Lletygarwch Cymru 'yn gorfod cynnig mwy' i ddenu staff

  • Cyhoeddwyd
The Grove, NarberthFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwesty a bwyty The Grove yn Arberth yn cynnig wythnos waith o bedwar diwrnod i staff

Mae llety rhad a wythnosau gwaith byrrach yn rhai o'r manteision sy'n cael eu cynnig i staff lletygarwch wrth i'r diwydiant wynebu argyfwng recriwtio.

Ers pandemig Covid-19 mae llawer o staff wedi gadael y sector, gydag oriau anghymdeithasol a chyflogau isel yn cael y bai.

Ac yn ôl y rheiny o fewn y diwydiant, gallai cadw staff neu beidio wneud y gwahaniaeth rhwng parhau ar agor, neu gau'r drysau'n gyfan gwbl yn 2023.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynnig £460m mewn cymorth cyfraddau annomestig i fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd.

'Lle neisiach i weithio'

Yn ôl ffigyrau UK Hospitality, corff sy'n cynrychioli'r diwydiant, mae'r sector yn cyflogi 140,000 o bobl yng Nghymru ac roedd yn cyfrannu tua £3.6bn y flwyddyn i'r economi cyn y pandemig.

Ond ers hynny y gred yw bod y ffigyrau wedi disgyn, wrth i fusnesau gau neu roi eu gweithwyr ar ffyrlo yn ystod y cyfnodau clo gan eu harwain nhw i ailystyried eu gyrfaoedd.

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol Seren Collection, grŵp sy'n cynnwys gwesty a bwyty The Grove yn Arberth, Sir Benfro, fod hyn wedi ei gyfuno gyda diffyg gweithwyr ers Brexit wedi creu "storm berffaith" i fusnesau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Thomas Ferrante yn dweud bod y pandemig wedi gorfodi i fusnesau ailystyried beth sy'n cael ei gynnig i staff

"Beth sy'n dda yw bod e wedi gwneud i ni a'r diwydiant ehangach edrych ar sut 'dyn ni'n talu staff, yr amodau gwaith a'r buddion," meddai Thomas Ferrante.

"Mae lletygarwch wedi bod yn gwella, ac roedd ymgais tuag at geisio creu llefydd hapusach, neisiach i weithio; ystyried yr oriau hir ac anghymdeithasol, a'u talu'n deg am hynny.

"Nawr 'dyn ni'n mynd hyd yn oed yn bellach."

Dywedodd Mr Ferrante fod Seren Collection bellach yn cynnig wythnos weithio o bedwar diwrnod i staff, er eu bod nhw'n cadw'r un oriau a chyflog wythnosol, a lansio cynllun rhannu elw gyda staff.

'Cynigion ddim yn gweithio'

Mae busnes arall, bwyty Heaney's yng Nghaerdydd, wedi newid gofod ar eu safle oedd yn arfer bod yn swyddfa yn fflat gyda thair stafell wely.

Mae'n golygu eu bod wedi gallu cynnig llety i staff am bris sydd 50% yn rhatach na'r farchnad, rhywbeth mae'r perchennog yn dweud sydd wedi denu gweithwyr o du hwnt i'r ardal.

Fe wnaeth y busnesu hefyd leihau hyd shifftiau'r staff, gyda rhai hefyd ond yn gweithio pedwar diwrnod yr wythnos.

"Mae wedi helpu gyda chadw staff ac mae wedi bod yn well i bawb a dweud y gwir," meddai Tom Heaney.

Disgrifiad o’r llun,

Mae llety ar gael ar gyfer staff Heaney's uwchben y bwyty

Mae busnesau eraill fel grŵp Celtic Collection, sy'n cynnwys gwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd, wedi cyflwyno manteision fel mynediad am ddim i apwyntiadau meddyg teulu ar-lein, cyngor ariannol, a sifftiau fwy hyblyg.

Ond mae busnesau eraill wedi ei chael hi'n anoddach denu pobl i'r sector, er gwaethaf cynnig buddiannau ychwanegol.

Dywedodd John Evans, perchennog tafarn a gwesty'r Black Boy yng Nghaernarfon, ei fod bellach yn cynnig oriau hyblyg a llety ar ddiwedd shifftiau hwyr, ond bod dal swyddi gwag ganddo.

"'Dan ni wedi trio cynnig manteision gwahanol ond dydyn nhw jyst ddim i weld yn gweithio," meddai.

"'Dan ni'n talu mwy na busnesau tebyg yn yr ardal ond 'dan ni 'dal yn cael problemau recriwtio, ac nid ni ydi'r unig rai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd John Evans ei bod hi'n llawer anoddach dod o hyd i staff ers Brexit a'r pandemig

"Dwi'n gwybod am dafarndai a gwestai eraill sydd jyst methu cael y staff.

"Mae Brexit yn amlwg wedi cael effaith, ond mae lot o bobl rŵan isio gweithio o adra neu llai o oriau."

Gwell wedi Covid?

Dywedodd David Chapman, cyfarwyddwr gweithredol UK Hospitality yng Nghymru, fod pryder o hyd y gallai llawer o fusnesau leihau neu gau'n gyfan gwbl pan fydd cymorth ar filiau ynni'n dod i ben ym mis Ebrill.

"Ar y llaw arall mae'r diwydiant yn un gwydn iawn, mae'n parhau i fownsio yn ôl," meddai.

"Ac unwaith y byddwn ni'n bownsio yn ôl, dwi'n meddwl y byddwn ni mewn gwell siâp nag oedden ni cyn Covid i raddau."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y "sefyllfa heriol tu hwnt i fusnesau", gan ychwanegu eu bod wedi cyhoeddi £460m o gymorth cyfraddau annomestig ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf i helpu busnesau sy'n ei gweld hi'n anodd oherwydd costau.

‌​‌‌‌​‌‌‍‌​‌‌‌​‌​‍‌​‌‌‌​‌​

Pynciau cysylltiedig