Teyrngedau i ddyn, 26, wedi digwyddiad ar fferm ym Môn
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi'u rhoi i ddyn 26 oed o Ynys Môn fu farw yn yr ysbyty yn dilyn digwyddiad gyda thractor yr wythnos hon.
Cafodd Macauley Owen ei anafu'n ddifrifol yn y digwyddiad ar fferm yn ardal Carreglefn ger Amlwch nos Fawrth.
Cafodd ei gludo i ysbyty yn Stoke, ond bu farw o'i anafiadau ddydd Gwener.
Mewn teyrnged iddo ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei ffrind Osian Evans ei fod "wedi trio dal 'mlaen" ond fod "Duw yn dy alw di adref".
'Hapus, gwenu, chwerthin a jocian'
"Rydym wedi crio, mae calonnau wedi torri, ond roedd yn amser i ti fynd," meddai.
"Fe ddaeth dy anwyliaid i ddweud hwyl fawr am y tro olaf, i ddweud eu bod yn dy garu, ac y byddi di'n cael dy golli am byth.
"Byddaf wastad yn cofio'r amseroedd da, yr atgofion a'r chwerthin dros y blynyddoedd hir o'n cyfeillgarwch.
"Wastad yn gweithio'n galed, yn hapus, yn gwenu, yn chwerthin a jocian. Fydd hi byth yr un peth hebddo ti."
Fe gadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru ddydd Gwener fod teulu Mr Owen a'r crwner wedi cael gwybod am ei farwolaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) eu bod yn ymwybodol o'r digwyddiad ac yn cynorthwyo ymchwiliad yr heddlu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2023