Teyrnged i ddynes wedi gwrthdrawiad Ysbyty Glan Clwyd
- Cyhoeddwyd

Mae teulu dynes fu farw ar ôl cael ei tharo gan gar y tu allan i Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych wedi rhoi teyrnged i'w "hangerdd am fywyd".
Bu farw Mary Owen-Jones, 51, ddydd Mawrth ar ôl cael ei tharo gan y cerbyd ger mynedfa'r ysbyty am tua 20:40 Ddydd Calan.
Roedd Mrs Owen-Jones, o Landrillo-yn-Rhos, yn gweithio fel cymhorthydd addysg ac yn trin gwallt, ac mae'n gadael gŵr, Arwel, dau o blant, Andrew a Jasmine, ac wyres, April Rose.
Dywedodd y teulu, sy'n parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol, eu bod yn ddiolchgar tu hwnt am y negeseuon maen nhw wedi eu derbyn hyd yma.
"Roedd ganddi angerdd am fywyd a'i theulu, ac roedd yn edrych ymlaen yn fawr at fod yn nain i'w wyres newydd, April Rose," meddai'r teulu wrth roi teyrnged iddi.
"Bydd colled fawr ar ei hôl gan bawb oedd yn ei hadnabod.
"Mae ein calonnau wedi torri'n llwyr, a hoffem ofyn am breifatrwydd priodol er mwyn rhoi cyfle i ni alaru."
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod yn parhau i apelio am wybodaeth neu luniau dashcam o'r gwrthdrawiad, a ddigwyddodd rhwng dau faes parcio ger mynedfa Ysbyty Glan Clwyd.