Price a Clayton allan o Bencampwriaeth Dartiau'r Byd
- Cyhoeddwyd
Mae enillydd Pencampwriaeth Dartiau PDC y byd yn 2021, Gerwyn Price, allan o'r gystadleuaeth eleni ar ôl colli o bum set i un yn rownd yr wyth olaf nos Sul.
Cafodd Price, sy'n hannu o Sir Gaerffili, ei drechu gan Gabriel Clemens o'r Almaen.
Colli oedd hanes ei gyd-Gymro Jonny Clayton hefyd, wrth i Dimitri van den Bergh sicrhau buddugoliaeth o bum set i dair.
Roedd hyn er i Clayton, sy'n byw ym Mhontyberem, arwain y gêm deirgwaith.
Fe wnaeth Price benderfynu gwisgo amddiffynwyr clustiau yn ystod ei gêm yntau, gan ddatgelu wedyn ei fod yn ymgeisio tawelu bŵio a chwibanau'r dorf ym Mhalas Alexandra yn Llundain.
Wedi'r gêm fe ddisgrifiodd y golled fel un "mor rhwystredig", gan ychwanegu nad oedd yn siŵr a fyddai'n chwarae yn y bencampwriaeth eto.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2021