Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Gweilch 19-24 Leinster

  • Cyhoeddwyd
GweilchFfynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd y Gweilch eu trechu gan Leinster nos Sadwrn er gwaethaf perfformiad dewr gan y Cymry.

Y tîm cartref sgoriodd y cais cyntaf, gyda'r asgellwr Keelan Giles yn croesi yn y gornel yn dilyn gwaith da gan Reuben Morgan-Williams.

Ond fe lwyddodd y Gwyddelod i daro 'nôl trwy Dan Sheehan i'w gwneud hi'n 10-10 ar yr egwyl.

Aeth y Gweilch chwe phwynt ar y blaen diolch i goliau cosb gan Cai Evans, cyn i Hugo Keenan a Jimmy O'Brien groesi am geisiau i'r ymwelwyr i sicrhau buddugoliaeth o bum pwynt.

Pynciau cysylltiedig