Angen Cymru arloesol ar gyfer busnes medd pennaeth Sony

  • Cyhoeddwyd
Steve Dalton
Disgrifiad o’r llun,

Mae Steve Dalton yn gadael Sony ar ôl 40 mlynedd ond mae'n dweud bod dyfodol o hyd i weithgynhyrchu technoleg yng Nghymru

Fe fydd dal angen gweithwyr medrus yng Nghymru wrth i ffatrïoedd barhau i symud tuag at linellau cynhyrchu awtomataidd, yn ôl cyn-bennaeth un o gyflogwyr mwyaf Cymru.

Fe fydd Steve Dalton, cyn-reolwr gyfarwyddwr ffatri Sony ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn gadael y cwmni ym mis Mawrth ar ôl 40 mlynedd.

Mae wedi gweld newid enfawr mewn cynhyrchu ond mae'n credu bod yna swyddi sy'n gofyn am sgiliau uchel ar gael o hyd.

Ond ychwanegodd fod angen i Gymru fod yn arloesol.

"Roedd gweithgynhyrchu yn llinell hir gyda llawer o bobl yn gweithio'n agos i'w gilydd. Mae'r dyddiau hynny wedi mynd," meddai Mr Dalton.

"Po fwyaf o roboteg a pho fwyaf o awtomeiddio, y mwyaf yr angen am bobl fedrus i ofalu amdanyn nhw a'u gosod."

'Cyfleoedd aruthrol'

Mae'r flwyddyn newydd yn nodi 50 mlynedd ers i fuddsoddiad Japaneaidd gan Sony ddechrau yng Nghymru.

Agorodd ffatri gyntaf Sony ym 1973 ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac roedd yn weithredol tan 2005. Ar un adeg roedd yno dros 4,000 o weithwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ffatri deledu Sony ym Mhen-coed ym mis Ionawr 2005

Agorodd yr ail ffatri ym Mhencoed, ger Pen-y-bont ar Ogwr ym 1992. Dyma'r unig ffatri gweithgynhyrchu Sony sydd ar ôl yn Ewrop gyfan. Ar un adeg roedd chwech.

Ond dywedodd Mr Dalton fod gobaith o hyd ar gyfer dyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru os oes arloesi, datblygu technolegau gwyrdd a ffocws ar farchnadoedd byd-eang.

"Mae cyfandir Affrica heb ei gyffwrdd, mae lle o hyd yn India, yn Japan, mae lle o hyd yn UDA, mae yna ddigon o farchnadoedd heb eu cyffwrdd," meddai.

"Mae yna lawer o gwmnïau newydd yng Nghymru ac maen nhw'n mynd i farchnadoedd newydd.

"Ynni amgylcheddol a gwyrdd a chynhyrchion arbed ynni amgylcheddol gwyrdd - mae marchnad fawr yn dod yn y ffordd honno.

"Mae yna lawer o gwmnïau da iawn ac mae'n ymwneud â'u helpu nhw felly dwi'n meddwl bod yna gyfleoedd aruthrol."

Mae Mr Dalton yn credu mai'r allwedd i lwyddiant yw addysgu, meithrin a chadw talent yma yng Nghymru.

"Mae rhai o'r prifysgolion yn creu pobl sy'n dda yn beirianyddol a phobl entrepreneuraidd dda, ac mae'n ymwneud â sut rydyn ni'n eu cael nhw i astudio yng Nghymru ac yna aros yng Nghymru," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mr Dalton mai'r Brenin Charles III, Tywysog Cymru ar y pryd, a berswadiodd y cwmni i agor yng Nghymru

Yn fachgen lleol, dechreuodd Mr Dalton ei yrfa yn Sony ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym 1983, yn syth allan o'r brifysgol.

Roedd yn beiriannydd ar lawr y ffatri, yn rhan o weithlu yn gwneud monitorau cyfrifiaduron a setiau teledu.

Sony yw'r cwmni Japaneaidd hirsefydlog yng Nghymru a dywed Mr Dalton mai'r Brenin Charles III, Tywysog Cymru ar y pryd, a berswadiodd y cwmni i agor yma.

Dywedodd Mr Dalton: "Roedd hi'n 1970 ac roedd Expo byd-eang yn Japan.

"Cyfarfu'r Tywysog Charles ag Akio Morita, un o sylfaenwyr Sony mewn derbyniad yn Llysgenhadaeth Prydain yn Tokyo a dywedodd, 'Rydych chi'n gwybod os ydych chi byth yn mynd i agor ffatri yn Ewrop, dewch i'w hagor yn fy ngwlad, yng Nghymru'.

"Ac mewn gwirionedd, dyna ddigwyddodd."

Dywedodd Mr Dalton fod hyder Japan wedi cynyddu yng ngweithlu Cymru dros amser, gyda chwmnïau eraill yn Japan yn sylweddoli "bod y gweithlu'n fedrus ac yn gweithio'n galed a bod y llywodraeth yn gefnogol," meddai.

'Roedd yn rhaid i mi ddiswyddo fy ffrindiau'

Yn 2005, cyhoeddodd Sony y byddai safle Pen-y-bont ar Ogwr yn cau, gan roi'r bai ar y gostyngiad mewn gwerthiant setiau teledu traddodiadol a thwf yn y galw am setiau teledu sgrin fflat.

Rheoli cau'r ffatri lle dechreuodd ei yrfa oedd swydd gyntaf Mr Dalton wrth y llyw, gan weld ffrindiau a chydweithwyr yr oedd wedi gweithio gyda nhw ers degawdau, yn colli eu swyddi.

Brwydrodd cwmni gweithgynhyrchu Sony i addasu a goroesi gyda 400 o swyddi wedi'u colli ym Mhen-y-bont ar Ogwr a 250 arall ym Mhen-coed.

"Roedd yn boenus iawn. Llawer o bobl roeddwn i'n eu hadnabod, llawer o bobl roeddwn i wedi gweithio gyda nhw ac roedd yn boenus iawn, iawn."

Mae ffatri Sony ym Mhen-coed bellach yn gwneud 30 o wahanol fathau o gamerâu a 35 model o offer darlledu.

Mae tua 13,000 o unedau yn cael eu cludo i wahanol wledydd ledled y byd bob blwyddyn gyda gweithlu o tua 600 o bobl.

Pynciau cysylltiedig