Cwmni Wizz Air i greu 'canolfan barhaol' yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd y cwmni hedfan Wizz Air UK, sy'n cynnig hediadau rhad, yn creu 40 o swyddi gyda chanolfan barhaol ym Maes Awyr Caerdydd.
Bydd y cwmni yn cynnig gwasanaethau i naw o leoliadau ledled Ewrop, a hediadau tymhorol i'r Aifft.
Mae'n hwb mawr i'r maes awyr yn dilyn colli gwasanaeth Flybe, a aeth i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Mawrth.
Maes Awyr Caerdydd fydd pedwaredd canolfan y cwmni hedfan yn y DU, yn dilyn Luton, Gatwick a Doncaster Sheffield.
Yn ôl y cwmni bydd 250 o swyddi pellach yn cael eu creu hefyd yn y gadwyn gyflenwi yn anuniongyrchol.
Ymhlith y cyrchfannau gwyliau mae Alicante, Faro a Tenerife, yn ogystal â llwybrau tymhorol yn ystod yr haf i Corfu a Palma de Mallorca, a Lanzarote a Sharm El Sheikh yn ystod y gaeaf.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates: "Mae hwn yn gam cadarnhaol i'r maes awyr wrth iddyn nhw edrych ar ail-gydio mewn pethau wedi'r pandemig."
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Wizz Air UK, Owain Jones: "Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Wizz Air i wasanaethu marchnad y DU a bydd yn cynhyrchu twf economaidd, wrth i ni greu swyddi lleol, ysgogi'r diwydiannau twristiaeth a lletygarwch a chyflawni ein haddewid i ddarparu hediadau uniongyrchol fforddiadwy i gyrchfannau gwyliau cyffrous."
Dywedodd Spencer Birns, prif weithredwr dros dro Maes Awyr Caerdydd, fod y gwasanaeth newydd yn "newyddion gwych i Gymru".
Ychwanegodd: "Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl sy'n byw yng Nghymru yn gweld eisiau cael gwyliau haeddiannol ar ôl blwyddyn mor heriol, a bydd yr hediadau newydd hyn yn rhoi cymaint mwy o gyfleoedd am wyliau, a fydd yn rhoi rhywbeth i ni i gyd edrych ymlaen ato'r flwyddyn nesaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2020
- Cyhoeddwyd21 Mai 2020