Sut mae llenwi swyddi pan mae prinder sgiliau yn 'endemig ac eang'?

  • Cyhoeddwyd
Caitlin Watkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caitlin Watkins yn brentis ac yn gobeithio cael gyrfa fel rheolwr prosiectau adeiladu

Mae cwmnïau yn y canolbarth yn troi at brentisiaethau ac yn cysylltu'n uniongyrchol â phobl sy'n gadael ysgol a myfyrwyr mewn ymdrech i lenwi bwlch sgiliau.

Mae un cwmni o Bowys wedi cynyddu nifer ei brentisiaid o un i wyth ar ôl cael problemau recriwtio pobl gyda'r sgiliau cywir.

Hefyd, mae un o'r darparwyr addysg bellach mwyaf yng Nghymru yn sefydlu 'Biwro Cyflogaeth' ar ei gampysau i roi cyflogwyr lleol mewn cysylltiad â myfyrwyr.

Yn ddiweddar, agorodd grŵp o golegau NPTC - sy'n cynnig cyrsiau i 270,000 o bobl - ei Biwro Cyflogaeth cyntaf ar gampws Coleg y Drenewydd ym Mhowys.

Bydd cyflogwyr lleol yn y biwro am ddeuddydd yr wythnos i drafod cyfleoedd hyfforddiant a gyrfa i fyfyrwyr.

Prinder yn cynyddu'r llwyth gwaith i eraill

Nid yn y canolbarth yn unig mae'r diffyg sgiliau. Mae data gan y Brifysgol Agored a Siambrau Masnach Prydain yn dangos bod 69% o ymatebwyr arolwg yng Nghymru yn cytuno bod eu sefydliad yn wynebu prinder sgiliau.

Dywedodd 70% o ymatebwyr Cymreig bod effaith y prinder wedi cynyddu'r llwyth gwaith ar staff eraill, tra bod 77% yn gweld llai o allbwn, elw neu dwf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Biwro Cyflogaeth wedi cael ei sefydlu ar gampws Coleg y Drenewydd

Chambers Wales yw'r sefydliad di-elw sy'n cynrychioli busnesau ledled Cymru, gyda'r nod o'u helpu i dyfu. Mae'r prinder sgiliau ar draws Cymru a'r DU, meddai llefarydd, yn "endemig ac yn eang".

Mae 80% o fusnesau yng Nghymru yn cael anhawster i recriwtio staff, yn ôl arolwg diweddar y sefydliad, sy'n cynnwys staff ar gyfer pob swydd o lafur di-grefft, gwaith llaw medrus a hefyd ar gyfer rolau proffesiynol a rheolwyr.

Dywedodd llefarydd ei fod yn gyfnod heriol: "Mae llai o bobl yn mudo i'r DU ers i effeithiau Brexit ddod i gyfraith.

"Ar y cyd â'r pandemig a phoblogaeth sy'n heneiddio, mae nifer sylweddol uwch o swyddi gwag ers 2019 sy'n ganlyniad i bobl sy'n gadael y gweithlu'n wirfoddol, salwch hirdymor ac ymddeoliad cynnar.

"Dy'n ni ddim eto wedi gweld buddsoddiad sylweddol mewn sgiliau gan Lywodraethau'r DU a Chymru i geisio datrys y bwlch hwn o ran swyddi gwag."

Mae EvaBuild, cwmni o'r Drenewydd sy'n paratoi sylfeini yn y diwydiant adeiladu, wedi cynyddu ei gynllun prentisiaeth er mwyn "tyfu staff eu hunain".

Dywedodd Nick Evans, sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr: "Pan ry'n ni wedi gwneud cais am staff sydd â sgiliau neu grefftau penodol, yr hyn ry'n ni wedi gweld yw bod y sylfaen sgiliau yn y canolbarth yn eithaf isel.

"Un ffordd o fynd i'r afael â'r broblem hon yw recriwtio'n gynnar, sefydlu cynllun prentisiaeth ac addysgu'r sgiliau ar y cyd â NPTC, felly ry'n ni'n tyfu ein gweithlu ein hunain."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Nick Evans mae yna ddiffyg cynlluniau prentisiaeth wedi bod dros y degawdau diwethaf

Dywedodd Mr Evans nad her yn y canolbarth yn unig yw hyn, "ac mae hynny fwy neu lai yn deillio o'r diffyg cynlluniau prentisiaeth dros y degawdau diwethaf".

"Mae'n debyg bod yr hyn a oedd yn gyffredin yn ôl i'r 1980au wedi mynd, a dy'n ni ddim yn rhoi llwybr i bobl ifanc i'r diwydiant adeiladu."

Cwmni arall sydd wedi'i leoli ym Mhowys sydd wedi cael problemau recriwtio yw Outdoor Toys - cwmni dylunio a chynhyrchu offer chwarae sydd â safleoedd yn Nhrefaldwyn a Llanymynech.

Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredu, Mandy O'Hara: "Mae'n rhwystredig iawn pan ry'n ni wedi hysbysebu am swyddi technegol, rheolwyr a pheirianwyr dylunio, ac ry'n ni wedi cael trafferth llenwi'r swyddi hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mandy O'Hara yn gweithio gyda Choleg Y Drenewydd i geisio denu myfyrwyr i aros a gweithio yn lleol

"Ry'n ni'n gwybod nid lefelau cyflog yw'r broblem, ond mae'n anodd cael pobl leol."

Mae'r cwmni bellach yn gweithio gyda Choleg y Drenewydd mewn ymgais i ddenu myfyrwyr ac i roi'r sgiliau sydd eu hangen iddyn nhw.

Gobaith Ms O'Hara yw "y bydd llawer mwy o ddealltwriaeth o'r hyn y gall cwmnïau lleol ei gynnig drwy weithio ar y cyd â'r coleg, a'r ysgolion hefyd".

Gobeithio cadw pobl ifanc yn yr ardal

Mae EvaBuild yn cefnogi wyth prentis eleni. Maen nhw'n treulio tri neu bedwar diwrnod yr wythnos yn astudio yn y coleg, a diwrnod ar safle adeiladu gyda staff EvaBuild.

Mae cefnogaeth y cwmni i brentisiaid yn deillio'n rhannol o'r profiad gafodd Nick Evans pan adawodd yr ysgol.

"Doedd ein prif bobl yn y busnes, ein rheolwyr allweddol, gan gynnwys fi fy hun, ddim wedi gwneud yn dda iawn yn yr ysgol.

"Felly dy'n ni ddim yn cael ein cymell gan ganlyniadau arholiadau. Ry'n ni'n edrych am fyfyrwyr sydd â dawn dda a pharodrwydd i ddysgu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmnïau yn cydweithio gyda Choleg y Drenewydd i geisio denu myfyrwyr a meithrin sgiliau

Un o brentisiaid EvaBuild yw cyn-fyfyrwraig yn Ysgol Uwchradd Caereinion, Caitlin Watkins, sydd eisiau gyrfa fel rheolwr prosiectau adeiladu.

Dywedodd Caitlin: "Dwi eisiau bod yn project manager felly dwi'n mynd ar site a helpu dod â'r prosiect ymlaen. Dwi'n hoffi gwybod sut i wneud gwahanol bethau.

"Do'n i ddim yn hoffi'r ysgol a do'n ni ddim eisiau cario mlaen yna am ddwy flynedd arall. Felly ro'n i am ffeindio rhywbeth arall i wneud a des i o hyd i'r cwrs yma... Dwi'n mwynhau gwneud gwahanol bethau o fewn adeiladu, architecture, rheoli prosiect a pob math o bethau o fewn y maes adeiladu."

'Cyfleoedd gwirioneddol yma'

Un o'r gobeithion o agor y Biwro Cyflogaeth yn y coleg yw cadw mwy o bobl ifanc yn yr ardal, ac arafu'r allfudo o siroedd gwledig.

Dywedodd Gemma Charnock, Is-bennaeth Coleg Y Drenewydd: "Dechreuon ni siarad â chyflogwyr lleol [a oedd] yn teimlo nad oedd ganddyn nhw fynediad clir at fyfyrwyr i roi cyngor iddyn nhw am y cyfleoedd ym Mhowys.

Disgrifiad o’r llun,

Gemma Charnock ydy Is-bennaeth Coleg Y Drenewydd

"Ac ro'n nhw'n teimlo bod hyn yn ychwanegu at drasiedi'r sir o bobl ifanc yn gadael a ddim yn dod yn ôl i weithio a byw yma.

"Ry'n ni'n annog ein myfyrwyr i deithio a phrofi'r byd ond yr hyn hoffem iddyn nhw ei ddeall yw pan fyddan nhw am ddechrau gyrfa, naill ai drwy gyflogwyr presennol neu drwy ddechrau eu cwmnïau eu hunain, mae hwn yn fan lle gallan nhw fynd ati i wneud hynny.

"Mae cyfleoedd gwirioneddol yma i weithio mewn busnesau rhagorol, ac i dyfu yn eu gyrfaoedd."

Dywedodd Nick Evans, o EvaBuild, y bydd y cynllun prentisiaeth estynedig yn para:.

"Mae'n debyg bod llawer iawn o ddiddordeb ar gyfer y flwyddyn nesaf a'r flwyddyn ganlynol, felly ry'n ni'n gweld hyn fel cynllun recriwtio hirdymor.

"Yn y bôn, dyma fydd ein ffordd ni o gael pobl i mewn i'r busnes a pharhau gyda'i lwyddiant yn y dyfodol."

'Gwlad lle mae penodi prentis yn norm'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod sawl cam ar droed "i leihau'r bwlch sgiliau".

Maen nhw'n cynnwys Cynllun Cyflogadwyedd sy'n "darparu'r sgiliau y mae busnesau Cymru eu hangen... gan wneud y mwyaf o'n talent yng Nghymru, a siapio economi sy'n gweithio i bawb".

Mae'r llywodraeth hefyd, meddai wedi ymroddi £1.4 biliwn y flwyddyn i ddarparu gwaith, addysg, hyfforddiant neu gymorth i sefydlu busnes newydd dan y Gwarant Person Ifanc.

"Mae prentisiaethau hefyd yn hanfodol i'n gweledigaeth a dyna pam rydym yn buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf yn ein rhaglen prentisiaeth," meddai.

Ychwanegodd mai'r nod yw "meithrin diwylliant yng Nghymru ble mae penodi penodi prentis yn norm i gyflogwyr".

Pynciau cysylltiedig