Aled Glynne Davies: Apêl wedi diflaniad cyn-olygydd Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd
Aled Glynne DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed teulu Aled Glynne Davies ei fod yn gwisgo'r gôt werdd yma pan gafodd ei weld ddiwethaf nos Galan

Mae teulu cyn-olygydd BBC Radio Cymru, Aled Glynne Davies wedi apelio am help i ddod o hyd iddo.

Yn ôl apêl sydd wedi ei rhannu gan Heddlu De Cymru, fe gafodd ei weld ddiwethaf yn ardal Pontcanna, Caerdydd am 23:30 nos Galan.

Dywedodd ei deulu mewn apêl brynhawn Sul ei fod "ar goll ac angen tabledi ar frys".

Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi llun ohono yn yr un got werdd yr oedd yn ei gwisgo nos Sadwrn.

Tua chwe throedfedd o daldra ac yn 65 mlwydd oed, mae'n bosib yr oedd hefyd yn gwisgo het werdd dywyll.

Bu cannoedd o bobl yn helpu gyda'r chwilio yng Nghaerdydd a'r cyffiniau ddydd Llun.

Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i bobl gysylltu â nhw, dolen allanol gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2300000314, os ydyn nhw'n amau eu bod wedi ei weld neu â unrhyw wybodaeth a allai fod o gymorth.

Pynciau cysylltiedig