Cwpan Pencampwyr Ewrop: Gweilch 35-29 Montpellier
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweilch wedi cymryd cam enfawr tuag at sicrhau lle yn rownd 16 olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop yn dilyn buddugoliaeth wych yn erbyn Montpellier.
Fe wnaeth cais hwyr Morgan Morris sicrhau'r pwyntiau i godi tîm Toby Booth i'r pedwerydd safle yn eu grŵp, gydag un gêm i fynd yn erbyn Caerlŷr nos Wener.
Roedd y Gweilch yn ddiolchgar i'w capten Justin Tipuric am berfformiad arwrol, a Cai Evans am gicio 15 o bwyntiau tra bod y Ffrancwyr wedi pethu pedair o'u rhai nhw.
Y tîm cartref aeth ar y blaen gyntaf yn Stadiwm Liberty diolch i gais Alex Cuthbert, gydag Evans yn trosi.
Wedi i gapten Montpellier Paul Willemse groesi i gau'r bwlch, llwyddodd Evans gyda chic gosb i ymestyn mantais y Gweilch ychydig, cyn i Willemse unioni'r sgôr gyda'i ail o'r noson.
Ond fe fethodd Leo Coly'r trosiad ar ôl cymryd y cyfrifoldebau cicio oddi ar Louis Carbonel, oedd wedi methu ddwywaith eisoes, ac fe wnaeth cic gosb arall gan Evans roi mantais o 13-10 i'r Gweilch ar yr egwyl.
Wedi chic arall gan Evans ar ddechrau'r ail hanner, fe aeth Montpellier ar y blaen am y tro cyntaf yn yr ornest diolch i gais y clo Bastien Chalureau a throsiad gan Coly.
Fe aeth y gêm o un cyfeiriad i'r llall wedyn, gydag ail gais Cuthbert a throsiad Evans yn rhoi'r Gweilch ar y blaen, cyn i Thomas Darmon sicrhau pwynt bonws i'r ymwelwyr a throsiad Bouthier roi'r fantais yn ôl iddyn nhw.
Yna daeth moment fawr Tipuric, gyda'r blaenasgellwr yn casglu a chicio'r bêl yn hyfryd, a Keelan Giles yn ei helpu hi ymlaen gyda'i droed yntau cyn i Tipuric orffen y symudiad, gydag Evans yn trosi eto.
Daeth pumed cais Montpellier i Corbus Reinach, ond methwyd y trosiad gan olygu bod gan y Gweilch bwynt o fantais o hyd.
Ac fe wnaeth y tîm cartref wrthod cynnig am gic gosb er mwyn ceisio sicrhau pedwerydd cais a phwynt bonws, a ddaeth yn y diwedd wrth i Morris wthio'i ffordd dros y llinell.