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Rick Stein. Ma fe'n cal ei dalu i deithio rownd y byd a byta bwyd. Ideal.
Hefyd o ddiddordeb: