Rhwystredigaeth i deithwyr Wizz Air o Gaerdydd
- Cyhoeddwyd
Dywed nifer o deithwyr Wizz Air eu bod yn rhwystredig wedi i'r cwmni hedfan gyhoeddi bod eu hediadau o Faes Awyr Caerdydd yn dod i ben.
Yn ôl y cwmni, sy'n cynnig teithiau pris isel, dyw hi ddim yn bosib iddyn nhw barhau i hedfan o Gaerdydd "oherwydd costau gweithredu uchel".
Bu'n rhaid i 27 aelod o un parti stag ddod o hyd i hediadau eraill er iddyn nhw beidio gael ad-daliad llawn.
Dywed Wizz Air eu bod yn "ymddiheuro yn ddiffuant" i gwsmeriaid a bod ganddyn nhw y dewis o gael ad-daliad llawn.
Yn y cyfamser, mae un Aelod o'r Senedd wedi galw am gau'r Maes Awyr yn gyfan gwbl.
Ond dywedodd Llywodraeth Cymru fod meysydd awyr llai yn "hanfodol i economïau rhanbarthol ar draws y DU".
'Byth am ddefnyddio Wizz Air eto'
Wedi'r gwasanaeth a dderbyniodd, dywed Matthew Banwell, 51, o Donyrefail yn sir Rhondda Cynon Taf, na fydd fyth yn hedfan gyda chwmni Wizz Air eto.
Dywed bod y grŵp o 27 yr oedd yn rhan ohono wedi gorfod talu £900 am hediadau eraill adref gan gwmni arall - maen nhw'n hedfan i Alicante ym mis Mawrth.
"Ry'n wedi gorfod prynu 27 hediad arall adref ar gost ychwanegol ac ry'n ni hefyd wedi gofyn i'r gyrrwr bws i'n casglu o Fryste yn lle Caerdydd - ac y mae hynny yn ychwanegu £250 arall at y gost."
Roedd Mr Banwell a dau arall o'r grŵp wedi prynu'r tocynnau hedfan drwy wefan lastminute.com.
Roedd wedi cael gwybod gan gwmni Wizz Air bod ad-daliad wedi ei roi iddo ar ffurf credyd i'w gyfrif Wizz Air er nad oedd ganddo gyfrif gyda'r cwmni.
Ychwanegodd bod un o'r tri a brynodd docynnau wedi cael ad-daliad ar ffurf credyd i'w gyfri lastminute.com ond does dim sôn am y ddau ad-daliad arall.
"Fydda'i byth yn defnyddio Wizz Air eto. Pan ry'ch yn siarad â nhw mae rhywun yn teimlo nad yw'n mynd i unlle."
'Gawn ni'n arian yn ôl'
Dywed Charlie Ann O'Brien, o Benarth, ei bod hi wedi bod yn ceisio cael ad-daliad gan Wizz Air ers i'w hediad gael ei ganslo haf diwethaf ond hyd yma dyw hi ddim wedi llwyddo.
Cafodd hediad Ms O'Brien i Bortiwgal ei ganslo ar y diwrnod yr oedd hi fod i deithio ym mis Mehefin ac felly bu'n rhaid iddi fwcio hediad arall a theithio i Faes Awyr Gatwick ar frys.
Fe wnaeth y cwmni ei digolledu drwy roi credyd iddi gyda WizzAir ond doedd fawr o werth i hynny, medd Ms O'Brien, gan ei bod eisoes wedi bwcio hediad arall a bellach fydd y cwmni ddim yn hedfan o Gaerdydd.
"Rwy' wedi erfyn arnyn nhw i roi'r arian yn ôl i ni, dwi'n gwybod bod e ond yn £86.40, ond dwi'n cyrraedd unlle," meddai.
"Yr unig ffordd rwy'n gallu cael yr arian yn ôl yw bwcio hediad arall gyda nhw. Ac yn amlwg does gen i ddim siawns o wneud hynny gan na fyddant yn hedfan o Gaerdydd bellach.
"Be' dwi'n 'neud nawr? Dydyn nhw ddim yn hedfan o Gaerdydd ac mae gen i gredyd nad oes modd i fi ei ddefnyddio."
Ychwanegodd ymhellach nad oedd hi wedi cael cysylltiad gyda phobl go iawn o gwbl - dim ond e-byst cyffredinol.
Wrth roi sylw ar wasanaeth Wizz Air yn dod i ben yng Nghaerdydd dywed Ms O'Brien ei fod yn newyddion "ofnadwy" ac y gallai'r maes awyr fod yn adnodd "bendigedig" gan fod gennym "adeilad gwerthfawr" ac adnoddau.
"Flynyddoedd yn ôl roeddwn ni wastad yn hedfan o Gaerdydd," meddai, "a doedden ni ddim yn ystyried hedfan o Fryste, Birmingham neu rywle arall. Mae'n drist gweld sut mae pethau wedi newid dros y blynyddoedd.
"Erbyn hyn dwi ddim yn ystyried Caerdydd, dwi'n mynd yn syth i Fryste."
'Ddylwn i fod wedi dysgu fy ngwers'
Roedd Simon Marsh, 56, o'r Barri, wedi dweud na fyddai'n defnyddio cwmni Wizz Air fyth eto wedi i'w daith gael ei chanslo y llynedd.
Ond fe benderfynodd fwcio hediad iddo ef a'i wraig i Bortiwgal fis Medi nesaf - penderfyniad y mae'n edifar amdano.
"Roedd y newyddion eu bod yn dod â'u hediadau i ben yng Nghaerdydd ar y cyfryngau cymdeithasol cyn iddyn nhw hysbysu cwsmeriaid," meddai.
Dywedodd bod ffrindiau iddyn nhw wedi gorfod dod â'u gwyliau i ben dridiau yn gynnar er mwyn cyrraedd adref wedi i hediadau gael eu canslo.
"Ar egwyddor fyddwn i ddim yn hedfan gyda Wizz Air eto ac fe ddylwn fod wedi dysgu fy ngwers wedi'r tro cyntaf 'na y llynedd."
Dywed Simon Calder, sy'n arbenigwr teithio, y bydd yn rhaid i Wizz Air, "ddatrys y problemau sy'n deillio o'u penderfyniad i adael Caerdydd".
"Mae hawliau teithwyr awyr Ewrop o'ch plaid. Mae'n ofynnol i Wizz Air eich digolledu yn llawn. Ond wrth gwrs mae'r rheolau a'r hyn fydd yn digwydd yn dra gwahanol," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Wizz Air: "Mae Wizz Air yn ymddiheuro'n ddiffuant am bob anghyfleustra yn sgil dod â'n hediadau yng Nghaerdydd i ben.
"Mae cwsmeriaid y mae'n penderfyniad yn cael effaith arnynt wedi cael eu hysbysu drwy e-bost ac fe fydd yna ddewis o gael yr ad-daliad ariannol yn llawn, cael credyd o 120% o'r pris gwreiddiol neu hediad arall o Birmingham, Bryste, Gatwick, Leeds, Lerpwl neu Luton.
"Mae modd i gwsmeriaid wneud eu dewis drwy wasgu'r dolenni priodol ar e-bost neu mynd i gyfrif WIZZ, gwefan WizzAir.com neu ap WIZZ.
"Dylai cwsmeriaid a wneth fwcio drwy asiantaeth teithio wneud cais i gael ad-daliad drwy'r asiantaeth gan fod Wizz Air ond yn gallu prosesu ad-daliadau i'r sawl a fwciodd yr hediad."
Galw am gau'r maes awyr
Dywedodd Jane Dodds, unig gynrychiolydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Senedd Cymru, bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn "gorfod rhoi arian mewn i'r maes awyr i gadw fo i fynd".
"'Da ni wedi gwario dros £200m ar y maes awyr. Ond y rheswm mwyaf penodol [i gau y maes awyr] yn fy marn i yw newid hinsawdd. Dylsen ni feddwl yn hollol am beth 'da ni'n gwneud am deithio.
"'Da ni wedi newid beth ni yn gwneud, yn enwedig busnesau. 'Dyn nhw ddim yn teithio i gael cyfarfodydd, maen nhw'n mynd ar Zoom rŵan, felly mae'r holl beth wedi newid.
"Ac mae'n rhaid i ni yn bersonol newid beth 'da ni yn gwneud a dwi eisiau'r llywodraeth i arwain ar hynny a chau y maes awyr."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn amlwg yn siomedig fod Wizz Air wedi penderfynu tynnu'n ôl o Faes Awyr Caerdydd.
"Mae ein cynllun adfer Covid yn parhau yn ei le, ond yn amlwg mae'r hinsawdd economaidd bresennol yn hynod o anodd i'r diwydiant awyrennau.
"Mae meysydd awyr llai yn hanfodol i economïau rhanbarthol ar draws y DU ac rydym yn annog Llywodraeth y DU i ddarparu'r gefnogaeth i'w rhoi ar sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2019