Dafydd Iwan, Cwm Rhyd y Rhosyn a chân enwog Men at Work
- Cyhoeddwyd
Hanner can mlynedd yn ôl i eleni, cafodd record sydd wedi ei disgrifio gan y cyflwynydd Huw Stephens fel "un o recordiau pwysicaf yr iaith Gymraeg" ei rhyddhau. Dafydd Iwan ac Edward oedd yn gyfrifol amdani, sef Fuoch Chi 'Rioed yn Morio, y casgliad cyntaf yng nghyfres Cwm Rhyd y Rhosyn.
Ar raglen arbennig ar BBC Radio Cymru i nodi'r pen-blwydd, mi ddatgelodd y cerddorion eu bod wedi chwarae rôl bwysig mewn achos cyfreithiol oedd yn ymwneud ag un o'r caneuon, a hynny gan nad oedd yr alaw wedi ei gwreiddio yng Nghymru.
Roedd Dafydd ac Edward yn credu mai alaw Gymreig oedd Dyna Ti Yn Eistedd, ac o ganlyniad i hynny, cafodd ei nodi fel alaw draddodiadol y tu mewn i glawr yr albwm. Fodd bynnag, cafodd y gred hon ei chwalu gan un alwad ffôn o Awstralia.
Roedd y grŵp o'r wlad honno, Men at Work, yn wynebu achos cyfreithiol oedd yn ymwneud ag un o'u caneuon enwocaf, Down Under, a hynny gan iddyn nhw ddefnyddio'r un alaw a ddefnyddiodd Dafydd ac Edward ar gyfer Dyna Ti Yn Eistedd mewn rhan offerynnol rhwng y penillion.
Eglura Dafydd Iwan ar y rhaglen: "Y rheswm oedd o'n ffonio, oedd bod 'na achos cyfreithiol yn Awstralia, bod na grŵp o'r enw Men at Work wedi recordio cân ac mi oedd y linc cerddorol rhwng y penillion yn defnyddio'r alaw yna.
"Mi ddywedodd o... os fedrwch chi brofi bod hon yn gân draddodiadol Gymraeg yna maen nhw wedi colli eu hachos. Maen nhw'n ein cyhuddo ni o ddefnyddio cân sydd dan hawlfraint heb ganiatâd"
Cyfraniad Meredydd Evans
Dydi hi ddim yn syndod mai'r person cyntaf gafodd alwad gan Dafydd i brofi hyn oedd y diweddar Meredydd Evans, oedd yn awdurdod ar gerddoriaeth werin Gymreig, ac yn un a oedd â diddordeb mawr mewn cerddoriaeth ryngwladol hefyd.
"Mi aeth Merêd yn ôl i'w gasgliadau oedd ganddo fo ar ôl ei gyfnod yn America, a darganfod bod yr achos gyfreithiol 'ma yn un hollol gywir."
Yn ôl ymchwil Meredydd Evans nid cân Gymreig oedd hi o gwbl ond cân wedi ei chyfansoddi yn y tridegau gan ferch frodorol yn Awstralia.
Yn dilyn y darganfyddiad, mi orfodwyd i Men at Work dalu arian i'r cwmni oedd yn berchen ar hawliau'r gân wreiddiol.
"Mi daliwyd arian mawr am bod y grŵp ma wedi defnyddio cân oedd wedi ei chofrestru gan gwmni yn Awstralia. Wrth gwrs, diolch i dduw, dydyn nhw ddim 'di dod ar ein holau ni, achos mi 'naethon ni ddefnyddio hi gan honni ei bod hi'n gân draddodiadol"
Un o nifer o gyfieithiadau
Daeth i'r amlwg bod y gân yn un o'r nifer o ganeuon y daeth Syr Ifan ab Owen Edwards ar eu traws tra'n ymchwilio yn yr Unol Daleithiau, cyn ei chyfieithu a'i haddasu er mwyn ei chanu yng ngwersylloedd yr Urdd, y mudiad yr oedd wedi ei sefydlu.
Eglura Edward eu bod wedi darganfod nad oedd gwreiddiau ambell gân enwog arall yng Nghymru fel oedden nhw wedi ei gredu.
"Un enghraifft 'run fath yn union ydi Awn Am Dro i Frest Pen Coed. O'n i'n meddwl bod hi'n hollol wreiddiol, yn dod o Lanuwchllyn neu Bala neu rywle felly, cyn i mi fynd i holi am y cefndir. We'll Go Up The Chestnut Tree ydi hi, ac o America mae honno".
Cafodd Dafydd ei gywiro gan ferch yn yr Unol Daleithiau pan y cyflwynodd o'r gân i'r gynulleidfa fel un Gymraeg.
"Mi ges i fy nal allan hefo'r union gân yna yn America yn canu i griw o Gymry, a finne'n cyflwyno yn hir am gân werin Gymraeg i blant sy'n ddifyr. Dyma fi'n mynd drwy fy spiel i gyd, ac mi ddywedodd 'na ferch ei bod hi'n arfer ei chanu yn y girl scouts, a dyma hi'n cyflwyno fi i'r gwreiddiol."
Cyfieithu Caneuon
Eglurodd Dafydd Iwan wrth Cymru Fyw ei fod wedi dysgu llawer am darddiad caneuon plant Cymraeg yn dilyn cyfnod Cwm Rhyd y Rhosyn.
"Be sy'n ddifyr am ganeuon plant yw na all neb fod yn siŵr beth yw eu tarddiad - os nad yw enw'r cyfansoddwr yn wybyddus wrth gwrs.
"Mae'n amlwg bod nifer o'r caneuon yr oedden ni'n arfer meddwl eu bod yn draddodiadol Gymraeg wedi dod o America - ac weithiau wedi dwyn ambell i draddodiad anffodus i mewn i'n diwylliant, megis yr aml gyfeiriad at 'Jim Cro' er enghraifft.
"Yr hyn sy'n ddiddorol yw'r modd yr aeth Ifan ab Owen Edwards i America yn fwriadol i chwilio am ganeuon plant, a rhoi geiriau Cymraeg iddyn nhw. A ninnau wedyn yn eu dysgu fel caneuon o'r traddodiad Cymraeg! 'Dyw hyn ddim yn unigryw i Gymru wrth gwrs - mae caneuon plant a chaneuon morwrol yn enwog am deithio'r byd."
Mi eglurodd hefyd nad yw'r weithred hon o gyfieithu ac addasu caneuon yn beth drwg, ac ei fod yn brawf o gryfder yn hytrach na gwendid.
"Mae gennym gyfoeth o ganeuon cynhenid Gymreig a Chymraeg, ond does dim angen inni fod a chywilydd ein bod wedi mabwysiadu caneuon o wledydd eraill hefyd. Dyna un arwydd o iaith sy'n fyw ac yn iach, ein bod yn gallu cynnwys caneuon o ddiwylliannau eraill a'u troi yn Gymraeg."
Mae cyfieithu ac addasu wedi bod yn greiddiol i waith Dafydd Iwan ers ei gyfnod arloesol yn y chwedegau, lle'r oedd yn canu geiriau gwladgarol ar alawon Seisnig ac Americanaidd. Un o'r enghreifftiau enwocaf oedd Mae'n Wlad i Mi, sydd yn addasiad o This Land is Your Land gan Woody Guthrie.
"Yn fy achos i fy hunan, cyn i mi ddechrau cyfansoddi caneuon gwreiddiol, yr hyn oeddwn i'n ei wneud oedd benthyg alawon Burl Ives, Tom Paxton, Pete Seeger ac eraill, a rhoi geiriau Cymraeg arnyn nhw. Dyna sut mae diwylliant yn tyfu, a'r byd yn troi. Mae rhai yn dal i feddwl mai caneuon traddodiadol Cymraeg yw Mae'n Wlad i Mi, Meddwl Amdanat Ti a Ffwdl-da-da!"
Pwysicach nag Yma o Hyd
Mae Dafydd Iwan yn cael ei adnabod yn ddiweddar gan genhedlaeth newydd o Gymru a thu hwnt, a hynny o ganlyniad i boblogrwydd ei gân Yma o Hyd ymysg dilynwyr y tîm pêl-droed cenedlaethol. Fodd bynnag, mae'n credu mai Cwm Rhyd y Rhosyn yw ei gyfraniad pwysicaf i ddiwylliant cerddorol Cymru. O ganlyniad i hynny, roedd yn falch iawn o gael ail ymweld â'r hanes a ddechreuodd hanner can mlynedd yn ôl.
"Roedd Edward a minnau yn wirioneddol falch o'r cyfle i ail-ymweld â Chwm Rhyd-y-Rhosyn. Wrth edrych yn ôl dros hanner can mlynedd, mae'r ddau ohonom yn falch iawn o'r hyn a grëwyd gennym, ac yn hynod o ddiolchgar fod cenhedlaeth newydd o hyd o blant Cymru yn mwynhau ymweld â'r Cwm, a chanu'r caneuon.
"Mae'n hynod o bwysig fod plant ein cenedl yn cael eu magu yn sain ein caneuon traddodiadol, cyn iddyn nhw gael eu boddi yn y diwylliant Eingl-Americanaidd holl-bresennol. Bron na ddwedwn i mai dyna yw fy nghreadigaeth bwysicaf un!"
Hefyd o ddiddordeb: