Iechyd Cyhoeddus Cymru: 'Strep A ymledol yn glefyd prin'
- Cyhoeddwyd
Mae clefyd Streptococol Grŵp A ymledol (iGAS), neu Strep A yn parhau i fod yn brin yng Nghymru, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywed ICC bod y risg fod plant yn dioddef ohono yn isel iawn.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'r clefyd, medd arbenigwyr, yn achosi'r Dwymyn Goch a rhywfaint o salwch.
Daw'r neges wedi i ICC ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU gadarnhau fod rhai plant wedi marw o'r clefyd - yn eu plith merch saith oed o Fro Morgannwg.
Bu farw Hanna Roap a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Victoria, Penarth ger Caerdydd ddiwedd Tachwedd o'r cyflwr.
Ar hyn o bryd mae adolygiad PRUDiC (Procedural Review of Unexpected Death in Childhood) yn cael ei gynnal - sef ymateb sawl asiantaeth i farwolaeth annisgwyl plant.
Mae cynnydd wedi bod mewn achosion o'r Dwymyn Goch rhwng Ionawr a Hydref eleni, medd arbenigwyr.
Yn y DU cafodd 1,512 o achosion eu cofnodi - yn ystod yr un cyfnod yn 2019 roedd y nifer yn 948.
'Rhan fwyaf yn gwella'
Dywedodd Dr Graham Brown, Ymgynghorydd ar Reoli Clefydau Heintus ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Tra'n bod ni'n deall bod rhieni yn debygol o boeni am adroddiadau cysylltiedig ag iGAS, mae'r cyflwr yn parhau i fod yn un prin.
"Mae symptomau annwyd a ffliw yn gyffredin iawn yr adeg hon o'r flwyddyn, yn enwedig ymhlith plant.
"Bydd y rhan fwyaf yn cael feirws tymhorol - rhywbeth y gellir ei drin drwy yfed digon o ddŵr a chymryd paracetamol.
"Fe allai rhai plant sydd â symptomau tebyg i annwyd a ffliw - gwddwg tost, pen tost, neu wres - fod yn dioddef o symptomau cynnar o'r Dwymyn Goch.
"Mae nifer o achosion o'r Dwymyn Goch yr adeg yma o'r flwyddyn ac os yw plant yn dioddef o symptomau o'r dwymyn - brech lliw pinc i goch sy'n teimlo fel papur tywod - yna dylai rhieni gysylltu â'r meddyg teulu.
"Tra bod y Dwymyn Goch yn peri mwy o bryder, mae e fel arfer yn salwch ysgafn - un y bydd y rhan fwyaf o blant yn gwella ohono heb yr un cymhlethdod, os yw'n cael ei drin yn iawn gan wrthfiotigau."
Ychwanegodd: "Mewn achosion prin fe all haint Strep A achosi iGAS - cymhlethdod prin sy'n effeithio ar lai na 20 o blant yng Nghymru bob blwyddyn.
"Er bod iGas yn gyflwr sy'n achosi pryder, bydd y rhan fwyaf o blant yn gwella ohono ond iddyn nhw gael y driniaeth iawn.
"Y peth gorau y gall rhieni ei wneud yw darparu yr un gofal â phetai plentyn yn dioddef o symptomau annwyd neu ffliw ond bod yn gyfarwydd â symptomau'r Dwymyn Goch ac iGAS.
"Mae'n bwysig fod plant dwy oed a hŷn yn cael brechlyn i'w diogelu rhag ffliw tymhorol."
'Cyfnod ble mae sawl haint yn lledaenu'
Mae 'na gynnydd sylweddol yn nifer y rhieni sy'n cysylltu gyda meddygon teulu gyda phryderon ynglŷn â Strep A, meddai'r meddyg teulu o Nefyn, Dr Eilir Jones, wrth raglen Post Prynhawn.
"Fum i'n gweithio dros y penwythnos i'r gwasanaeth tu allan i oriau, ac mi oedd nifer y galwadau'n benodol ynglŷn â phlant gyda rash, neu gyda gwres wedi codi'n sylweddol, ac o fod wedi siarad efo cydweithiwyr yn adrannau brys ysbytai'r gogledd, mae niferoedd y plant sy'n dod ymlaen yn uwch," dywedodd.
Ond fe bwysleisiodd bod yn rhaid rhoi hynny mewn cyd-destun, gan annog rhieni i fynd at y meddyg os oes ganddyn nhw bryderon.
"'Dan ni mewn cyfnod ble mae niferoedd uchel o sawl haint yn lledaenu drwy'n cymunedau ni, y rhan fwya' yn feirysiau," dywedodd.
"Bob blwyddyn mae 'na ryw fath o ledaeniad, felly ydy mae'n adeg prysur, ond ddylai hynny ddim bod yn rheswm i rieni beidio dod ymlaen os ydyn nhw'n pryderu ynglŷn â'u plant.
"Ac os ydy meddygon teulu yn bryderus ar ôl gweld y plentyn, rhaid eu hanfon nhw ymlaen, achos weithiau maen nhw angen triniaeth ysbyty."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2022