2023 yn 'waeth i bobl a busnesau na'r pandemig'
- Cyhoeddwyd
Fe allai'r dirwasgiad economaidd eleni fod "yn waeth na'r cyfnod Covid" yn y ffordd mae'n "bwrw pobl gyffredin a busnesau", yn ôl economegydd.
Wrth edrych ar y flwyddyn sydd i ddod, dywedodd Dr Robert Bowen o Brifysgol Caerdydd fod angen i lywodraethau "wneud popeth" i godi hyder yn yr economi.
Mae hynny'n cael ei ategu gan berchennog garej o Gaernarfon, sy'n pryderu na fydd busnesau'n gallu goroesi'r cyfnod yma.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n rhoi "£460m mewn cymorth trethi annomestig" i helpu busnesau, tra bod Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn gwarchod busnesau rhag costau ynni drwy raglen gwerth £18bn.
Er y pryderon, roedd nifer y siopwyr fu'n gwario ar y stryd fawr ym mis Rhagfyr yn "galonogol", meddai chynrychiolwyr y sector masnach.
Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld bydd economi y DU yn crebachu o 1.4% yn ystod 2023, ac mae disgwyl cadarnhad swyddogol bod Prydain mewn dirwasgiad economaidd maes o law.
Gyda chwyddiant uchel a diffyg twf, mae Dr Bowen - darlithydd mewn entrepreneuriaeth ryngwladol - yn rhagweld blwyddyn galed a allai daro pobl yn fwy nag argyfyngau economaidd 2008 a'r pandemig.
Mae'n nodi bod sawl peth yn dylanwadu ar arafwch yr economi, gan gynnwys ffactorau allanol fel y rhyfel yn Wcráin a ffactorau mewnol fel Brexit a phenderfyniadau gwleidyddol.
"Rwy'n credu bod hyn yn wahanol iawn ar hyn o bryd oherwydd bod 'na gyfuniad o ffactorau gwahanol yn arwain at y sefyllfa economaidd anodd ar hyn o bryd," meddai.
"Mae hyn yn waeth na chyfnod Covid, efallai, oherwydd mae'n mynd i fwrw busnesau a phobl gyffredin o ran costau sy'n angenrheidiol iddyn nhw fel rhenti, ynni, bwyd a diod a phethau mae pobl angen eu prynu o ddydd i ddydd."
Ychwanegodd: "Mae eisiau gwneud beth bynnag sydd o fewn grym y llywodraeth i helpu hybu'r economi a gwneud yn siŵr bod yr economi yn dechrau codi eto."
Yng Nghaernarfon, mae Kevin Williams yn rhedeg garej sy'n trwsio ceir a hefyd yn eu gwerthu.
Mae ei fusnes dan bwysau o sawl ongl.
"'Dan ni i gyd yn llawn yn y gweithdy. Y broblem sydd gen i ydy bod 'na ddiffyg staff - technegwyr - i weithio yn y gweithdy," meddai, gan ddweud ei bod hi'n anodd dod o hyd i brentisiaid.
"Ar yr ochr gwerthu - oes, mae 'na bobl yn prynu ond mae 'na ddiffyg stoc o geir i'w gael.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n mynd i fod yn flwyddyn galed lle mae busnesau lleol angen help gan gynghorau lleol, y Senedd a Llundain.
"Heblaw ein bod ni'n cael help, dwi ddim yn meddwl bydd llawer o'r busnesau lleol yn bodoli mewn blwyddyn neu ddwy."
Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi help i bobl a busnesau trwy'r Cynllun Lliniaru Biliau Ynni, sy'n dod i ben ddiwedd mis Mawrth.
Dywedodd llefarydd eu bod yn cynnal adolygiad ar hyn o bryd, ac y bydd cyhoeddiad am y pecyn cefnogaeth nesaf cyn hir.
Ym mis Rhagfyr, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru "£460m mewn cymorth trethi annomestig ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf i helpu pob busnes sy'n cael trafferthion gyda chostau cynyddol".
Ond ychwanegodd llefarydd mai yn San Steffan mae'r grym i "ddarparu'r amddiffyniad uniongyrchol sydd ei angen yn wyneb yr argyfwng hwn".
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn "chwilio am bob cyfle i gynyddu'r cymorth sydd ar gael" i fusnesau yn y sir ac i sicrhau eu bod "yn elwa o gynlluniau a rhaglenni cyfredol".
'Optimistig ond gofalus'
Er y pryderon, roedd nifer y siopwyr fu'n gwario ar y stryd fawr yn ystod mis Rhagfyr yn "galonogol", yn ôl y Consortiwm Masnach Cymreig.
Mae'r ffigwr hwnnw tua 10% yn is na 2019 - y flwyddyn cyn y pandemig - ond mae'n "welliant sylweddol", meddai pennaeth y corff, Sara Jones.
Yn ei siop a chaffi gyferbyn â chastell Caernarfon, dywedodd Eleri Gray-Thomas ei bod yn "optimistig" er bod cwsmeriaid yn bod yn "fwy gofalus" yn eu gwariant.
"Mae pobl yn dŵad rownd y flwyddyn i Gaernarfon," meddai. "Mae pobl ddieithr wedi bod yn dod yn eu heidiau ar y bysus 'ma, mae hynna'n dda.
"Ond 'dan ni'n colli pobl swyddfeydd a ballu yn gwario yn lleol.
"Mewn busnes ti'n gorfod bod yn optimistig. Ond yn amlwg 'dan ni fel pawb arall yn gorfod bod yn ofalus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2022