Ganllwyd: Chwilio mewn afon am berson coll
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi bod yn chwilio mewn afon yn dilyn adroddiadau o berson yn mynd i'r dŵr yng Ngwynedd.
Dechreuodd Heddlu Gogledd Cymru chwilio yn Afon Mawddach yn ardal Ganllwyd am tua 16:15 brynhawn Gwener.
Mae'r heddlu'n chwilio gyda thimau achub mynydd, y gwasanaeth tân a'r gwasanaeth ambiwlans.
Dywedodd yr heddlu y byddai timau arbenigol yn parhau i chwilio.