Streiciau iechyd: Undebau'n gwrthod cynnig taliad untro
- Cyhoeddwyd
Mae undebau iechyd wedi dweud nad oes dewis gyda nhw ond parhau â streiciau ar ôl trafodaethau gyda Gweinidog Iechyd Cymru.
Roedd Llywodraeth Cymru yn gobeithio y byddai cynnig taliad untro i staff y gwasanaeth iechyd yn osgoi gweithredu diwydiannol pellach.
Dywedodd undeb y GMB, sy'n cynrychioli gweithwyr ambiwlans a'r Coleg Nyrsio Brenhinol, na fyddai eu haelodau yn derbyn y cynnig.
Roedd hi'n "drafodaeth adeiladol", yn ôl Eluned Morgan, ond ychwanegodd nad oedd "bwriad mynd i unrhyw gytundeb heddiw".
Dywedodd Cyfarwyddwr Cymru y Coleg Nyrsio Brenhinol nad oedd "gwir drafodaeth" yn y cyfarfod ddydd Iau.
Dywedodd Eluned Morgan fod "pot o arian ar y bwrdd" ond gwrthododd ddweud faint oedd ei werth.
"Roedd heddiw yn ddiwrnod i ni ddechrau trafodaeth," meddai Ms Morgan wrth BBC Cymru nos Iau.
"Roeddem yn falch iawn ein bod wedi gallu dechrau'r drafodaeth honno.
"Rydyn ni'n deall cryfder teimladau undebwyr llafur o fewn y gwasanaeth iechyd."
Dywedodd Nathan Holman, o undeb GMB, nad oedden nhw wedi cael "cynnig y gallwn gyflwyno i'n haelodau eto".
"Bydd GMB, wrth gwrs, yn parhau i drafod a negodi ond bydd ein haelodau yn parhau i frwydro am gyflog teg a does dim dewis arall ond parhau â gweithredu diwydiannol."
Ddydd Mercher clywodd y BBC fod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnig o tua £1,000.
Dywedodd ffynonellau yn ddiweddarach mai sïon oedd yr honiad ac nad oedd unrhyw gynnig pendant wedi'i wneud.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig codiad cyflog o rhwng 4% a 5.5% i staff y GIG, ymhell islaw cyfradd chwyddiant.
Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) wedi galw am 5% yn uwch na chwyddiant, ond dywedodd yn ddiweddarach y byddai'n cwrdd â Llywodraeth Cymru hanner ffordd.
Fe gerddodd nyrsys ym mhob bwrdd iechyd - ac eithrio Aneurin Bevan - allan ar streic fis diwethaf.
'Cael ein gwthio i weithredu'n ddiwydiannol'
Dywedodd Cyfarwyddwr Cymru y Coleg Nyrsio Brenhinol, Helen Whyley, nad oedd "gwir drafodaeth" yn y cyfarfod ddydd Iau a'i bod "fwy fel rhannu gwybodaeth".
"Tan y bydd y llywodraeth o ddifrif yna mae fy aelodau'n teimlo nad oes dewis ganddyn nhw ond ystyried streiciau pellach.
"Maen nhw'n gwneud hynny gan eu bod nhw'n teimlo mor angerddol dros nyrsio."
Ychwanegodd fod aelodau'n teimlo "fel ein bod ni'n cael ein gwthio i weithredu'n ddiwydiannol".
Dywedodd Adam Morgan, uwch swyddog negodi Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi yng Nghymru fod y llywodraeth wedi dangos eu bod yn "barod i negodi ar gyflog, sy'n ddatblygiad i'w groesawu".
"Ond dim ond y dechrau yw hyn a tan y caiff cynnig cadarn ei wneud y gallwn gyflwyno i'n haelodau, allwn ni ddim rhoi stop ar ein gweithredu diwydiannol."
'Anodd iawn'
Roedd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, yn rhagweld sefyllfa anodd os na all undebau yn y sector cyhoeddus Cymreig ddod i gytundeb gyda gweinidogion dros gyflogau.
Yn ogystal ag anghydfodau gydag undebau iechyd, mae athrawon a gweision sifil yn Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnal pleidlais ynghylch streiciau.
Cyn y trafodaethau ddydd Iau, dywedodd: "Os na allwn ddod i gytundeb ar ddod o hyd i setliad da, y gall yr undebau sy'n cynrychioli'r gweithlu yn y sector cyhoeddus datganoledig argymell i'w haelodau a byddai eu haelodau'n derbyn, yna yn anffodus mae'n mynd i fynd yn anodd iawn."
"Mae llawer yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd ddydd Iau," ychwanegodd.
Mewn datganiad wedi'r trafodaethau, dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yr hoffai "ddiolch i'r holl undebau iechyd am ddod i'r cyfarfod heddiw ac am gymryd rhan mewn ffordd adeiladol yn y drafodaeth".
"Rydym yn cydnabod ac yn parchu cryfder y teimlad ymhlith aelodau'r undebau, sydd wedi cael ei fynegi drwy'r pleidleisiau diweddar dros weithredu diwydiannol a'r streiciau sydd wedi dilyn.
"Gobeithio gallwn ni barhau gyda'r trafodaethau hyn yn ein ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol."
Yn sgil sylwadau Helen Whyley a ddywedodd nad oedd "gwir drafodaeth" yn y cyfarfod ddydd Iau, cyhuddodd y Ceidwadwyr Cymreig y llywodraeth o fod "eisiau cyhoeddusrwydd da... ond heb orfod cael trafodaeth ddifrifol".
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth: "Ni fydd taliad untro yn helpu i gadw nyrsys yn eu swyddi, ac ni fydd ychwaith yn denu pobl newydd i nyrsio.
"Nid yw ein GIG yn ddim byd heb ei weithwyr, a byddai gwneud cynnig cyflog llawer gwell - sy'n gyraeddadwy o'r cronfeydd wrth gefn presennol a chyllid heb ei ddyrannu - yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn deall bod cynaliadwyedd hirdymor y GIG yn gofyn am fuddsoddiad ar unwaith yn ein gweithlu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023