Cefnogi streic 'er disgwyl 10 awr am ambiwlans'

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Rhes o ambiwlansys yn disgwyl tu allan i adran frys Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar

Mae teulu o Sir Fôn, ddisgwyliodd 10 awr am ambiwlans yr wythnos ddiwetha', yn dweud eu bod yn cefnogi'r streic ddiweddara' er gwaetha' eu profiad "pryderus" nhw.

Yn ôl undeb y GMB, bydd dros 1,000 o'u gweithwyr ambiwlans yn cynnal streic 24 awr o 00:01 fore Mercher - yr eildro iddyn nhw weithredu o fewn tair wythnos.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu trafod taliad untro ddydd Iau i geisio dod â'r streiciau i ben.

Ond dywedon nhw y byddai angen mwy o arian o San Steffan i gynnig unrhyw beth pellach.

Yn ôl undeb y GMB, mae'n "rhaid gweithredu" wrth iddyn nhw alw am godiad cyflog sy'n fwy na chwyddiant.

Roeddan nhw wedi bwriadu streicio dros gyfnod y Nadolig ond fe benderfynon nhw ohirio tan 11 Ionawr oherwydd y "gefnogaeth anhygoel" gawson nhw gan y cyhoedd yn ystod eu streic gynta' ar 21 Rhagfyr.

Un sy'n cefnogi eu safiad ydy Bryan Owen, o Fodorgan ar Ynys Môn - a hynny er bod ei wraig wedi gorfod aros dros nos am ambiwlans ar ôl disgyn yn eu cartre' yr wythnos ddiwetha'.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Nia Owen gael llawdriniaeth ar ôl llithro ar lawr gwlyb

Roedd Nia Owen wedi llithro ar lawr gwlyb ac er iddyn nhw alw 999 tua 20:00 y noson honno, wnaeth yr ambiwlans ddim cyrraedd tan tua 06:00 y bore wedyn.

Mae hi'n gwella yn Ysbyty Gwynedd erbyn hyn ar ôl cael llawdriniaeth i'w chlun, ond mae Mr Owen yn dweud bod hi wedi bod yn gyfnod "pryderus iawn" iddyn nhw.

'Mewn poen ofnadwy'

"Fuodd hi'n disgwyl am tua 10 awr ar lawr oer. O'dd rhywun yn poeni amdani, ofn iddi gael clot ar y goes neu rhywbeth fel 'na.

"O'dd hi mewn poen ofnadwy ac yn methu symud ei choes o gwbl.

"Nathon i hi mor gyfforddus â phosib ond o'dd o'n amser maith i fod yn disgwyl i fod yn onest.

"Fedrwch chi'm gweld bai - o'dd yr ambiwlans 'di dod yr holl ffordd o Borthmadog. 'Does 'na ddim bai arnyn nhw ond mae 'na rhywbeth yn y system sy' ddim yn iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bryan Owen o blaid talu'r hyn mae staff ambiwlans yn ei "haeddu" am eu gwaith

Er eu profiad nhw, mae Bryan Owen yn deall rhesymau'r gweithwyr dros streicio.

"Dwi'n cefnogi nhw 100% i fod yn onest," meddai. "Mae'r gweithwyr ambiwlans a pawb sy'n gweithio ar y front line... maen nhw'n haeddu pob cefnogaeth fedran ni roi iddyn nhw.

"Fedra i ddim diolch digon iddyn nhw am y gofal maen nhw 'di rhoi i'r wraig a mae'n rhaid i ni drio gwneud rhywbeth i wneud yn siŵr bod ni yn eu cefnogi nhw a bod nhw'n cael be' maen nhw ei angen neu be' maen nhw'n haeddu."

'Rhaid i ni gyd ddeffro a chefnogi'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Annette Bryn Parri'n cefnogi streiciau'r gweithwyr iechyd yn dilyn profiadau personol o'r straen ar staff y GIG

Un sy'n rhannu safbwynt Bryan Owen yw'r cerddor a'r pianydd Annette Bryn Parri, a dreuliodd oriau yn adran frys Ysbyty Gwynedd, Bangor ddyddiau cyn y Nadolig ar ôl cael poenau yn y frest a'r pen.

Wedi i'w mab ei gyrru i'r ysbyty am nad oedd ambiwlans ar gael, roedd hi'n wyth awr cyn iddi weld nyrs am sgwrs gychwynnol yn yr oriau mân a thair awr yn rhagor cyn gael gweld meddyg, a ymddiheurodd am y sefyllfa.

"Oedd y lle yn llawn... ond oedd 'na rai gwaeth na fi yna," meddai ar raglen Dros Frecwast.

"O'n i'n mynd i'r dderbynfa bob hyn a hyn yn gofyn am gymorth i rywun fod 'efo nhw ond doedd y staff ddim ar ga'l."

Fe gyfrodd tua "10,11" ambiwlans tu allan i'r adran.

Tua'r un pryd bu'n rhaid i'w mam aros oriau am ambiwlans, ac am oriau wedi hynny yng nghefn yr ambiwlans, ar ôl torri ei chlun yn ei chartref yn Nyffryn Peris. Parafeddygon o Wrecsam wnaeth ymateb i'r alwad frys.

"Ma'r sefyllfa'n ddifrifol," meddai, gan ganmol y gofal a gafodd y ddwy gan yr holl nyrsys, meddygon a pharafeddygon.

Ond fe awgrymodd mai gweithredu diwydiannol gan staff iechyd "ydi'r ateb i ni weld be' sy' yn digwydd".

"Mae eu gwaith nhw yn bwysig i ni gyd... ac os nad ydyn nhw yn ca'l yr arian i fyw a bod ni'n gwerthfawrogi eu gwaith nhw, os na streicio ma' nhw'n mynd i 'neud, ma'n rhaid i ni gyd ddeffro a chefnogi."

'Gweithredu yn erbyn y llywodraeth'

Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru'n cyflogi dros 3,500 o weithwyr i gyd ac mae undeb y GMB yn cynrychioli tua 25% o staff y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru.

Bydd parafeddygon, cynorthwywyr gofal, technegwyr a staff corfforaethol yn streicio rhwng 00:00 nos Fawrth a 00:00 nos Fercher.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ross Card wedi bod yn barafeddyg am naw mlynedd a fore Mercher ar linell biced ym Masaleg dywedodd bod amodau gwaith a safon y gofal i gleifion wedi gostwng

Dywedodd Nathan Holmon, swyddog llawn-amser y GMB i'r GIG: "Byddem wedi gobeithio bod 'na rhywbeth wedi'i roi ar y bwrdd erbyn hyn.

"Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried cynnig ond dydyn ni ddim yn cwrdd i drafod beth allai hynny fod tan ddydd Iau felly tan hynny mae'n rhaid i ni weithredu.

"Rydym yn chwilio am godiad cyflog sy'n uwch na chwyddiant ond unrhyw gynnig rydyn ni'n derbyn byddwn ni'n ei roi i'r aelodau i benderfynu.

"Rydym eisiau o leia'r un fath â'r hyn sy'n cael ei gynnig yn Yr Alban - £1,000 ar ben yr hyn sydd ganddon ni nawr."

Ychwanegodd y bydd staff yn ymateb i'r cyhoedd yn union fel wnaethon nhw yn ystod y streic ddiwetha', gan "ymateb i unrhyw alwadau sy'n peryglu bywyd".

"Dydyn ni ddim yn gweithredu yn erbyn y cyhoedd," meddai. "Rydym yn gweithredu yn erbyn y llywodraeth."

Dywedodd bod y data a gafodd ei gofnodi yn ystod y streic ddiwetha' yn dangos bod yna ganran uwch o ymatebion i alwadau categori un, sef y rhai mwyaf brys, oherwydd nad oedd cerbydau yn cael eu dal.

Mae gwasanaethau sy'n achub a chynnal bywydau yn cael eu diogelu rhag y streic - drwy gytundeb - a gallai staff ddychwelyd i'r gwaith os oes 'na "ddigwyddiad difrifol" - er enghraifft, damwain trên neu ymosodiad terfysgol.

Golyga hyn fod staff mewn canolfannau rheoli a galwadau yn gweithio fel arfer er mwyn ateb ac asesu difrifoldeb galwadau 999.

Mae hawl hefyd gan y gwasanaeth ofyn i staff adael y llinell biced er mwyn ymateb i alwadau coch - lle mae bywyd mewn peryg yn syth - ond allan nhw ddim mynnu bod staff yn ymateb.

Effaith 'sylweddol' mewn cyfnod heriol

Mae penaethiaid y gwasanaeth ambiwlans yn cydnabod y bydd effaith y streic yn sylweddol ac mae'r streic yn digwydd mewn cyfnod pan mae'r gwasanaeth ambiwlans yn wynebu rhai o'r heriau mwyaf yn ei hanes.

Ers y pandemig mae perfformiad y gwasanaeth o ran ymateb i'r galwadau mwyaf difrifol, sef galwadau coch, hefyd wedi dirywio i'r lefel gwaethaf erioed.

Mae rhai o'r problemau mae'r gwasanaeth yn eu hwynebu y tu hwnt i'w reolaeth.

Un her benodol yw fod cymaint o ambiwlansys a'u criwiau yn treulio oriau lawer yn sownd tu fas i unedau brys gan fod yr unedau hynny yn orlawn.

Yn ôl undeb y GMB, mae'r streicio hefyd yn ymwneud â'r pwysau a'r straen ar weithwyr ambiwlans a phryder na all staff gynnig gofal diogel i gleifion o ganlyniad.

Fel yn ystod eu streic gynta' fis Rhagfyr, dyw hi ddim yn eglur a fydd aelodau undebau eraill yn cefnogi'r streic.

Tra bod undeb Unsain ddim wedi cyrraedd y trothwy i weithredu, mae Unite wedi ail-gynnal pleidlais a byddan nhw'n streicio ar 19 a 23 Ionawr.

Ymhlith y rhai oedd ar linell biced Bae Colwyn fore Mercher roedd Cat, sy'n barafeddyg yn Y Rhyl, a'i chi Vince.

Dywed bod yn rhaid striecio er mwyn achub y GIG a datrys yr argyfwng ambiwlansys y tu allan i ysbytai - mae'r cyfnod y maen nhw yn aros mewn ambiwlans yn llawer hwn na'r cyfnod streicio, ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith y rhai oedd ar linell biced Bae Colwyn fore Mercher roedd Cat, sy'n barafeddyg yn Y Rhyl, a'i chi Vince

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig codiad cyflog o rhwng 4% a 5.5% i staff y Gwasanaeth Iechyd ond gyda chwyddiant dros 10% mae undebau yn mynnu fod hyn yn doriad cyflog mewn termau real, felly mae'r undebau yn galw am godiadau cyflog sy'n uwch na chwyddiant.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu na allan nhw gynnig yr hyn sy'n cael ei alw amdano heb arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan eu bod yn "adnabod pam bod cymaint o weithwyr ambiwlans wedi pleidleisio fel gwnaethon nhw a'r dicter a'r siom mae nifer o weithwyr sector cyhoeddus yn teimlo ar y funud."

Ychwanegodd bydd y llywodraeth yn parhau i weithio gyda'r GIG, yr undebau a phartneriaid i sicrhau bod gofal sy'n arbed a chynnal bywyd yn cael ei ddarparu a bod diogelwch cleifion yn cael ei gynnal.

"Ond mae'n hanfodol bod pawb yn gwneud hynny y gallan nhw i leihau'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd yn ystod y streicio ac yn ystyried yn ofalus pa weithgareddau maen nhw'n eu gwneud," ychwanegodd.

Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi galw ar y cyhoedd i ystyried yn ofalus sut allai'r streicio effeithio ar wasanaethau.

Y cyngor ydy i ffonio 999 os oes yna berygl i fywyd yn syth ac mae'r cyhoedd yn cael eu hannog i ddefnyddio'r gwasanaeth 111 am gyngor mewn unrhyw achos arall, neu ymweld â'u fferyllydd, meddyg teulu neu uned mân anafiadau.