Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Dreigiau 14-29 Bulls
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n golled siomedig i'r Dreigiau ar Rodney Parade nos Wener yn erbyn yr ymwelwyr o Dde Affrica.
Fe aeth y Bulls ar y blaen gyda 17 o bwyntiau yn gynnar yn y gêm a chais Kurt-Lee Arendse yn uchafbwynt.
Fe darodd y Dreigiau'n ôl gyda cheisiau Bradley Roberts a Max Clark cyn hanner amser, ond dyna oedd y diwedd ar eu pwyntiau.
Yn ystod yr ail hanner, Harold Vorster a Bismarck du Plessis lwyddodd i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Bulls.
Dyw'r tîm o Gasnewydd heb ennill un o'u saith gêm ddiwethaf ac maen nhw yn y 14eg safle.