Rhybudd melyn am law trwm i rannau o Gymru nos Fawrth
- Cyhoeddwyd
Mae yna rybudd melyn am law trwm ar draws rhan helaeth o Gymru nos Fawrth.
Fe allai arwain at lifogydd ac amodau gyrru gwael, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Wedi diwrnod glawog ar hyd y wlad, fe allai hyd at 15-25mm o law syrthio rhwng 19:00 nos Fawrth a 03:00 fore Mercher.
Fe allai hyd at 50mm syrthio ar dir uchel.
Mae'r rhybudd yn weithredol ar gyfer pob sir yng Nghymru heblaw am siroedd Dinbych, Fflint, Penfro, Môn a Wrecsam.
Bu'n rhaid cau yr M48 dros bont Hafren i draffig o'r ddau gyferiad oherwydd gwyntoedd uchel am 15:00 ddydd Mawrth.