Apêl heddlu wedi digwyddiad yn Llangefni

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio wedi i ddynes yn Llangefni gael mân anafiadau ar ôl i rywun geisio dwyn ei chi oddi arni ar goetir yn y dre brynhawn Sadwrn.

Oddeutu 15:00 roedd y ddynes yn cerdded gyda'i chi ar dir coediog ger hen fynedfa'r coleg oddi ar Ffordd Penmynydd pan fynnodd y dyn ei bod yn rhoi ei chi iddo.

Fe wnaeth e wedyn redeg i gyfeiriad Stad Pencraig.

Mae e'n cael ei ddisgrifio fel dyn yn ei ugeiniau cynnar. Roedd e'n siarad gydag acen Wyddelig, yn gwisgo balaclafa du a thop tywyll.

Mae plismyn yn cynnal ymholiadau o ddrws i ddrws yn ardal Llangefni ac yn edrych ar luniau camerâu cylch cyfyng ond maen nhw'n awyddus i unrhyw un a welodd unrhyw ymddygiad amheus i gysylltu â nhw ar unwaith drwy ffonio 101.

Pynciau cysylltiedig