Ymchwiliad Strep A yn parhau wedi marwolaeth merch yn Llambed
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad heddlu'n cael ei gynnal i amgylchiadau "marwolaeth heb esboniad" merch wyth oed yng Ngheredigion.
Bu farw Emily Tredwell-Scott yn ardal Maes-y-Deri, Llanbedr Pont Steffan nos Iau, 22 Rhagfyr.
Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) eu bod hefyd yn ymchwilio i gysylltiadau â math ymledol Strep A.
Mae menyw 33 oed wedi ei harestio ar amheuaeth o esgeuluso plentyn ond wedi ei rhyddhau dan ymchwiliad wrth i ymholiadau barhau.
'Risg isel o Strep A'
Dywedodd Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ICC: "Rydym yn cynnig ein cydymdeimladau dwys i'r teulu, ffrindiau a phawb sydd wedi eu heffeithio.
"Ni all Iechyd Cyhoeddus Cymru roi sylw ynghylch achosion unigol.
"Rydym yn ymchwilio i gysylltiadau â Streptococol Grŵp A ymledol (iGAS), cymhlethdod prin iawn haint Streptococol Grŵp A.
"Er yn deall bod rhieni'n debygol o fod yn bryderus, mae achosion iGAS yn parhau'n brin iawn yng Nghymru, ac mae gan blant risg isel iawn o ddal y clefyd."
Dywedodd y corff eu bod yn cydweithio gyda Chyngor Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dilyn marwolaeth y plentyn.
Ddydd Iau, fe wnaeth Heddlu Dyfed Powys gadarnhau fod crwner Ceredigion wedi cael gwybod am farwolaeth Emily Tredwell-Scott.
Fe wnaethon nhw gadarnhau fod ymholiadau'n parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2022