Costau byw: 'Rhaid addasu busnes cyn i bethau fynd rhy wael'
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid addasu busnesau ar ôl Covid ac wrth i gostau byw gynyddu, yn ôl rhai perchnogion siopau yn Sir Gâr a Cheredigion.
Fis Mawrth y llynedd, fe ddywedodd perchennog Siop y Pethe yn Aberystwyth wrth Cymru Fyw ei fod yn ystyried dyfodol y siop gan nad yw hi bellach yn talu ffordd.
Erbyn hyn, mae'n arallgyfeirio trwy gydweithio gyda siop arall yn y dref.
Yng Nghaerfyrddin, dywedodd dau berchennog busnes eu bod wedi gorfod ystyried newidiadau oherwydd y cynnydd yn eu biliau.
Ar ôl i berchennog Siop y Pethe yn Aberystwyth ddweud ei fod "gorfod edrych ar bethau o ddifri" o ran y busnes y llynedd, y cynllun erbyn hyn yw cydweithio gyda siop arall yn y dref.
Cyfuno gyda siop nwyddau Broc Môr yw'r cynllun, a'r ddau fusnes yn rhannu'r gofod yn Siop y Pethe.
Dywedodd fod "yn rhaid gwneud rhywbeth nawr".
"'Dan ni'n gobeithio addasu a chydweithio a gobeithio fydd e'n syniad fydd yn dod â rhyw fath o fwrlwm i ganol y dre'," dywedodd Aled Rees ar raglen Dros Frecwast.
"Mae'n rhaid edrych ymlaen, 'dyn ni ddim yn gw'bod beth fydd y sefyllfa mewn rhai misoedd, mae'n rhaid i ni 'neud rhywbeth nawr."
Mae'n gobeithio y bydd y cydweithio'n cyfrannu i ganol tref Aberystwyth hefyd trwy "ddod â dau ben at ei gilydd".
"Mae mis Ionawr, Chwefror a Mawrth yn mynd i fod yn dawel beth bynnag, mae'n rhaid i ni feddwl a fydde' Siop y Pethe'n gallu dod trwyddo'r misoedd tawel yna fel y ma'r sefyllfa, cyn i bethe' fynd yn rhy wael falle'.
"Ni'n edrych ar sut i droi bethe'n bositif, nid jyst i'r siop, ond i Aberystwyth. Mae llawer wedi cau dros y misoedd dwetha' neu yn cau."
"Mae'r pen yn gweud ar y foment, 'dw i ddim yn mynd i roi mewn i'r sefyllfa', ond wedyn ma'n rhaid addasu."
Yng Nghaerfyrddin, mae'r Stryd Fawr wedi gweld sawl newid dros y blynyddoedd diweddar gyda siopau mawr fel Debenhams wedi cau, ynghyd â siopau bach annibynnol hefyd.
Mae costau uwch a'r "newid yn y ffordd y mae pobl yn siopa" yn bryder i berchongion busnes fel Marian Ritson yng Nghaerfyrddin.
Mae ei busnes, Pethau Bychain, yn gwerthu nwyddau tŷ ac yn cynnig gwasanaeth cynllunio mewnol ond bu'n rhaid iddi addasu trwy symud adeilad a lleihau niferoedd y staff.
"O'dd rhaid i ni edrych ar y busnes mewn ffordd arw a gwneud y penderfyniad 'na... i ddod o Heol y Brenin, ffeindio lle yn llai a chymryd y stiwdio yma yn Towy Works.
"'Dan ni'n gorfod talu mwy am y cludo, prisiau deunyddiau, bron yn fisol ers tua blwyddyn.
"'Dan ni'n canolbwyntio nawr ar y dylunio mewnol heb orfod poeni am y staffio a'r stocio oedd yn mynd a miloedd a miloedd o'n harian ni.
"'Dan ni i gyd yn trio addasu."
'Y sialens yw cadw drysau ar agor tan y gwanwyn'
Un arall sy'n edrych ar addasu yw Steffan Hughes, perchennog Caffi Lolfa a chanolfannau chwaraeon Sgiliau yn Sir Gâr.
Dywedodd mai'r prif bryder yw biliau ynni cynyddol.
"Os edrychwch chi nôl ar ddechrau'r flwyddyn [2022] o'n ni'n talu tua £1,200 y mis," dywedodd.
"Dyblodd hwnna yn Ebrill a dyblodd e 'to ym mis Hydref a lle o'n ni falle yn talu cost blynyddol o tua £15,000 ni nawr yn talu dros £55,000.
Trio bod yn bositif a "newid y naratif" y mae Steffan ac edrych ar newidiadau allai arbed rhywfaint o arian i'r busnesau.
"Ni ffili derbyn be sy'n mynd 'mlaen, ma' rhaid i ni addasu o fewn y busnes.
"Ni nawr yn trio siopa o gwmpas tamaid bach i drial safio, dod â bwydlen newydd a trio lleihau'r wasgfa 'na sydd ar bobl.
"Y sialens nawr - yn enwedig yn Lolfa - yw goresgyn y tri mis nesa' a thrial cadw'r drysau ar agor tan y gwanwyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd21 Medi 2022
- Cyhoeddwyd20 Awst 2020
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2022