Prinder staff lletygarwch yn 'argyfwng enfawr'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
John Evans, perchennog y Black Boy Inn
Disgrifiad o’r llun,

Dywed John Evans fod Covid a Brexit wedi creu'r 'storm berffaith'

Mae prinder staff sy'n gweithio yn y sector lletygarwch bellach yn "argyfwng enfawr" yn ôl un perchennog tafarn o Gaernarfon.

Dywedodd John Evans, perchennog Tafarn y Black Boy, ei fod wedi gorfod canslo dros 500 o archebion am fwrdd yn y bwyty dros y pythefnos nesa.

Mae'n dweud ei fod yn gweld hi'n amhosib recriwtio staff i weithio mewn ceginau, yn gweini bwyd, glanhau ac yn gosod gwlâu.

"Mae prinder staff wedi cael effaith fawr arnon ni," meddai Mr Evans ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, "ac mae hynna'n effeithio pawb yn y wlad, nid jest ni yng Nghymru."

"Dwi 'di clywed am gwmni Best Western bore 'ma ddim yn ail agor rhai o'i gwestai nhw achos bod gennon nhw ddim staff."

Ychwanegodd mai sgil effeithiau Brexit a Covid-19 sydd wedi creu'r "storm berffaith" gan arwain at brinder staffio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae perchennog tafarn Black Boy yn ystyried canolbwynio ar yr gwesty oherwydd diffyg staff cegin a gweini

"Mae 'na brinder aruthrol o chefs," meddai Mr Evans, "mae 'na miloedd wedi mynd yn ôl i'w gwledydd ei hunain ar y cyfandir."

"Ond mae 'na brinder o staff local hefyd.

"Beth sydd yn drist ydy 'da ni'n rhoi advert ymlaen ar 'Indeed' a ma na bobl yn ffonio fyny - da nhw ddim yn rili interested i ddod i gwaith. Ma nhw'n mynd drwy'r felin yma i ddangos bo nhw'n trio am waith, a'r un un enwau 'da ni'n ei weld bob dydd. Ac mae o'n rili drist iddyn nhw ac i ni."

Dywedodd Mr Evans bod goblygiadau ariannol o ganlyniad i ganslo dros 500 o fyrddau, ond nad oedd dewis ganddo.

"Mae o'n mynd i gael effaith, ac wrach be 'newn ni ydy lleihau'r oriau 'da ni'n agor ag ella newid mwy o westy yn lle tafarn.... ac ma hynna yn drist.

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl ddylse rhwbeth fod yn cael ei wneud, achos nid jest ni fydd o, fydd o'n effeithio pawb yn y wlad 'ma."

Disgrifiad o’r llun,

Fe brynodd Anwen Evans a'i thad fanc Barclays yn Nhregaron i'w droi yn fwyty ar gyfer yr Eisteddfod

Ar ran Ffederasiwn y Busnesau Bach dywedodd Dr Llyr ap Gareth: "Fe allai y broblem yma o sgiliau fod yn rhywbeth sy'n pusho rhai busnesau bach dros y dibyn. Fe allai ychydig broblemau ychwanegol fel hyn olygu bod rhai busnesau yn methu cario ymlaen gan fethu gweithredu yn ystod tymor pwysig yr haf."

Dywedodd Anwen Evans o Fwyty'r Banc yn Nhregaron - bwyty a agorwyd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol oedd i fod yno yn 2020, ei bod yn anodd dod o hyd i brif gogydd.

"Fe gafodd yr industry ei fwrw lawr mor galed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - mae nifer o bobl wedi cael swyddi eraill ac wedi aros yn y swyddi hynny," meddai.

Dywed cwmni Harlech Foods hefyd eu bod nhw methu llenwi 30 o swyddi a bod hynny yn golygu eu bod yn cael trafferth "i gael yr orders i gyd allan".