Gwledd: Y ffilm Gymraeg sy'n sinemâu Prydain

  • Cyhoeddwyd
Poster hysbysebu GwleddFfynhonnell y llun, Gwledd/The Feast
Disgrifiad o’r llun,

Poster hysbysebu Gwledd

Mae'r ffilm arswyd Gymraeg Gwledd (The Feast) i'w gweld mewn sinemâu ledled Prydain ac Iwerddon ar hyn o bryd.

Yn serennu Annes Elwy, Nia Roberts a Julian Lewis Jones, mae'r ffilm eisoes wedi derbyn llu o wobrau o ŵyliau ffilmiau rhyngwladol gan gynnwys y Ffilm Ewropeaidd Orau yn Lisbon International Horror Film Festival (MOTELX).

Cymru Fyw aeth i wylio Gwledd a'r cynhyrchydd Roger Williams yn sgwrsio amdani yn sinema Pontio, Bangor.

'Dwi byth wedi gweld ffilm arswyd Cymraeg o'r blaen'

Yn y ffilm, mae teulu sydd â'r tad yn Aelod Seneddol yn paratoi gwledd i ddyn busnes ac ambell i gymydog mewn tŷ yng nghanol nunlle ar gyrion y gymuned leol. Daw merch ifanc, Cadi, sy'n cael ei chwarae gan Annes Elwy draw i weini am y noson, ac wrth wledda i fol y nos ac ym mhresenoldeb Cadi, mae'r golygfeydd yn mynd yn dywyllach ac yn fwy iasol.

"Creu ffilm arswyd Gymraeg" a rhoi "profiad sinematig i'r gynulleidfa" oedd uchelgais Roger, cynhyrchydd a sgriptiwr y ffilm, a'r cyfarwyddwr Lee Haven Jones.

Meddai Roger: "Mae'r ddau ohonon ni yn bobl sy' di mwynhau arswyd erioed fel pobl yn ein harddege oedd yn aros lan yn hwyr a dewis gwylio A nightmare on Elm Street ar deledu pan doedden ni ddim fod."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lee Haven Jones, cyfarwyddwr (chwith), a Roger Williams, cynhyrchydd Gwledd yn première Gwledd yn ystod 65ed gŵyl BFI London Film Festival, 7 Hydref 2021

Daeth y cyfle i Roger a Lee, dau sydd wedi gweithio yn y diwydiant teledu ers blynyddoedd ac wedi "trafod â'i gilydd am greu ffilm ers blynydde mawr", i wireddu eu breuddwyd drwy gynllun Cinematig gan Ffilm Cymru, BFI ac S4C.

Meddai Roger: "Roedd jest y syniad o greu ffilm arswyd yn y Gymraeg, oedd hynna yn rhywbeth oedd yn teimlo'n gyffrous i fi achos dwi byth wedi gweld ffilm arswyd Cymraeg o'r blaen, a don i ddim isio creu rhywbeth oedd wedi cael ei weld o'r blaen - o'n i isie ychwanegu rhywbeth newydd i'r rhestr o ffilmiau Cymraeg sydd eisoes yn bodoli.

Ffeindio tŷ ym Mhowys

Yn ffilm sy'n cwmpasu nifer o themâu gan gynnwys effaith pobl ar yr amgylchedd, cymuned, chwedloniaeth, teulu a gwerthoedd pobl, gweledigaeth Roger oedd i "greu ffilm oedd yn gweud pethe."

Meddai: "O'n i isie bod y ffilm gyda neges am sut y'n ni'n byw heddiw, a chreu rhywbeth sydd yn diddanu pobl trwy brism o arswyd."

Ffynhonnell y llun, Gwledd/The Feast
Disgrifiad o’r llun,

Annes Elwy sy'n chwarae rhan Cadi, un o'r prif gymeriadau

Er mwyn cyflawni'r weledigaeth honno, penderfyniad Roger a Lee oedd defnyddio tŷ ym Mhowys fel prif leoliad yn y ffilm. Ond roedd y ddau'n benderfynol o beidio chwarae ar ystradebau o Gymru arswydus, cyntefig.

"Ein dyhead oedd nad ydi'r ffilm yn teimlo fel y math o ffilm arswyd y byddech chi'n disgwyl ei gael o Gymru. Felly do'n i'm isie ffilm oedd wedi cael ei saethu yn y gaeaf, yn y gwynt a'r glaw a bod y tŷ yn fath o fwthyn carreg fydde di bodoli ers peth amser," meddai.

"O'dd fi a Lee wedi gweithio ar ffilm fer gyda'n gilydd lle o'n i wedi saethu mewn tŷ cyfoes iawn yn Gaerdydd a gyda syniad o ddod o hyd i rwbeth oedd yn gyfoes, yn newydd ac yn wahanol. Roedd yr holl syniadau yna yn rhan o'r sgwennu a'r creu a pan gathon ni'r golau gwyrdd - oedd rhaid i ni ddod o hyd i'r cartre yma oedd y ddou ohonon ni wedi dychmygu."

Ar ôl peth gwaith ymchwil, daethant ar draws tŷ modern mewn ardal hardd ac anghysbell yn Llanbister, Powys. Ond roedd dwyn perswâd ar y perchnogion i ganiatàu iddynt saethu ffilm arswyd mewn tŷ gwyliau yn dalcen caled arall.

Ffynhonnell y llun, Living Architecture
Disgrifiad o’r llun,

Tŷ Bywyd, Llanbister lle ffilmwyd Gwledd

Meddai Roger: "Wnaethon ni ddod o hyd i'r lle 'ma a nathon ni gysylltu yn wreiddiol gyda'r perchnogion ond doedden nhw ddim isie i ni weld y tŷ, ond a'th peth amser heibio a oedd yna rywun newydd wrth y llyw ac yn hapus i ni fynd i weld y tŷ a ffilmio yno am dair wythnos."

Defnyddiodd Roger a Lee'r ystafell fyfyrio sydd yn y tŷ fel ysbrydoliaeth i greu'r 'Gell' - ystafell sy'n ymddangos yn oeraidd ond sy'n hoff ystafell i gymeriad Glenda sy'n cael ei chwarae gan Nia Roberts.

"Enw'r tŷ yw Tŷ Bywyd a mae'n bosib mynd yna ar wylie - mae Americanwyr yn talu lot arian i aros yno a eistedd yn y stafell fyfyrio a syllu trwy'r ffenest sy' yn y to yn meddwl am y byd a'i bywydau. Ar ôl ymweld â'r lle wnaethon ni addasu y sgript - bydden ni heb allu dychmygu rwle fel y gell 'na. Gath y lle 'na ei sgwennu mewn i'r sgript."

'O'n i'n benderfynol ei bod hi am fod yn ffilm Gymraeg i gyd'

'The Feast' yw enw'r ffilm yn Saesneg ond mae'n parhau'n ffilm Gymraeg mewn sinemâu tu hwnt i Gymru gydag isdeitlau Saesneg. Dyna fu'r weledigaeth o'r cychwyn cyntaf. Eglura Roger:

"Y bwriad o'r cychwyn cynta oedd ein bod ni am greu ffilm fyddai'n teithio ac a fyddai'n cael ei gweld wrth gwrs yng Nghymru, ond tu hwnt i Gymru hefyd.

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan Picturehouse

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan Picturehouse

"Mae pawb dwi'n meddwl yn gwybod faint o amser mae'n gymryd i gynhyrchu ffilm nodwedd a'r dagrau sy'n mynd mewn iddi felly do'n i ddim eisiau creu ffilm oedd yn iawn ond doedd heb le yn y farchnad felly o'r cychwyn cynta, y gobaith oedd ei bod yn mynd i fod yn ffilm oedd yn ffeindio ei lle ynghanol ffilmiau mawr rhyngwladol ac a oedd am ddenu sylw gan bobl yma yng Nghymru ie, ond hefyd yn y farchnad ffilmiau rhyngwladol.

"Mae'r ffilm wedi cael ei gweld mewn sawl gwlad ar hyd y byd eisoes, wedi ennill gwobrau a wedi cael ei rhyddhau yng ngolgledd America felly mae'r cynllun cyfan yn gweithio mas."

Bob gair yn Gymraeg

"Doedden ni ddim eisiau creu fersiwn Saesneg efo'r prosiect hwn - oedd hi'n ffilm Gymraeg, gyda'r bwriad bod bob gair am fod yn Gymraeg.

"Nathon ni ddim cweit neud hynny, mae'r rhegfeydd yn Saesneg yn bendant a dwi'n meddwl nath rhywun yn Nottingham herio ni am hyn a gweud, 'Pam bod 'na eirie fel please a sorry ichi'n defnyddio'n yn Saesneg a dwi'n ceisio esbonio bo' nhw di dod yn rhan o sgwrs naturiol yr iaith erbyn hyn.

"O'n i'n benderfynol bod hi am fod yn ffilm Gymraeg i gyd gyda gobaith y bydde hi'n teimlo fel ffilm gyfoes Ewropeaiddd a bydde pobl yn gwylio hi yn yr un ffordd a bydden nhw yn gwylio rhywbeth o Romania neu Ffrainc a mwynhau y stori a'r profiad sinematig."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig