Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-2 Burnley

  • Cyhoeddwyd
Ollie CooperFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Gôl Ollie Cooper oedd ei bedwaredd y tymor hwn

Mae Abertawe wedi gostwng i'r 13eg safle yn y Bencampwriaeth ar ôl colli'r drydedd allan o'u pum gêm ddiwethaf.

Mae buddugoliaeth Burnley yn Stadiwm Swansea.com yn golygu eu bod nhw'n yn parhau ar frig y tabl.

Aeth y tîm o Sir Gaerhirfryn ar y blaen diolch i ergyd o gic rydd Maatsen yn gynnar yn yr hanner cyntaf. Maatsen sgoriodd yr ail hefyd gydag ergyd o du allan i'r cwrt cosbi.

Roedd yr Elyrch ychydig yn anlwcus i fod y tu ôl o ddwy gôl, ond o fewn pum munud fe waneth Ollie Cooper leihau'r bwlch.

Daeth y gôl ar ôl ergyd Jay Fulton, er i Muric lwyddo i arbed llwyddodd Cooper i gyrraedd y bêl gyntaf a chanfod cefn y rhwyd.

Pylodd bygythiad Abertawe, ond fe ddaeth un cyfle yn hwyr yn y gêm.

Yn anffodus fe wnaeth Olivier Ntcham fethu a manteisio ar groesiad Cameron Congreve ar ôl ei rediad campus.