Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-1 Wigan

  • Cyhoeddwyd
Will Keane yn sgorioFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Cafodd Caerdydd ergyd hwyr yn eu brwydr i aros yn y Bencampwriaeth wrth i Wigan unioni'r sgôr yn eiliadau olaf eu gornest.

Roedd Callum O'Dowda yn credu ei fod wedi sicrhau buddugoliaeth hollbwysig i'r Adar Gleision wedi iddo sgorio gydag wyth munud i fynd.

Ond fe wnaeth Will Keane gipio pwynt i'r Latics ar ddiwedd chwe munud o amser ychwanegol ar ddiwedd y gêm.

Ar ddechrau'r gêm roedd Caerdydd yn 21ain yn y tabl, un yn uwch na safleoedd y cwymp, tra bod Wigan yn gorwedd ar y gwaelod.

Gyda'r un o'r ddau dîm wedi ennill ers Noson Tân Gwyllt, doedd hi ddim yn syndod felly gweld brwydr digon flêr a di-fflach yn yr hanner cyntaf.

Tarodd Callum Lang ergyd dros y trawst i'r ymwelwyr, tra bod Isaak Davies wedi dod yn agos at godi'r bêl dros Ben Amos o 25 llath cyn i golwr Wigan gael cyffyrddiad hanfodol i'w throi i ffwrdd.

Rhwng y ddau dîm doedden nhw heb ennill mewn cyfanswm o 12 gêm, ond Wigan oedd yn edrych fel y tîm fwyaf tebygol i dorri'r patrwm yna yn yr ail hanner, gyda Miguel Azeez a Keane yn dod yn agos.

Wyth munud o'r diwedd roedd hi'n edrych fel eu bod nhw am gael eu cosbi am fethu cymryd y cyfleoedd hynny, wrth i ergyd i O'Dowda wyro i gefn y rhwyd.

Ond fe brociodd Keane y bêl i gefn y rhwyd o beniad Ashley Fletcher yn yr eiliadau olaf i dorri calonnau Caerdydd, sydd bellach heb ennill mewn naw gêm.