Alun Mummery: Teyrngedau i 'Mr Llanfairpwll' fu farw yn 80
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cynghorydd Alun Mummery, a oedd yn un o hoelion wyth pêl-droed llawr gwlad Ynys Môn a'r gogledd am ddegawdau.
Wrth gyhoeddi ei farwolaeth ddydd Iau yn 80 oed, fe gyfeiriodd Clwb Pêl-droed Llanfairpwll ato fel "Mr Llanfairpwll" ac yn "ffigwr anferthol o fewn pêl-droed lleol".
Ychwanegodd y clwb: "Bydd ei golled yn cael ei theimlo gan lawer, ond does dim geiriau gyda ni oll yma yn CPD Llanfairpwll faint o hiraeth fydd amdano."
Dywedodd cyd-gynghorydd a ffrind, Trefor Lloyd Hughes, bod Mr Mummery yn ddyn "galluog, cyfeillgar ac addfwyn", ac na allai "ddisgrifio faint o golled fydd ar ei ôl o".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd Mr Mummery ei urddo â'r wisg las gan Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017 am ei gyfraniad "sylweddol dros y blynyddoedd" i'w filltir sgwâr.
Bu'n gynghorydd ar Gyngor Cymuned Llanfairpwll am dros hanner canrif, yn gynghorydd sir dros ei ardal leol yn Llanfairpwll, Porthaethwy, Star a Phenmynydd, ac yn llywodraethwr yn yr ysgol gynradd leol.
Roedd yn gynrychiolydd Plaid Cymru yn ward Aethwy, ac yn aelod o bwyllgor gwaith cyfredol Cyngor Sir Ynys Môn, gan arwain ar faterion tai a diogelwch cymunedol y sir.
'Methu disgrifio'r golled'
Roedd Trefor Lloyd Hughes, sy'n gynghorydd Plaid Cymru yn Ynys Môn hefyd, yn ffrindiau da gyda Mr Mummery o fewn y cylchoedd pêl-droed ers y 70au.
"Fydd 'na golled aruthrol, fedra' i ddim disgrifio faint o golled fydd ar ei ôl o," dywedodd wrth BBC Cymru Fyw.
"Heb sôn am bêl-droed, o'dd o'n gynghorydd sir hefyd, o'dd o'n rhoi 100% i bêl-droed, i'w swydd fel cynghorydd i bobl Ynys Môn, ac wrth gwrs i bobl Llanfair a Borth dwi'n deall hefyd.
"O'dd o'n ddyn galluog, cyfeillgar i mi ac yn gymeriad addfwyn."
Fe ddisgrifiodd Trefor Lloyd Hughes sut aeth y ddau i wylio Cymru ym Mhencampwriaeth Euro 2016 a'r rheiny'n "ddyddiau da iawn yn hwyl Ffrainc".
"Mae'n calonnau a'n meddyliau 'efo'r teulu i gyd."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd Mr Mummery yn gyd-gynghorydd ar ward Aethwy gyda Dyfed Wyn Jones, sy'n dweud mai dyna pwy wnaeth ei annog i "gymryd y cam i sefyll yn yr etholiad".
"Y gefnogaeth, yr anogaeth, o'dd o yna fel rhyw fath o encyclopedia," dywedodd Dyfed Wyn Jones.
"Os oedd rh'wbeth wedi digwydd yn y pentre', o'dd Alun yn gw'bod, o'dd o wastad yna ac yn barod ei gymwynas.
"Mae pobl yn meddwl amdano fo fel dyn pêl-droed wrth gwrs, ond o'dd o'n ddyn diwylliannol iawn hefyd. Yn llyfr emynau yn ei hun! Yn cofio bob emyn.
"Ei gwmnïaeth, mor ffraeth, ryw sbarcl a diredi yn ei lygaid, ym mhob dim o'dd o'n ei wneud."
'Gonest, ffraeth a hapus'
Dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi, ei fod yn "ddyn ei bobl, yn ddyn ei ynys, dyn ei wlad ond yn fwy 'na dim roedd Alun yn ddyn ei deulu".
"Mae bwlch enfawr wedi ei greu wrth i ni gofio ei gyflawniad ac o gofio'r cymeriad anferth gyda'i wên hoffus a'i hiwmor direidus."
Ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Môn, Dylan J. Williams, ei fod yn "gymeriad unigryw".
"Roedd yn ddyn gonest, ffraeth a hoffus. Fel rhywun sy'n byw yn Llanfairpwll, rwyf yn gwybod pa mor angerddol oedd o tuag at y pentref a'r cyfraniad cadarnhaol a wnaeth yn ystod ei oes."
Mae cyn-lywydd ac aelod oes Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru, Dennis Bryant ymhlith llawer sydd wedi cyfeirio at gynhesrwydd y croeso dros y blynyddoedd wrth ymweld â Mr Mummery yn Llanfairpwll.
Mae ei farwolaeth, meddai, yn golled "enfawr" i'r pentref ac i ogledd Cymru.
"Newyddion trist iawn, Mr Llanfairpwll FC a gŵr bonheddig o'r fath ora'... bydd bwlch mawr ar ei ôl."
Mae Mr Mummery yn gadael tri o blant, Lynne, Gareth a Catherine, ei wraig, Gwyneth, a'u hwyrion a gor-wyrion.