Beiciwr modur wedi ffoi ar ôl taro dyn yn ei 90au

  • Cyhoeddwyd
High Street, LlanelliFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y Stryd Fawr yn Llanelli am tua 17:00 ddydd Gwener

Mae dyn yn ei 90au wedi cael ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei daro gan feiciwr modur wnaeth ffoi o'r digwyddiad yn Llanelli.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y dyn wedi'i daro gan feic modur sydd wedi'i ddylunio i fynd oddi ar y ffordd ar y Stryd Fawr yn y dref am tua 17:00 ddydd Gwener.

Mae'r dyn oedrannus mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty, ond mae wedi torri sawl asgwrn wedi'r digwyddiad.

"Er iddo ddod oddi ar y beic, fe wnaeth y reidiwr adael y lleoliad ac ry'n ni nawr yn ceisio ei adnabod," meddai'r heddlu.

Ychwanegodd nad oes disgrifiad manwl ohono, ond y gred yw bod ganddo wallt byr brown, ei fod yn gwisgo dillad tywyll, helmed werdd ac yn cario bag cefn llwyd.

Pynciau cysylltiedig