Cwpan FA Lloegr: Bristol City 1-1 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Doedd gôl Joël Piroe ddim yn ddigon i sicrhau lle Abertawe yn y rownd nesaf

Bydd yn rhaid i Abertawe a Bristol City chwarae ei gilydd eto er mwyn penderfynu pwy fydd yn mynd trwodd i bedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr ar ôl iddyn nhw gael gêm gyfartal brynhawn Sul.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi chwarter awr, wrth i Joël Piroe rwydo yn dilyn pas lac yn amddiffyn Bristol City gan Robert Atkinson.

Yr Elyrch fu'n rheoli'r hanner cyntaf, ond roedd hi'n stori wahanol yn yr ail hanner wrth i'r tîm cartref ddod yn ôl i'r gêm.

Gyda chwarter awr yn weddill fe ddaethon nhw'n gyfartal, gyda pheniad Antoine Semenyo yn curo golwr Abertawe Steven Benda.

Bydd angen ailchwarae felly, gyda'r gêm honno'n cael ei chwarae yn Abertawe ar 17 neu 18 Ionawr.

Pe bai Abertawe'n fuddugol, fe fyddan nhw'n croesawu un ai Chesterfield neu West Bromwich Albion - sydd hefyd angen ailchwarae - i Stadiwm Swansea.com.