Rhaeadr Ystradfellte: Dynes wedi marw ac un arall ar goll
- Cyhoeddwyd
Chwilio'n parhau am ail ddynes wedi marwolaeth Ystradfellte
Mae dynes wedi marw ac un arall yn dal ar goll mewn afon ger Ystradfellte ym Mhowys.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys fod corff dynes wedi cael ei dynnu o'r afon, a bod y chwilio'n parhau am yr ail ddynes.
Y gred yw bod yr ail ddynes hefyd wedi mynd i'r dŵr.
Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Rhaeadr Ystradfellte am 11:45 ddydd Mercher, a bu'r Gwasanaeth Tân, tîm achub mynydd, a hofrennydd yr heddlu yn cynorthwyo yn y chwilio.
Ond roedd lefel a chyflymder y dŵr yn achosi trafferthion, a chafodd y chwilio ei ohirio dros nos, cyn ail-ddechrau fore Iau.
Mae teuluoedd y ddwy ddynes wedi cael gwybod, ac yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol wrth i'r chwilio barhau.


Ellis Roberts, gohebydd BBC Cymru, ger y safle
Mae hi wedi bod yn bwrw'n drwm, mae hi'n wyntog, a does 'na ddim signal ffôn i'w gael ger y rhaeadrau.
Ond beth sy'n fy nharo i fwy na dim, unwaith mae hi'n tywyllu, mae hi fel y fagddu - fyddech chi ddim yn gweld yr un adyn byw o dan unrhyw amgylchiadau, dybiwn i.
Felly mae hynny yn gwneud y gwaith yn anodd iawn, er mae'n debyg y byddwn ni yn cael clywed rhywbryd eto sut mae'n mynd o ran y gwaith chwilio am yr ail ddynes.


Cadarnhaodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i griwiau gael eu galw i'r digwyddiad am tua 11:55 ar 4 Ionawr.
Dywedodd y gwasanaeth bod criw o Gastell-nedd a chriw achub dŵr o Abertawe wedi eu hanfon gyda chwch a chamera tanddwr.
Bu'n rhaid anfon y criwiau adref am tua 17:00, ond fe gafodd dau griw arall eu hanfon i barhau gyda'r chwilio ddydd Iau, meddai llefarydd.