Ymddiheuro am bwysau 'aruthrol' ar y gwasanaeth iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi ymddiheuro i staff a chleifion am y pwysau "aruthrol" sydd wedi bod ar y gwasanaeth iechyd dros y gaeaf.
Dywedodd Eluned Morgan bod Covid, y ffliw ac afiechydon eraill wedi ychwanegu at nifer y bobl sydd yn yr ysbyty, ac felly bod paratoadau "ddim wedi bod yn ddigon".
Mae wedi gofyn i'r gwasanaeth iechyd ganolbwyntio ar bum neu chwe blaenoriaeth, gan ddweud y bydd hynny'n golygu "penderfyniadau anodd".
Ond ychwanegodd bod angen "trafodaeth" hir dymor ar beth fydd "disgwyliadau" pobl am y gwasanaeth iechyd yn y dyfodol, a bod hefyd angen iddyn nhw "gymryd cyfrifoldeb" dros eu hiechyd eu hunain.
550 y dydd i ysbytai
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Ms Morgan mai'r "peth cynta' dwi eisiau 'neud ydy ymddiheuro" i staff a chleifion.
"Mae'r pwysau sydd 'di bod ar y gwasanaeth iechyd wedi bod yn wahanol i unrhyw beth ni 'di gweld o'r blaen," meddai.
Dywedodd bod "un mewn 18 yn dioddef o Covid", gydag afiechydon eraill fel y ffliw, RSV a Strep A hefyd wedi ychwanegu at y pwysau.
Dros y Nadolig, dywedodd bod y niferoedd mewn ysbytai yn "llethu" y gwasanaeth iechyd.
"Dwi'n meddwl y cawson ni rhywbeth fel 550 o bobl yn cael eu cyfeirio at ysbyty mewn un diwrnod, mewn gwasanaeth sydd a thua 9,000 o welyau."
"Felly mae'r pwysau i gyd wedi dod ar yr un pryd, mae lot o staff wedi bod off oherwydd afiechyd, ac ry'n ni mewn sefyllfa lle, er ein bod ni wedi paratoi yn ddiwyd ar gyfer y gaeaf yma, yn anffodus dyw hi ddim wedi bod yn ddigon," meddai.
Dywedodd bod gan Gymru bellach ganolfannau gofal cynradd newydd a gwasanaeth 111 ar draws y wlad "oedd ddim ar gael llynedd", yn ogystal â 500 o welyau cymunedol ychwanegol a 100 yn fwy o weithwyr i'r gwasanaeth ambiwlans.
"Felly mae lot wedi cael ei roi mewn lle, ond yn amlwg mae'r galw wedi bod lot yn uwch nag unrhyw beth ni 'di gweld o'r blaen."
Ychwanegodd mai "un o'r rhesymau nad ydw i wedi bod mor weithgar ag y bydden i wedi bod yw gan fy mod wedi dioddef o'r ffliw fy hun" ar ôl iddi dderbyn beirniadaeth wleidyddol dros gyfnod y Nadolig.
Rhyddhau cleifion yn 'risg'
Mynnodd fodd bynnag mai'r peth iawn oedd ceisio rhyddhau cleifion mor sydyn â phosib o'r ysbyty i wneud lle ar gyfer eraill, hyd yn oed os oedd "risg" y byddan nhw'n gorfod dychwelyd i'r ysbyty eto os nad ydyn nhw'n gwella'n iawn.
"Y cwestiwn yw ble mae'r risg waethaf, ble mae'r risg fwyaf, ac ar hyn o bryd mae'r risg i gyd ar y rheiny mewn sefyllfa lle mae angen gofal brys arnyn nhw," meddai.
"Achos bod ni mewn sefyllfa lle mae pobl wedi cael eu triniaeth nhw, ond dy'n nhw ddim yn gallu gadael achos pecyn gofal, ry'n ni'n meddwl bod e'n well cael y risg wedi ei ledaenu allan yn well ar draws y gwasanaeth yn llwyr."
Cyfaddefodd y Gweinidog Iechyd bod angen trafodaeth ehangach am bwrpas y gwasanaeth iechyd yn y dyfodol, a sut i'w hariannu - gyda phobl "falle sy'n byw heddiw na fydde wedi byw yn y gorffennol".
"Mae'n anhygoel ein bod ni'n gallu cadw'r bobl yma'n fyw nawr, ond wrth gwrs mae hynny'n dod gyda chost aruthrol i'r gwasanaeth iechyd," meddai.
"Dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cael trafodaeth gyda'r boblogaeth ynglŷn â beth fydd y disgwyliadau yn y dyfodol.
"Achos yn amlwg dwi'n meddwl bydd hi'n anodd i ni barhau i roi'r math o wasanaeth yn y dyfodol, heb ein bod ni falle'n gweld pobl yn cymryd cyfrifoldeb eu hunain."
'Bwyta'n well a ffitrwydd' i helpu'r GIG
Dyw hynny "ddim o reidrwydd" yn golygu symud at drefn o yswiriant iechyd preifat, meddai, "ond dwi'n meddwl bod rhaid i ni ofyn i'r boblogaeth helpu ni yma".
"Bwyta'n well, mae gorbwysau'n broblem aruthrol, a nifer y bobl sy'n dioddef o diabetes math 2 yn rhywbeth sy'n effeithio ar y gwasanaeth iechyd," meddai.
"Mae pobl yn gallu 'neud mwy o ran ffitrwydd... [ac mae angen] trafodaeth gyda'r cyhoedd o ran sut maen nhw'n mynd i helpu ni hefyd."
'Pum neu chwe blaenoriaeth'
Mae'r gweinidog wedi gofyn i'r GIG ganolbwyntio ar flaenoriaethu pum neu chwe maes, fydd yn golygu y bydd byrddau iechyd yn wynebu "penderfyniadau anodd iawn, iawn".
"Os ydym am weld newidiadau mewn ymddygiad gan y cyhoedd hefyd, yna fe fydd yn rhaid i ni gael sefyllfa lle efallai y byddwn ni'n cynnig llai o wasanaethau," dywedodd.
"Yr hyn dwi wedi gofyn i'r GIG wneud y flwyddyn nesaf yw ffocysu ar flaenoriaethu pum neu chwe ardal ac os y gallan nhw wneud unrhyw beth tu hwnt i hynny, mi fydd hynny'n wych.
"Bydd hynny'n golygu penderfyniadau anodd iawn, iawn i'r byrddau iechyd."
Trafod cyflogau i barhau
Dywedodd y Gweinidog Iechyd hefyd ei bod wedi cynnig trafodaethau ddydd Gwener gyda'r undebau iechyd am y cynnig o daliad untro gan Lywodraeth Cymru, ond mai dim ond hynny oedd modd ei gynnig "gyda'r arian sydd gyda ni".
"Beth ni wedi 'neud dros y Nadolig ydy edrych ar bob llinell cyllid i weld a oes 'na lefydd lle na fyddwn ni'n gwario'r arian yna sydd wedi cael ei glustnodi, allwn ni gael peth o'r arian yna a rhoi rhywfaint yn ychwanegol i bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd," meddai.
Mae Plaid Cymru wedi awgrymu bod lle i roi 8% o godiad cyflog i nyrsys wrth ddefnyddio arian yn y gyllideb iechyd sydd heb ei glustnodi eto, ond mynnodd Ms Morgan bod "hwnna just ddim yn wir".
"Dwi ddim yn gwybod lle maen nhw 'di cael 8% sydd ddim yn cael ei wario," meddai.
"Dwi'n gwybod y broblem sydd gyda ni mewn iechyd eleni yw'r ffaith bod pob un yn mynd i orwario."
Dyw symud arian o rannau eraill cyllideb Llywodraeth Cymru ddim yn opsiwn chwaith, meddai.
"Mae mwy na 50% o'r cyllid yn mynd ar iechyd, ac rydyn ni hefyd yn gwario lot mwy ar ofal yng Nghymru nag ydyn nhw er enghraifft yn Lloegr.
"Dyna lle mae rhan fawr y broblem yn dod, ein bod ni'n gorfod talu mwy i ddenu pobl at y gwasanaeth gofal - ni 'di colli 2,000 o bobl pan ddigwyddodd Brexit, mae 'di bod yn anodd i gael pobl i gymryd eu lle nhw."
Codi trethi 'cam rhy bell'
Ffordd arall o godi rhagor o arian fyddai i godi trethi, ond dywedodd Ms Morgan nad oedd digon o bobl yng Nghymru yn ennill incymau uchel i hynny fod yn bosib.
"Dim ond 11% o bobl yng Nghymru sydd yn ennill dros £40,000, felly dyw hynny ddim yn ddigon i ni gael yr arian sydd angen i ni dalu'r codiadau cyflog mae'r RCN ac eraill yn edrych amdanyn nhw," meddai.
"A byddai codi trethi y bobl tlotaf yn gam rhy bell."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2023